Canllawiau Ynghylch Contract Cyfnod Penodol/Dros Dro - Awst 2026

1. Cyflwyniad

Ysgrifennwyd y canllawiau hyn yn unol â gofynion deddfwriaethol ac felly mae'n berthnasol i holl weithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin ac mewn ysgolion ac mae'n rhoi arweiniad i'r holl Benaethiaid a'r rheolwyr sydd â chyfrifoldeb dros staff o ran cyflwyno a rheoli contractau cyfnod penodol/dros dro.

Penaethiaid, Penaethiaid Gwasanaeth a Rheolwyr sy'n gyfrifol am bennu natur y contract cyflogaeth ar gyfer yr holl staff ac mae'n hanfodol bod rhesymau tryloyw a gwrthrychol dros gytuno bod swydd yn un dros dro neu'n un am gyfnod penodol yn hytrach na bod yn swydd barhaol.

Y brif ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar weithwyr cyfnod penodol/dros dro yw Rheoliadau Gweithwyr Cyfnod Penodol (Atal Triniaeth Lai Ffafriol) 2002 (O.S. 2022/2034), a ddaeth i rym ym mis Hydref 2002, a Rheoliadau Gweithwyr Cyfnod Penodol (Atal Triniaeth Lai Ffafriol) (Diwygio) 2008.

Yn ôl y Rheoliadau:

  • Mae gan weithwyr cyfnod penodol hawl i beidio â chael eu trin yn llai ffafriol na gweithwyr parhaol eraill, oni bai bod y driniaeth lai ffafriol wedi'i chyfiawnhau ar sail wrthrychol;

  • Bydd triniaeth unrhyw weithiwr cyfnod penodol yn cael ei chymharu â thriniaeth unrhyw weithiwr parhaol sy'n gwneud yr un gwaith neu waith tebyg i'r un cyflogwr;

  • Ni ddylai gweithwyr cyfnod penodol gael eu cyflogi ar gyfres o gontractau cyfnod penodol olynol y tu hwnt i 4 blynedd;

  • Ni all gweithwyr cyfnod penodol ildio'u hawl statudol i honni eu bod wedi'u diswyddo'n annheg neu gael taliadau dileu swyddi os bydd eu swyddi'n cael eu dileu ar ddiwedd eu contractau.

  • Gall gweithwyr cyfnod penodol ofyn am ddatganiad ysgrifenedig yn cadarnhau bod eu contractau'n rhai parhaol neu'n nodi cyfiawnhad gwrthrychol dros ddefnyddio contract tymor penodol y tu hwnt i'r cyfnod o bedair blynedd. Rhaid darparu'r datganiad ysgrifenedig cyn pen 21 diwrnod ar ôl y cais.

Trwy ddilyn y cyngor a roddir, gall yr Awdurdod/ysgol sicrhau defnydd priodol o gontractau cyfnod penodol neu dros dro, a lleihau'r risg o ran honiadau'n cael eu gwneud ynghylch diswyddo annheg a chwynion ynghylch triniaeth anghyfartal.


2. Pwrpas

Ni ddylai gweithiwr ar gontract tymor penodol/dros dro ddisgwyl i'w gyflogaeth barhau'n hirach na chyfnod y contract cyntaf. Petai'r contract yn cael ei derfynu'n gynnar h.y. cyn hyd penodol y contract, byddai'r gweithiwr yn cael ei ddiswyddo a byddai'r cyfnod rhybudd perthnasol yn gymwys.


3. Cwmpas

Mae’r cynllun hwn yn berthnasol i holl weithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin, gan gynnwys staff a gyflogir gan ysgolion a reolir yn lleol.


4. Y Gwahaniaethau Rhwng Contract Cyfnod Penodol a Chontract Dros Dro

Rhoddir contract cyfnod penodol i weithiwr pan fydd y dyddiad gorffen neu hyd y contract yn hysbys. Rhaid i'r contract nodi'n glir y rheswm dros y statws cyfnod penodol er mwyn canfod yr elfennau penodol hynny o'r rôl a allai arwain at daliad dileu swydd, neu ai diben y rôl yw cyflenwi, ôl-lenwi ac ati.

