Protocol Atal - Mehefin 2026
Yn yr adran hon
- 9. Absenoldeb salwch yn ystod cyfnod atal
- 10. Absenoldeb mamolaeth yn ystod cyfnod atal
- 11. Gwyliau Blynyddol
- 12. Atal gweithiwr am resymau meddygol
- 13. Sicrhau Cyfle Cyfartal
- 14.1. ATODIAD 1 - Rhestr Wirio ar gyfer Atal Gweithwyr i Reolwyr
- 14.2 ATODIAD 2 - Ymddygiad Gweithwyr - Canllawiau i Weithwyr sydd wedi'u Hatal
- 14.3 ATODIAD 3 - Swyddog Cyswllt
1. Cyflwyniad
Bydd adegau pan fydd angen atal gweithiwr o'r gwaith â thâl tra bydd ymchwiliad ar waith. Er enghraifft, mewn achosion o gamymddwyn difrifol, pan fydd pryderon iechyd a diogelwch neu pan fydd risg o ran eiddo gweithwyr, yr Awdurdod, neu ddefnyddwyr gwasanaeth, neu o ran cyfrifoldebau i bartïon eraill.
Gellir hefyd ystyried atal rhywun pan fydd sail resymol dros gredu y dinistriwyd neu yr amharwyd ar dystiolaeth neu fod tystion wedi cael eu rhoi o dan bwysau yn ystod y broses ymchwilio neu cyn y gwrandawiad disgyblu.
Dylid rhoi gwybod i weithwyr sydd wedi'u hatal nad ystyrir hyn yn gam disgyblu.
Er lles yr holl bartïon, dylid symud ymlaen â'r ymchwiliad a'r gwrandawiad disgyblu (os yw'n briodol) mor gyflym â phosibl.
Rhaid parhau i adolygu unrhyw benderfyniad i atal gweithiwr. (DS: mewn rhai achosion, bydd yn rhaid rhoi ystyriaeth i ofynion safonau a chodau proffesiynol sy'n rheoli plant ac oedolion sy'n agored i niwed). Rhaid ichi ymgynghori â'ch Partner Busnes Adnoddau Dynol cyn y gwneir penderfyniad atal.
