Protocol Atal - Mehefin 2026

1. Cyflwyniad

Bydd adegau pan fydd angen atal gweithiwr o'r gwaith â thâl tra bydd ymchwiliad ar waith. Er enghraifft, mewn achosion o gamymddwyn difrifol, pan fydd pryderon iechyd a diogelwch neu pan fydd risg o ran eiddo gweithwyr, yr Awdurdod, neu ddefnyddwyr gwasanaeth, neu o ran cyfrifoldebau i bartïon eraill.

Gellir hefyd ystyried atal rhywun pan fydd sail resymol dros gredu y dinistriwyd neu yr amharwyd ar dystiolaeth neu fod tystion wedi cael eu rhoi o dan bwysau yn ystod y broses ymchwilio neu cyn y gwrandawiad disgyblu.

Dylid rhoi gwybod i weithwyr sydd wedi'u hatal nad ystyrir hyn yn gam disgyblu.

Er lles yr holl bartïon, dylid symud ymlaen â'r ymchwiliad a'r gwrandawiad disgyblu (os yw'n briodol) mor gyflym â phosibl.

Rhaid parhau i adolygu unrhyw benderfyniad i atal gweithiwr. (DS: mewn rhai achosion, bydd yn rhaid rhoi ystyriaeth i ofynion safonau a chodau proffesiynol sy'n rheoli plant ac oedolion sy'n agored i niwed). Rhaid ichi ymgynghori â'ch Partner Busnes Adnoddau Dynol cyn y gwneir penderfyniad atal.


2. Cwmpas

Mae’r cynllun hwn yn berthnasol i holl weithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin, heb gynnwys staff a gyflogir gan ysgolion a reolir yn lleol, lle bydd y corff llywodraethu’n pennu’r polisi.


3. Rhesymau dros Atal

Cyn penderfynu atal aelod o staff, rhoddir ystyriaeth i'r ffactorau canlynol:

Difrifoldeb yr honiadau ynghylch yr unigolyn

Yr angen i gynnal uniondeb yr ymchwiliad

Lles yr unigolyn y gwneir yr honiad yn ei erbyn

Lles yr Awdurdod, gweithwyr eraill, aelodau o'r cyhoedd neu'r defnyddwyr gwasanaeth

Cysondeb â honiadau tebyg yn y gorffennol

Ar ôl ystyried yr uchod, rhaid i'r rheolwr llinell benderfynu a fyddai'n briodol trosglwyddo'r gweithiwr i faes gwaith neu dîm arall yn hytrach na'i atal.

Cyn gwneud penderfyniad ynghylch atal gweithiwr sy'n gynrychiolydd undeb llafur. Rhaid i'r rheolwr llinell geisio cyngor gan Ymgynghorydd Adnoddau Dynol.

1Cyn gweithredu unrhyw benderfyniad i atal gweithiwr, rhaid i'r rheolwr llinell ymgynghori â'i Bennaeth Gwasanaeth a cheisio cyngor gan Bartner Busnes Adnoddau Dynol. (Edrychwch ar y rhestr wirio ar gyfer y rheolwr llinell yn Atodiad 1).


4. Gweithredu'r Broses Atal

Ar ôl cytuno i wneud penderfyniad i atal gweithiwr, rhaid i'r rheolwr llinell ddilyn y weithdrefn ganlynol:

Cwrdd â'r gweithiwr a'u hysbysu am y rheswm dros atal;

Esbonio'r honiad yn glir, heb gymryd rhan mewn unrhyw sgyrsiau eraill;

Esbonio beth sy'n digwydd nesaf (cyfeirio at y weithdrefn a'r polisi perthnasol);

Rhoi gwybod i'r gweithiwr:

  • Na chaniateir iddynt fod yn bresennol yn y gweithle nac ar unrhyw un o safleoedd yr Awdurdod a nodwyd gan y rheolwr llinell yn ystod y cyfnod atal (bydd angen i'r rheolwr llinell benderfynu pan wneir y penderfyniad i atal a fydd presenoldeb y gweithiwr ar unrhyw un o safleoedd yr Awdurdod ac eithrio'r gweithle yn cael effaith ar yr ymchwiliad ac enwi'r rhain yn nhelerau'r cyfnod atal) na chartrefi'r defnyddwyr gwasanaeth heb wneud trefniant blaenorol gyda'r Swyddog Ymchwilio;