Rhoddir contract dros dro i weithiwr pan na fydd y dyddiad gorffen neu hyd y contract yn hysbys, ond bydd y contract yn nodi'r cyfnod a ddisgwylir. Yn ogystal, dylai'r contract nodi'r rheswm dros y statws dros dro.

Pan fydd gweithiwr ar gontract dros dro neu gyfnod penodol am y rhesymau canlynol, bydd y gweithiwr yn gymwys i gael taliad dileu swyddi, os bydd ef/hi wedi cyflawni dwy flynedd neu fwy o wasanaeth di-dor:

  • Cwblhau tasg benodol, megis gwaith prosiect sy'n dibynnu ar gyllid allanol a bydd y swydd yn dod i ben ar ôl i'r cyllid ddod i ben neu os na fydd modd dod o hyd i ragor o gyllid.

  • Cwblhau tasg benodol.

  • Mae'r gweithiwr wedi cael ei recriwtio i ddarparu staff ychwanegol ac mae'r galw am y gwasanaethau'n lleihau neu'n dirwyn i ben.

Mewn achosion o'r fath, y rheswm dros ddiswyddo bydd dileu swydd.

Enghreifftiau o pan fydd contract tymor penodol neu gontract dros dro yn cael ei roi i weithwyr pan mai'r rheswm dros y diswyddo yw "rheswm sylweddol arall”:

  • Cyflenwi ar gyfer absenoldeb mabwysiadu/mamolaeth/rhiant.

  • Cyflenwi ar gyfer prif ddeiliad swydd sydd ar secondiad.

  • Cyflenwi ar gyfer swydd wag wrth ymgymryd â'r broses recriwtio (dim ond ar gyfer swyddi gwag cymeradwy).

  • Cyflenwi ar gyfer absenoldeb tymor hir e.e. salwch.

Mewn achosion o'r fath, nid yw'r gweithiwr fel arfer yn gymwys i gael taliad diswyddo. Dylid defnyddio contractau cyfnod penodol neu dros dro ar gyfer swyddi gwag cymeradwy yn unig; ni ddylid defnyddio'r contractau hyn i gyflenwi ar gyfer swydd sydd yn disgwyl cymeradwyaeth/cyllid.

Ni ddylid defnyddio contractau cyfnod penodol/dros dro i greu 'cyfnod prawf' er mwyn gwerthuso addasrwydd ymgeisydd ar gyfer y swydd. Dylai Penaethiaid Gwasanaeth a Rheolwyr reoli perfformiad gwael/annerbyniol yn unol â'r Polisi a'r Gweithdrefnau Galluogrwydd neu Ddisgyblu. Yn arbennig, lle bo hynny'n berthnasol, dylid gwneud defnydd effeithiol hefyd o gyfnod prawf y gweithiwr, fel y manylir ym Mholisi a Gweithdrefn Rheoli Cyfnod Prawf Gweithwyr.


5. Gweithwyr Achlysurol

Nid yw Gweithwyr Achlysurol yn weithwyr i'r Awdurdod/ysgol a dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y dylid eu defnyddio:

Pan fydd y gwaith

  • Yn digwydd unwaith yn unig ac am gyfnod byr (cyfnod hiraf o 3 mis), neu

  • Yn digwydd yn amlach ond ar sail afreolaidd ac anaml, a

  • Lle nad oes rheidrwydd ar yr Awdurdod neu'r ysgol i gynnig gwaith, na rheidrwydd ar yr unigolyn i’w dderbyn.

Mae'r rhain yn weithwyr sy'n cael eu cyflogi ar gyfer digwyddiad un tro neu gyfres o ddigwyddiadau un tro, e.e. gweithwyr cynlluniau chwarae yn ystod yr haf, lleoliadau gwaith dros yr haf.

Gan fod gweithwyr achlysurol yn gallu llithro i drefniadau gweithio mwy cyfnod hir, mae angen cymryd gofal i wahaniaethu rhwng 'gwir' weithwyr achlysurol ac unigolion sy'n cael eu defnyddio'n fwy aml a rheolaidd. Mae gweithwyr achlysurol yn cronni gwyliau statudol yn unol â Rheoliadau Amser Gweithio y DU, hynny yw 5.6 wythnos (28 diwrnod gan gynnwys 8 o Wyliau Banc/Cyhoeddus) pro rata.


