Addasiadau Rhesymol: Canllaw i Reolwyr - Gorffennaf 2026
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Beth Mae’r Term “Anabledd” yn ei Olygu a Phwy sy’n Cael eu Cynnwys?
- 3. Beth yw fy Rôl fel Rheolwr?
- 4. Y Gyfraith
- 5. Pwy Allai Ddarparu Cefnogaeth i Drefnu Addasiadau Rhesymol?
- 6. Beth sy’n Rhesymol?
2. Beth Mae’r Term “Anabledd” yn ei Olygu a Phwy sy’n Cael eu Cynnwys?
Mae’r term “anabledd” yn berthnasol i ystod o bobl a chanddynt anhwylderau gwahanol. Nid cyflyrau corfforol yn unig a gynhwysir, mae cyflyrau megis gorbryder neu iselder hefyd yn cael eu cynnwys yn y diffiniad.
Fel rheolwr mae angen ichi fod yn ymwybodol hefyd fod y term anabledd yn yr ystyr gyfreithiol mor eang fel bod pobl na fyddech efallai’n eu hystyried yn anabl yn cael eu cynnwys, er enghraifft, pobl â diabetes, asthma, problemau cefn, anffurfiadau gwyneb a chyflyrau iechyd meddwl megis anhwylder gorfodaeth obsesiynol.
Yr un yw rheoli gweithiwr ag afiechyd meddwl â rheoli gweithiwr â salwch corfforol. Eich dyletswydd fel rheolwr fyddai ceisio rhoi addasiadau ar waith i’w helpu trwy eu hafiechyd ac i aros mewn gwaith/dod yn ôl i’r gwaith.
Mae gweithwyr a gafodd ddiagnosis o ganser, sglerosis ymledol (MS) a HIV yn cael eu cynnwys yn awtomatig o safbwynt diagnosis. Nid yw alcoholiaeth / caeth i sylweddau yn cael eu cynnwys yn y diffiniad er y gall yn ddiweddarach effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol a gall hynny olygu y caiff gweithiwr ei ddiffinio’n anabl. Nid yw’n bosib darparu rhestr gynhwysfawr o’r holl anhwylderau allai arwain person i ystyried eu hunain yn anabl. Y rheswm am hynny yw bod y diffiniad cyfreithiol yn eang ac nad yw bob tro’n hawdd ei gymhwyso.
