Canllawiau Polisi a Gweithdrefnau Disgyblu Prif Swyddogion
Yn yr adran hon
- 7. Detholiad o Ran 4.8 o’r Rheolau Gweithdrefn ar gyfer Cyflogi Swyddogion
- 8. Apeliadau
- 9. Rhan 1 – Gweithdrefn Ddisgyblu – Prif Weithredwr
- 10. Rhan 2 - Gweithdrefn Ddisgyblu - Prif Swyddogion (Statudol) Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Cyfarwyddwr Cyllid/Ddnoddau, Swyddog Monitro
- 11. Rhan 3 - Gweithdrefn Ddisgyblu - Prif Swyddogion (Anstatudol) – Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth
- 12. Atodiad a – Y Weithdrefn a'r Canllawiau Disgyblu Enghreifftiol – Cymru (Dyfyniad o Lawlyfr y JNC i Brif Weithredwyr)
1. Cwmpas
Mae'r Polisi a'r Gweithdrefnau hyn yn berthnasol i Brif Weithredwr, Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth yr Awdurdod gan gynnwys swyddogion statudol a dylid eu darllen ar y cyd â Llawlyfrau’r JNC ar gyfer Prif Swyddogion a Phrif Weithredwyr. Fe'i rhennir yn 3 adran gyda phob adran yn amlinellu’r rheolau a'r gweithdrefnau sy'n berthnasol i bob grŵp.
Mae'n berthnasol i unrhyw gamau a gymerir oherwydd camymddwyn honedig a fyddai, os câi ei brofi, yn ôl arfer arferol yr awdurdod, yn cael ei gofnodi ar ffeil bersonol yr aelod staff, ac mae'n cynnwys unrhyw gynnig i ddiswyddo am unrhyw reswm dileu swydd, afiechyd parhaol neu wendid meddyliol neu gorfforol, ond nid yw'n cynnwys methiant i adnewyddu contract cyflogaeth am gyfnod penodol oni bai bod yr awdurdod wedi ymrwymo i adnewyddu contract o'r fath. Mae hyn yn cynnwys rhesymau eraill dros ddiswyddo fel gallu neu unrhyw reswm sylweddol arall gan gynnwys diffyg ymddiriedaeth a hyder rhwng y Prif Swyddog a'r awdurdod. Felly, er bod y diffiniad yn cyfeirio at gamau disgyblu, mae'n nodi unrhyw gamau a allai arwain at rybudd am gamymddwyn neu lle mae amgylchiadau a allai arwain at gynnig i ddiswyddo am unrhyw reswm. (Dyfyniad o Bolisi Enghreifftiol y JNC).
Mae'n eithrio diswyddo ar sail Dileu Swydd; Dod â chontract cyfnod penodol i ben; Ymddeol neu derfynu ar sail salwch parhaol.