6. Defnydd Olynol o Gontractau Cyfnod Penodol/Dros Dro

Rhaid i'r Awdurdod/ysgol gofio am y defnydd o gontractau cyfnod penodol/dros dro olynol ac mae'n rhaid bod yn ymwybodol y gallai gweithiwr sydd â phedair blynedd neu fwy o wasanaeth ar gontractau cyfnod penodol hawlio statws parhaol oni bai y gellir darparu cyfiawnhad gwrthrychol dros adnewyddu'r contract ymhellach ar sail cyfnod penodol.

Ar ben hynny, os cyfeiriwyd at natur tymor byr y gwaith fel rheswm gwrthrychol dros ddefnyddio contract o'r fath, rhaid cwestiynu'r cyfiawnhad hwnnw os caiff y contract ei adnewyddu sawl tro, a bod cyfanswm hyd y gyflogaeth yn dod yn un sylweddol. Dylid cynnal adolygiadau rheolaidd o'r statws/trefniadau contractiol.


7. Cyhoeddi Contractau Cyfnod Penodol/ Dros Dro

Wrth hysbysebu/cyfweld ar gyfer swydd cyfnod penodol/dros dro, dylai'r rheolwr recriwtio ei gwneud yn glir i ymgeiswyr ym mhob cam o'r broses bod y swydd yn gyfnod penodol/dros dro, hyd disgwyliedig y contract a'r rheswm am hyn.

Rhaid i'r Rheolwr / Pennaeth hefyd sicrhau bod yr hysbyseb yn cynnwys gwybodaeth fel a ganlyn:

  • Y rheswm dros y penodiad yn gyfnod penodol/dros dro;

  • Hyd/hyd tebygol y cyfnod cyflogaeth;

  • Dyddiad gorffen arfaethedig y contract; a/neu

  • Y digwyddiad a fydd yn arwain at derfynu'r contract.


8. Hawliau Gweithwyr Cyfnod Penodol/Dros Dro

Mae gan weithwyr cyfnod penodol/dros dro sydd wedi cwblhau dwy flynedd o wasanaeth di-dor yr un rhwymedïau o dan y gyfraith os cânt eu diswyddo'n annheg â gweithwyr sydd ar gontract parhaol. Nid oes gofyniad o ran hyd gwasanaeth yng nghyswllt 'sail sy'n awtomatig yn annheg', e.e. camwahaniaethu ar sail rhyw, hil, anabledd, oed, ac ati. Gellir hawlio diswyddo annheg os na fydd y cyflogwr yn adnewyddu'r contract heb reswm teg a heb ddilyn gweithdrefn deg.

Mae peidio ag adnewyddu contract cyfnod penodol yn achos o ddiswyddo yn ôl y gyfraith, ac mae gan weithwyr sydd â'r contractau hyn yr hawl i gael datganiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros ddiswyddo. Ceir rhagor o wybodaeth yn adran 18 ynghylch y weithdrefn gywir i'w dilyn pan na fydd contract yn cael ei adnewyddu.


9. Cyfnod Penodol/Dros Dro ac Ailstrywthuro

Pan fydd y gweithiwr cyfnod penodol yn cael ei gyflogi mewn maes gwasanaeth sy'n cael ei ailstrwythuro, dylid cyfeirio at y Cwestiynau Cyffredin yn Atodiad A. Bydd y Cwestiynau Cyffredin yn helpu i gymhwyso'r Polisi a'r Weithdrefn Ad-drefnu.


10. Gweithwyr Cyfnod Penodol/Dros Dro sy'n Gwneud Cais am Secondiadau

Mewn achosion lle mae gweithiwr cyfnod penodol neu weithiwr dros dro yn gwneud cais am secondiad ac yn llwyddo i'w gael, ac mae'r contract tymor penodol neu'r contract dros dro i fod i ddod i ben cyn diwedd y secondiad:

  • Dylai'r rheolwr parhaol/Pennaeth sicrhau ei fod yn cyfarfod â'r unigolyn cyn cyflwyno'r rhybudd contractiol gofynnol i ddod â'i gontract dros dro/cyfnod penodol i ben.

