Cyfnod prawf

Diweddarwyd y dudalen: 10/11/2026

Gweithiwr ar gyfnod prawf yw rhywun (dros dro neu barhaol) sydd wedi ymuno â'r Awdurdod yn ddiweddar ac sy'n gwasanaethu eu cyfnod prawf yn ôl yr hyn a ganiateir yn y contract cyflogaeth, er enghraifft, tri mis cyntaf y gyflogaeth (oni bai y caiff ei ymestyn mewn amgylchiadau eithriadol).

Mae'r cyfnod prawf yn caniatáu i chi a'ch rheolwr llinell asesu eich addasrwydd i'r swydd y cawsoch eich recriwtio iddi. Mae'n gyfle i'ch rheolwyr roi'r arweiniad, y cymorth a'r anogaeth sy'n angenrheidiol er mwyn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer gwneud y gwaith gan gadw at safon dderbyniol.

Byddwch yn dilyn rhaglen sefydlu adrannol lawn a thrylwyr ac yn cael gwahoddiad i ddigwyddiad Croeso Corfforaethol yn ystod eich pedwar mis cyntaf yn eich swydd.

Dylech fod yn glir ynghylch eich amcanion a’r safonau perfformiad, ymddygiad, prydlondeb a phresenoldeb disgwyliedig (drwy’r weithdrefn sefydlu a’r broses arfarnu ar wahân).

Disgwylir ichi gyflawni'r safonau gofynnol a rhoddir gwybod ichi os oes unrhyw ddiffyg a chewch gyfle i wella yn ystod y cyfnod prawf.

Os byddwch yn methu â bodloni'r safonau gofynnol yn ystod eich cyfnod prawf er bod y cymorth neu'r camau priodol wedi cael eu rhoi ar waith, gallwch gael eich diswyddo, gyda rhybudd, o fewn y cyfnod prawf (ac eithrio mewn achosion o gamymddwyn difrifol a allai arwain at ddiswyddo heb rybudd).

Fe'ch hysbysir yn ysgrifenedig pan fydd y cyfnod prawf wedi dod i ben yn foddhaol. 

Gweler y polisi a'r weithdrefn am y manylion llawn yma:

Rheoli Gweithwyr sydd ar Gyfnod Prawf - Tachwedd 2026

Adnoddau Dynol

Ymddygiad a Safonau

Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol

Cysylltiadau â gweithwyr

Cefnogaeth Gweithwyr

Cydroddoldeb ac Amrywiaeth

Gweithio Hyblyg a Rhannu Swydd

Swyddi a gyrfaoedd

ResourceLink / MyView

Ailstrwythuro

Absenoldeb Salwch

Gwirfoddoli

Datgelu Camarfer

Cynllunio'r Gweithlu a Chynllunio ar Gyfer Olyniaeth

Canllawiau Cysylltiadau Personol Agos a Pherthnasoedd

Canllawiau Ynghylch Contract Cyfnod Penodol/Dros Dro - Awst 2026

Contractau Gweithwyr

Y Polisi a'r Weithdrefn Ailstrwythuro - Awst 2026

Polisi Adleoli Staff - Medi 2026

Adleoli

Rheoli Gweithwyr sydd ar Gyfnod Prawf - Tachwedd 2026

Cyfnod prawf