Protocol Atal - Mehefin 2026
Yn yr adran hon
- 9. Absenoldeb salwch yn ystod cyfnod atal
- 10. Absenoldeb mamolaeth yn ystod cyfnod atal
- 11. Gwyliau Blynyddol
- 12. Atal gweithiwr am resymau meddygol
- 13. Sicrhau Cyfle Cyfartal
- 14.1. ATODIAD 1 - Rhestr Wirio ar gyfer Atal Gweithwyr i Reolwyr
- 14.2 ATODIAD 2 - Ymddygiad Gweithwyr - Canllawiau i Weithwyr sydd wedi'u Hatal
- 14.3 ATODIAD 3 - Swyddog Cyswllt
4. Gweithredu'r broses atal
Ar ôl cytuno i wneud penderfyniad i atal gweithiwr, rhaid i'r rheolwr llinell ddilyn y weithdrefn ganlynol:
Cwrdd â'r gweithiwr a'u hysbysu am y rheswm dros atal;
Esbonio'r honiad yn glir, heb gymryd rhan mewn unrhyw sgyrsiau eraill;
Esbonio beth sy'n digwydd nesaf (cyfeirio at y weithdrefn a'r polisi perthnasol);
Rhoi gwybod i'r gweithiwr:
Na chaniateir iddynt fod yn bresennol yn y gweithle nac ar unrhyw un o safleoedd yr Awdurdod a nodwyd gan y rheolwr llinell yn ystod y cyfnod atal (bydd angen i'r rheolwr llinell benderfynu pan wneir y penderfyniad i atal a fydd presenoldeb y gweithiwr ar unrhyw un o safleoedd yr Awdurdod ac eithrio'r gweithle yn cael effaith ar yr ymchwiliad ac enwi'r rhain yn nhelerau'r cyfnod atal) na chartrefi'r defnyddwyr gwasanaeth heb wneud trefniant blaenorol gyda'r Swyddog Ymchwilio;
Os ydynt yn dymuno cysylltu â chydweithwyr rhaid iddynt yn gyntaf gael caniatâd y Swyddog Ymchwilio. Bydd angen i'r Swyddog Ymchwilio fod yn fodlon bod sail resymol dros y cais ac na fydd y cyswllt yn amharu ar unrhyw ymchwiliad cysylltiedig. Os methir â chydymffurfio â'r broses hon, gallai rhagor o gamau disgyblu gael eu cymryd;
Mae atal yn weithred niwtral a'r diben yw eu gwaredu o'r gweithle, naill ai er eu diogelwch eu hunain neu er budd defnyddwyr gwasanaeth/aelodau'r cyhoedd a staff eraill, fel y gellir cynnal ymchwiliad;
Rhaid iddynt fod ar gael yn ystod eu horiau gwaith arferol er mwyn i'r Swyddog Ymchwilio gyfweld â nhw. Felly, ni ddylai'r gweithiwr adael yr ardal na mynd dramor ar eu gwyliau tra byddant wedi'u hatal rhag eu dyletswyddau, heb gael awdurdodiad ymlaen llaw gan y Swyddog Ymchwilio;
Gofynnir i Swyddog Cyswllt (cydweithiwr fel arfer) fod yn brif bwynt cyswllt i'r gweithiwr yn ystod y cyfnod atal (gweler paragraff 15).
Yn olaf, ond yn bwysicaf oll, dylid rhoi gwybod i'r gweithiwr os yw'n dymuno ceisio cymorth gan iechyd galwedigaethol, gellir trefnu atgyfeiriad trwy'r Swyddog Cyswllt, a fydd yn cael ei glustnodi'n fuan, neu'r rheolwr llinell.
Ar ôl i'r cyfarfod atal gael ei gwblhau, bydd y rheolwr llinell yn helpu'r gweithiwr i gasglu ei eiddo personol ac yn hebrwng y gweithiwr o'r safle.