  • Ar yr adeg y bydd y rheolwr parhaol/Pennaeth yn cyfarfod â'r gweithiwr, bydd angen iddynt hefyd gysylltu â rheolwr llinell/Pennaeth y secondiad a fydd yn gyfrifol am drosglwyddo'r secondai i gontract cyfnod penodol am weddill cyfnod y secondiad.


11. Dewis y Swyddi i'w Dileu

Pan fydd sefyllfa bosibl o ddileu swyddi yn codi, defnyddir y Polisi a’r Weithdrefn Ad-drefnu.


12. Taliad Dileu Swydd

Bydd gan unrhyw weithiwr a ddiswyddwyd ar sail dileu swydd oherwydd diwedd ei gontract cyfnod penodol neu dros dro hawl i gael taliad dileu swydd, ar yr amod bod ganddo o leiaf 2 flynedd o wasanaeth di-dor gyda'r Awdurdod, yr ysgol neu gyflogwyr cysylltiedig fel y'u rhestrir o dan Orchymyn Taliadau Dileu Swydd (Gwasanaeth Di-dor mewn Llywodraeth Leol) (Addasiad) 1999, a diwygiadau dilynol. Pan ddaw contract cyfnod penodol neu dros dro i ben yn gynharach na'r dyddiad dod i ben a nodwyd, bydd gan y gweithiwr hawl i'r hysbysiad priodol.


13. Gwasanaeth Di-dor

Nid yw parhad cyflogaeth yn cael ei dorri pan fydd un contract cyflogaeth yn dilyn un arall gyda bwlch o lai nag wythnos (o ddydd Sul i ddydd Sadwrn) gyda'r un cyflogwr. Felly gellir cyfuno cyfres o gontractau mewn un neu fwy o adrannau neu ysgolion o fewn yr Awdurdod i ddarparu gwasanaeth di-dor a fydd yn rhoi hawliau diogelu cyflogaeth (waeth beth yw hyd y gwasanaeth yn yr adran bresennol).


14. Cyrchu Swyddi Parhaol

Nid oes gan weithiwr ar gontract cyfnod penodol hawl awtomatig i swydd os penderfynir y bydd penodiad parhaol yn cael ei wneud, er enghraifft pan fydd aelod o staff yn penderfynu peidio â dychwelyd ar ôl absenoldeb mamolaeth. Y rheswm am hyn yw y dylid hysbysebu pob swydd wag, ond bydd y gweithiwr yn gallu ymgeisio am y swydd a dylid ei drin yn yr un modd ag ymgeiswyr eraill.


15. Adnewyddu a Pheidio ag Adnewyddu Contractau Penodol/Dros Dro

Mae'n bwysig yr ymdrinnir â therfynu contractau cyfnod penodol a chontractau dros dro yn y ffordd gywir er mwyn osgoi hawliadau posibl yn erbyn yr Awdurdod/ysgol ac er budd y gweithiwr. Dylid nodi'r pwyntiau canlynol pan fydd contract cyfnod penodol neu dros dro yn dod i ben:

  • Mae terfynu a pheidio ag adnewyddu contract cyfnod penodol yn ddiswyddiad o dan gyfraith y DU. Mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ymgynghori â'r gweithiwr a dylid dilyn y broses ddiswyddo statudol (gweler adran 16).

  • Mae peidio ag adnewyddu contract cyfnod penodol oherwydd beichiogrwydd neu resymau eraill sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd yn anghyfreithlon.

  • Gall peidio ag adnewyddu contractau cyfnod penodol oherwydd perfformiad gwael/annerbyniol fod gyfystyr â diswyddo annheg.


16. Adolygu Contractau Cyfnod Penodol/Dros Dro

Dylid adolygu natur dros dro y contract yn rheolaidd ond yn enwedig tua diwedd cyfnod y contract pan ddylai'r Rheolwr/Pennaeth adolygu'r swydd gyda'r gweithiwr i asesu a oes angen i'r swydd fod un dros dro/cyfnod penodol o hyd neu a ellid rhoi contract parhaol. Byddai'r adolygiad yn ystyried, er enghraifft, a oes cyllid wedi'i sicrhau, a ddylai'r swydd a benodir fod yn barhaol neu a yw'r dyddiad dychwelyd ar gyfer gweithiwr sy'n absennol oherwydd salwch yn hysbys bellach.

