Y Polisi a'r Weithdrefn Ailstrwythuro - Awst 2026

11. Adolygu'r Broses

Os yw gweithiwr o'r farn y dyfarnwyd swydd iddo'n anghywir neu iddo gael ei ddiystyru'n annheg o gael asesiad am swydd benodol yn y strwythur newydd, gall wneud cais am adolygu'r penderfyniad hwnnw. Dylai'r llythyr nodi ei sail dros wneud hynny a'r rhesymau manwl sydd wrth wraidd hynny.

Caiff yr adolygiad ei gynnal gan Gyfarwyddwr yr Adran (neu swyddog priodol enwebedig, ond nid y swyddog sy'n arwain/noddi'r prosiect) gyda chefnogaeth gan Bartner Busnes Adnoddau Dynol.

Bydd yr adolygiad yn ystyried a roddwyd sylw i'r holl wybodaeth briodol a chywir wrth benderfynu, ac a ddilynwyd y broses briodol.

Rhaid i'r cais am adolygiad gael ei gyflwyno cyn pen saith niwrnod calendr ar ôl derbyn yr hysbysiad sy'n nodi ar gyfer pa swyddi y cafodd y gweithiwr ei (h)asesu neu beidio.

Os yw gweithiwr yn gwneud cais am adolygiad o'r broses oherwydd y dewiswyd dileu ei swydd, gweler Polisi Dileu Swyddi yr Awdurdod. Mae canlyniad yr adolygiad hwn yn derfynol o ran y broses.