  • Os ydynt yn dymuno cysylltu â chydweithwyr rhaid iddynt yn gyntaf gael caniatâd y Swyddog Ymchwilio. Bydd angen i'r Swyddog Ymchwilio fod yn fodlon bod sail resymol dros y cais ac na fydd y cyswllt yn amharu ar unrhyw ymchwiliad cysylltiedig. Os methir â chydymffurfio â'r broses hon, gallai rhagor o gamau disgyblu gael eu cymryd;

  • Mae atal yn weithred niwtral a'r diben yw eu gwaredu o'r gweithle, naill ai er eu diogelwch eu hunain neu er budd defnyddwyr gwasanaeth/aelodau'r cyhoedd a staff eraill, fel y gellir cynnal ymchwiliad;

  • Rhaid iddynt fod ar gael yn ystod eu horiau gwaith arferol er mwyn i'r Swyddog Ymchwilio gyfweld â nhw. Felly, ni ddylai'r gweithiwr adael yr ardal na mynd dramor ar eu gwyliau tra byddant wedi'u hatal rhag eu dyletswyddau, heb gael awdurdodiad ymlaen llaw gan y Swyddog Ymchwilio;

  • Gofynnir i Swyddog Cyswllt (cydweithiwr fel arfer) fod yn brif bwynt cyswllt i'r gweithiwr yn ystod y cyfnod atal (gweler paragraff 15).

  • Yn olaf, ond yn bwysicaf oll, dylid rhoi gwybod i'r gweithiwr os yw'n dymuno ceisio cymorth gan iechyd galwedigaethol, gellir trefnu atgyfeiriad trwy'r Swyddog Cyswllt, a fydd yn cael ei glustnodi'n fuan, neu'r rheolwr llinell.

Ar ôl i'r cyfarfod atal gael ei gwblhau, bydd y rheolwr llinell yn helpu'r gweithiwr i gasglu ei eiddo personol ac yn hebrwng y gweithiwr o'r safle.


5. Cadarnhad yn Ysgrifenedig

Rhaid i'r rheolwr llinell gadarnhau'r manylion ynghylch atal gweithiwr yn ysgrifenedig i'r gweithiwr heb fod yn hwyrach na 3 diwrnod gwaith ar ôl ei atal. Dylid anfon copi o'r llythyr hwn at y Partner Busnes Adnoddau Dynol a bydd yn cael ei gadw ar ffeil bersonél y gweithiwr (Gweler Atodiad 2 – Canllawiau i Weithwyr, sy'n cyd-fynd â'r llythyr. Dylid ceisio cyngor gan Bartner Busnes Adnoddau Dynol ynghylch geiriad y llythyr).

Os yw'r gweithiwr yn aelod o undeb llafur, bydd y rheolwr llinell yn anfon copi o'r llythyr atal at y swyddfa gangen leol neu’r cynrychiolydd a enwir, oni bai bod y gweithiwr yn nodi fel arall yn ysgrifenedig. Yn ogystal, os yw'r gweithiwr yn gynrychiolydd undeb llafur, rhaid i aelod o'r Tîm Adnoddau Dynol roi gwybod i swyddog amser llawn yr undeb llafur am yr honiad(au) drwy'r gangen leol.


6. Swyddog Cyswllt

Mae'r rheolwr llinell yn gyfrifol am glustnodi Swyddog Cyswllt ar gyfer y gweithiwr sydd wedi'i atal er mwyn rhoi cymorth diduedd a chadw mewn cysylltiad yn rheolaidd â'r gweithiwr sydd wedi'i atal. Ni fydd y Swyddog Cyswllt yn rhan o'r ymchwiliad a dylai gadw cofnod o'r ymweliadau a'r cysylltiadau yn ystod y cyfnod atal.


7. Amserlen ar Gyfer y Broses Atal

Mae'r Swyddog Ymchwilio yn gyfrifol am gynllunio a pharatoi'r ymchwiliad yn unol â'r Polisi Ymchwilio.

Bydd y Swyddog Ymchwilio yn adolygu'r penderfyniad ynghylch atal a thermau'r ataliad hwnnw ar ôl camau allweddol yn ystod yr ymchwiliad ac ysgrifennir at y gweithiwr ar adegau y cytunir arnynt yn ystod yr ymchwiliad i gadarnhau'r cynnydd o ran yr ymchwiliad.