Dylai'r Rheolwr/Pennaeth atgoffa unigolion sydd ar gontractau cyfnod penodol o ddyddiad gorffen y contract ac, os na fydd y contract yn cael ei adnewyddu, a oes unrhyw gyflogaeth amgen bosibl, a lle y mae swyddi'n debygol o gael eu hysbysebu. Dylai'r adolygiad hwn gael ei wneud gan y Rheolwr/Pennaeth ac yn ysgrifenedig i'r unigolyn yn dilyn hynny.


17. Adnewyddu Contract Cyfnod Penodol/Dros Dro

Os yw swydd sy'n cael ei gwneud gan unigolyn a gyflogir ar gontract cyfnod penodol/dros dro yn parhau heb ei newid y tu hwnt i'r dyddiad y bydd y cyfnod penodol/dros dro yn dod i ben, dylid adnewyddu'r contract a chwblhau'r ffurflenni priodol a'u hanfon at y Tîm Cymorth AD. Fodd bynnag, fe'ch cynghorir i gyfeirio at adran 6, 'Defnydd Olynol o Gontractau Cyfnod Penodol/Dros Dro' a sicrhau bod cyfiawnhad gwrthrychol o hyd dros wneud y swydd yn un cyfnod penodol. Os yw dyletswyddau'r swydd wedi newid yn sylweddol neu os yw'r swydd bellach yn un barhaol, dylid hysbysebu'r swydd wag.


18. Peidio ag Adnewyddu Contract Cyfnod Penodol/Dros Dro

Mae canllawiau disgyblu, cwyno a diswyddo y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS) yn benodol yn berthnasol o ran peidio ag adnewyddu contract cyfnod penodol neu dros dro yn yr un modd ag y mae'n berthnasol i ddiswyddo gweithiwr parhaol, er y gallai'r ddau barti ddisgwyl i'r contract ddod i ben. Mae hyn oherwydd bydd dod â chontract cyfnod penodol/dros dro i ben yn dal i gael ei ystyried fel diswyddiad at ddibenion cyfraith diswyddo annheg. Y Rheolwr/Pennaeth sy'n gyfrifol am ddiswyddo gweithiwr.

Ystyrir mai'r camau canlynol yw'r arferion gorau a byddant yn cydymffurfio â'r broses apelio:

Cam 1:  Nodi'n ysgrifenedig y penderfyniad arfaethedig i beidio ag adnewyddu'r contract cyfnod penodol/dros dro a chynnig cyfle i'r gweithiwr gyfarfod i drafod y mater (gall y gweithiwr fod yng nghwmni cynrychiolydd o undeb llafur neu gydweithiwr a dylid rhoi rhybudd rhesymol ynghylch hyn). Gweler Atodiad B am lythyr enghreifftiol.

Os bydd y gweithiwr yn cadarnhau ei fod am ddod i'r cyfarfod:

  • Cadarnhau gyda'r gweithiwr bod y contract cyflogaeth yn dod i ben; y dyddiad dod i ben, ac na fydd yn cael ei adnewyddu.

  • Eglurwch y rheswm dros beidio ag adnewyddu'r contract.

  • Cadarnhau'r diswyddiad, y rhesymau dros hynny a'r dyddiad dod i ben. Bydd y diswyddiad ar sail dileu swydd (â thâl neu heb dâl) neu ryw rheswm sylweddol arall.

  • Os yw'r gweithiwr yn un o nifer o weithwyr sydd â chontract cyfnod penodol neu dros dro a bod angen dewis pa swydd sydd i'w dileu, dylid egluro'r meini prawf a ddefnyddir i wneud y dewis hwnnw.

  • Gwirio a chadarnhau p'un a yw'r gweithiwr yn gymwys ar gyfer statws adleoli a chael cyngor gan eich Parter Busnes AD lle bo hynny'n briodol.

  • Sicrhewch fod yr unigolyn yn ymwybodol o sut i gyrchu manylion swyddi gwag ar y rhyngrwyd.

  • Mewn achosion lle mae'r gweithiwr wedi bod ar gontract cyfnod penodol neu dros dro o 2 flynedd neu ragor ac mai'r rheswm dros ddiswyddo yw dileu'r swydd, mae'n rhaid rhoi gwybod iddo y bydd hawl ganddo i gael taliad dileu swydd. Dylai'r rheolwr llinell gysylltu â'i Bartner Busnes AD i gael amcangyfrif o gostau dileu swyddi.

