Addasiadau Rhesymol: Canllaw i Reolwyr - Gorffennaf 2026
Yn yr adran hon
- 7. Beth os Nad yw Rhywun Wedi Datgan Anabledd yr Ydych Chi’n Ofni sy’n Bod?
- 8. Sicrhau Triniaeth Gyfartal
- Atodiad 1 - Recriwtio a Phenodi
- Atodiad 2 - Cynllun Gweithredu Addasiad Rhesymol
- Atodiad 3 - Cyngor a Chefnogaeth
- Atodiad 4 - Awgrymiadau da ar Gyfer Cefnogi Gweithwyr Anabl
7. Beth os Nad yw Rhywun Wedi Datgan Anabledd yr Ydych Chi’n Ofni sy’n Bod?
Fel rheolwr mae’n rhaid ichi fod yn ymwybodol efallai na fydd gweithiwr yn dweud wrthych eu bod yn byw ag anabledd oherwydd:
Nad ydynt yn meddwl am eu hunain yn rhywun sy’n byw ag anabledd.
Nid ydynt yn meddwl fod angen addasiadau rhesymol arnynt.
Maent yn poeni am yr adwaith maen nhw’n ei ddisgwyl gan y sefydliad.
Maent yn ofni’r syniad o aflonyddwch, bwlïo neu ddicter gan gydweithwyr.
Fel rheolwr mae’n rhaid ichi fod yn effro i unrhyw arwyddion all fod yn gysylltiedig ag anabledd megis:
Mae eu presenoldeb wedi gwaethygu.
Mae eu perfformiad yn y gwaith wedi gwaethygu.
Mae eu hymddygiad yn y gwaith wedi newid ac maent wedi mynd yn ddig, encilgar, dagreuol, anghofus neu ymosodol.
Nid ydynt yn cadw at amser fel yr oeddent.
Maent yn edrych mewn poen.
Maent yn absennol o’r gwaith am resymau meddygol.
Os yw unrhyw aelod o’ch tîm yn profi’r gofidiau hyn, dylech wastad ystyried y posibilrwydd y gall hynny fod yn gysylltiedig ag anabledd. Fodd bynnag, peidiwch gwneud rhagdybiaethau gan y gallai pob un o’r uchod gael eu hachosi oherwydd gofidiau neu amgylchiadau eraill.
Yn hytrach na cheisio penderfynu a yw gweithiwr yn bodloni’r diffiniad o anabledd, siaradwch â nhw i geisio cael gwybod beth fyddai’n helpu. Yna ceisiwch gyflwyno unrhyw addasiadau y gallwch yn rhesymol eu gwneud i’w helpu i wneud eu swydd yn yr hirdymor neu’r tymor byr.
Bydd cael dealltwriaeth dda o’r ffordd y mae unigolion yn eich tîm yn perfformio ac ymddwyn yn gyffredinol yn golygu eich bod yn fwy tebygol o allu adnabod unrhyw newidiadau ynddynt. Os digwydd hynny, dylech allu cael sgwrs am ba addasiadau y gallech eu gwneud. Trowch at Atodiad 4 i gael awgrymiadau da ar gefnogi’r gweithiwr.