Mewn rhai amgylchiadau, lle mae'r Heddlu, swyddogion amddiffyn plant/oedolion neu swyddogion archwilio mewnol/allanol yn cynnal ymchwiliad ar yr un pryd, efallai na fydd yn bosibl symud ymlaen ag ymchwiliad gan y rheolwyr hyd nes y bydd tystiolaeth wedi'i chyflwyno i'r llysoedd. Fodd bynnag, dylid parhau i hysbysu'r gweithiwr ynghylch camau gweithredu'r Awdurdod yn ystod y cyfnod hwn.


8. Atal Gweithiwr â Thâl

Bydd yr holl weithwyr sy'n cael eu hatal yn derbyn eu cyflog contractiol arferol a rhoddir esboniad ynghylch sut y bydd hyn yn cael ei gyfrifo yn y llythyr atal.


9. Absenoldeb Salwch yn Ystod Cyfnod Atal

Os bydd gweithiwr yn sâl yn ystod y cyfnod atal, bydd gofynion hysbysu arferol Polisi Absenoldeb Salwch yr Awdurdod yn berthnasol. Bydd y cyfnod o absenoldeb salwch yn cael ei gofnodi a bydd y darpariaethau o ran tâl salwch yn berthnasol.


10. Absenoldeb Mamolaeth yn Ystod Cyfnod Atal

Os bydd gweithiwr yn cychwyn absenoldeb mamolaeth yn ystod y cyfnod atal, bydd y gofynion hysbysu arferol o ran Polisi Mamolaeth yr Awdurdod yn berthnasol.


11. Gwyliau Blynyddol

Bydd gwyliau blynyddol yn dal i gael eu cronni tra bydd y gweithiwr wedi ei atal yn ystod y flwyddyn gwyliau blynyddol. Dylai gweithwyr sydd wedi'u hatal barhau i wneud ceisiadau am wyliau blynyddol yn unol â gweithdrefn eu hadran tra byddant wedi'u hatal, gan na fydd yr hawl hon yn cael ei throsglwyddo i'r flwyddyn wyliau ganlynol.


12. Atal Gweithiwr am Resymau Meddygol

Mewn achosion lle mae amheuaeth ynghylch a yw gweithiwr yn ddigon iach i weithio, rhaid i'r rheolwr llinell sicrhau y ceisir cyngor gan Iechyd Galwedigaethol a Phartner Busnes Adnoddau Dynol cyn y gwneir penderfyniad i atal gweithiwr, ac y gwneir hynny yn unol â'r Polisi Absenoldeb Salwch.

Cyn dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o atal am resymau meddygol, bydd y gweithiwr yn cael ei atgyfeirio at yr Uned Iechyd Galwedigaethol. Disgwylir i'r gweithiwr gydweithredu'n llawn ag unrhyw gais i fynychu unrhyw asesiadau iechyd.


13. Sicrhau Cyfle Cyfartal

Rhaid i bob gweithiwr fabwysiadu agwedd gadarnhaol, agored a theg a gofalu y cedwir at Bolisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Awdurdod ac y caiff ei weithredu’n gyson heb ystyried hil, lliw, cenedligrwydd, gwreiddiau ethnig neu genedlaethol, anabledd, crefydd a chred neu ddiffyg cred, oed, rhyw, ailbennu rhywedd, hunaniaeth rywedd a mynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd neu famolaeth, statws priodasol neu bartneriaeth sifil.

Hefyd, mae Safonau’r Gymraeg yn gofyn inni ‘sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg’ a dylid mabwysiadu’r egwyddor hon wrth gymhwyso’r polisi a’r weithdrefn a geir yma.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn perthynas â gweithredu'r polisi a'r weithdrefn, cysylltwch ag aelod o'r Tîm Gwasanaethau Pobl a fydd yn sicrhau, os bydd angen, fod y polisi neu'r weithdrefn yn cael eu hadolygu yn unol â hynny.

Os oes angen copi o'r cyhoeddiad hwn arnoch mewn fformat arall, cysylltwch â Gwasanaethau Pobl drwy e-bost at CHR@sirgar.gov.uk


Atodiad 1 - Rhestr Wirio ar gyfer Atal Gweithwyr i Reolwyr

Atodiad 1 - Rhestr Wirio ar gyfer Atal Gweithwyr i Reolwyr


Atodiad 2 - Ymddygiad Gweithwyr - Canllawiau i Weithwyr sydd wedi'u Hatal

Atodiad 2 - Ymddygiad Gweithwyr - Canllawiau i Weithwyr sydd wedi'u Hatal


Atodiad 3 - Swyddog Cyswllt

Appendix 3 - Swyddog Cyswllt