Cam 2:  Ar ôl y cyfarfod, mae'n rhaid i'r gweithiwr gael gwybod gan y Rheolwr am y penderfyniad a chysylltu â’r Partner Busnes AD i gyflwyno llythyr sy'n cadarnhau'r penderfyniad i adnewyddu contract cyflogaeth neu derfynu cyflogaeth.

Cam 3:  Mae gan weithiwr yr hawl i apelio yn erbyn terfynu contract cyfnod penodol neu dros dro. Dylai'r apêl fod yn ysgrifenedig lle bo modd, gan ddatgan y rhesymau dros apelio, a dylid ei chyflwyno fel ei bod yn dod i law o leiaf 7 niwrnod cyn y dyddiad terfynu. Dylid cyfeirio apeliadau at y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi).

Ymgynghori ynghylch dileu swyddi ar y cyd

Y cyfnod lleiaf i ymgynghori ynghylch dileu swyddi ar y cyd yw 45 diwrnod.

Y cyfnod lleiaf i ymgynghori pan fo'r cyflogwr yn bwriadu diswyddo rhwng 20 a 99 o weithwyr yw 30 diwrnod.

Caiff contractau cyfnod penodol/dros dro sy'n dod i ben fel y rhagwelwyd gan y cyflogwr a'r gweithiwr eu heithrio o ran y gofyniad i ymgynghori ar y cyd. Fodd bynnag, os yw'r gweithiwr yn bwriadu diswyddo'r gweithwyr cyfnod penodol yn gynharach na'r dyddiad y cytunwyd arno (a'r rheswm dros hynny yw dileu swyddi), mae'n rhaid i'r cyflogwr gynnwys y contractau cyfnod penodol yn y cyfrif ar gyfer dileu swyddi ar y cyd ac mae'n rhaid iddo ymgynghori ynghylch y diswyddiadau arfaethedig.

Os oes gan y gweithiwr dros ddwy flynedd o wasanaeth, dylai'r Rheolwr/Pennaeth ymgynghori â'i Bartner Busnes Adnoddau Dynol ynghylch a oes hawl o ran taliad dileu swydd (gweler adran 12).


19. Sicrhau Cyfle Cyfartal

Rhaid i bob gweithiwr fabwysiadu agwedd gadarnhaol, agored a theg a gofalu y cedwir at Bolisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Awdurdod ac y caiff ei weithredu’n gyson heb ystyried hil, lliw, cenedligrwydd, gwreiddiau ethnig neu genedlaethol, anabledd, crefydd a chred neu ddiffyg cred, oed, rhyw, ailbennu rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd neu famolaeth, statws o ran priodas/partneriaeth sifil. Yn ogystal, mae Safonau'r Gymraeg yn gofyn i ni 'sicrhau nad yw'r iaith yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg' a dylid defnyddio'r egwyddor hon wrth gymhwyso'r polisi a'r weithdrefn.

Os oes gennych bryderon ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn perthynas â gweithredu'r canllawiau hyn, cysylltwch ag aelod o'r Tîm Adnoddau Dynol a fydd yn sicrhau, os bydd angen, fod y polisi neu'r weithdrefn yn cael eu hadolygu yn unol â hynny.

Os oes angen copi o'r cyhoeddiad hwn arnoch mewn fformat arall, cysylltwch â Gwasanaethau Pobl drwy anfon neges e-bost at CHR@sirgar.gov.uk


Atodiad A - Holi ac Ateb Ynghylch Ailstrwythuro a Chontractau Cyfnod Penodol/Dros Dro

Manylion llawn yma:   Atodiad A - Holi ac Ateb Ynghylch Ailstrwythuro a Chontractau Cyfnod Penodol/Dros Dro


Atodiad B - Llythyr Gwahodd o ran Ymgynghori ynghylch Contract Cyfnod Penodol/Dros Dro

Manylion llawn yma:    Atodiad B - Llythyr Gwahodd o ran Ymgynghori ynghylch Contract Cyfnod Penodol/Dros Dro