Addasiadau Rhesymol: Canllaw i Reolwyr - Gorffennaf 2026
Yn yr adran hon
6. Beth sy’n Rhesymol?
Gall fod yn anodd asesu a yw addasiad yn rhesymol, a dylid ystyried nifer o ffactorau.
6.1 Beth mae addasiad rhesymol yn ei gostio?
Mae’n werth nodi nad yw’r rhan fwyaf o addasiadau yn costio fawr ddim os o gwbl a’u bod yn aml yn fater o hyblygrwydd neu o newid ffordd o wneud rhywbeth yn y gweithle.
Pan mae cost i wneud yr addasiad rhesymol ac os ydych yn teimlo y gallai’r gost fod yn ormodol, bydd angen ichi ystyried:
Pa mor ddrud yw’r addasiad yng nghyswllt Cyngor Sir Caerfyrddin yn gyffredinol. Fel sefydliad mawr gallai fod yn anodd inni amddiffyn methiant i wneud addasiad rhesymol ar sail cost yn unig. Dylid cymryd cyngor gan eich Partner Busnes Adnoddau Dynol a chan eich Pennaeth Gwasanaeth os yw addasiad rhesymol yn ymddangos yn rhy gostus. Dylech gofio y gellir hawlio grantiau gan Mynediad at Waith.
A fydd yr addasiad o fudd i bobl eraill yn ogystal â’r gweithiwr anabl? Er enghraifft, efallai y bydd arwyddion cliriach, gwell goleuo a drysau awtomatig yn golygu buddsoddiad ariannol yn y lle cyntaf, ond byddent o fudd i lawer o bobl.
6.2 mor effeithiol yw’r addasiad rhesymol arfaethedig?
Ni ellir ond ystyried addasiad rhesymol yn rhesymol os yw’n lleihau’r anfantais y mae’r gweithiwr yn ei hwynebu. Dylech ofyn i’r gweithiwr bob tro beth maen nhw’n feddwl fyddai’n eu helpu i wneud y swydd, ond cofiwch nad y bobl sy’n byw ag anabledd yw’r arbenigwyr ar yr holl gymorth sydd ar gael iddynt bob tro. Efallai y bydd Iechyd Galwedigaethol yn gallu rhoi mwy o gyngor os oes ei angen.
6.3 Pa mor ymarferol yw gwneud yr addasiad?
Ni fydd addasiadau ond yn rhesymol os yw’n ymarferol i’w gwneud.
Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai na fydd y math o addasiad sydd ei angen yn ymarferol oherwydd amgylchiadau eraill e.e. os oes angen peth gwaith strwythurol i adeilad rhestredig, efallai na fydd hynny’n bosib bob tro, er bod angen ystyried pob sefyllfa yn unigol.
Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y bydd rhaid ichi ystyried mathau gwahanol o waith trwy gytundeb, a gall hwnnw fod yn addasiad rhesymol.
6.4 Faint o aflonyddwch fydd yn ei achosi?
Bydd faint o aflonyddwch y byddai addasiad yn ei achosi i’r gallu i ddarparu gwasanaeth yn effeithio ar a yw addasiad yn cael ei ystyried yn rhesymol. Er nad yw’r rhan fwyaf o addasiadau yn tarfu mewn unrhyw ffordd ac ond yn effeithio ar y ffordd y mae unigolyn yn gweithio, gall fod sefyllfaoedd lle y mae addasiad rhesymol arfaethedig yn tarfu gormod ar y gallu i ddarparu gwasanaeth, ac mewn sefyllfa felly bydd angen ystyried addasiadau eraill.
6.5 Sut mae’n effeithio ar bobl eraill yn y tîm?
Eich rôl chi fel rheolwr yw esbonio’n glir nad yw cydraddoldeb yn golygu trin pawb yn yr un ffordd; mewn gwirionedd, er mwyn trin pobl yn deg mae’n rhaid inni eu trin yn wahanol yn ôl eu hanghenion.
Ni ddylid ond dweud wrth aelodau eraill y tîm gan gynnwys rheolwyr eraill/uwch reolwr am anabledd person neu unrhyw gyflwr iechyd ar ôl cael cydsyniad penodol y gweithiwr.
Bydd angen iddynt gael gwybod am unrhyw addasiad rhesymol a wneir os yw hwnnw’n cael effaith arnyn nhw ac ar eu hamgylchedd gwaith.
Os yw person anabl yn teimlo’n gyfforddus ac yn cael eu gwerthfawrogi yn yr amgylchedd maen nhw’n gweithio ynddo, maen nhw’n fwy tebygol o ddatgelu eu hanabledd ichi fel eu rheolwr ac i gydweithwyr.
6.6 A yw’n creu perygl iechyd a diogelwch?
Mae’n bwysig ystyried a yw addasiad rhesymol yn rhoi’r gweithiwr anabl ac eraill mewn perygl.
Os yw addasiad yn creu risg annerbyniol i iechyd a diogelwch y gweithiwr anabl neu unrhyw weithwyr eraill, ni fydd byth yn rhesymol. Fodd bynnag, cyn y gwneir penderfyniad i wrthod addasiad am resymau iechyd a diogelwch mae’n rhaid ichi ofalu fod yr holl ffeithiau gennych ac nad ydych yn seilio’r gwrthodiad ar ragdybiaethau. Mae hynny’n golygu cynnal asesiad risg trylwyr a gofyn am gyngor gan Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch. Enghreifftiau o addasiadau rhesymol.
