Y Polisi a'r Weithdrefn Ailstrwythuro - Awst 2026

1. Cyflwyniad

Mae newid a gynlluniwyd yn digwydd yn yr Awdurdod yn gyson. Gall y newidiadau hyn fod yn weddol fach heb fawr o effaith ar y staff, megis maes parcio newydd i'r staff neu bolisi newydd. Gall newid sefydliadol mawr olygu ailstrwythuro adrannau neu drosglwyddo gwasanaethau o fewn yr Awdurdod. Yn bennaf, gwella gwasanaethau a chanlyniadau fydd diben y newidiadau hyn. Beth bynnag fo'r newid, mae'n debygol y bydd yn herio 'trefn arferol' pobl a hyn yn oed eu hargraff o'r amgylchedd gwaith mewn rhyw ffordd.

Cyn mynd ati i weithredu newid a gynlluniwyd, mae angen deall pam yr ydym yn newid, yr hyn y bydd y newid yn ei gyflawni, a yw'r amcanion yn rhai gwirioneddol a pherthnasol, pwy fydd yn arwain ac yn ysbrydoli pobl i gyd-fynd â'r newid, a sut y byddwn yn mesur llwyddiant.

Mae'n bwysig ystyried y math o newid rydych yn ei wneud i sicrhau bod y polisi hwn yn cael ei roi ar waith yn ffordd gywir i symud eich proses newid yn ei blaen. Os ydych ond yn lleihau nifer y swyddi yn eich strwythur ond fel arall nid yw eich strwythur yn newid, efallai y bydd yn fwy priodol i ddilyn Polisi Dileu Swyddi yr Awdurdod. Os yw'r newidiadau i'r strwythur yn fach iawn e.e. creu swydd newydd, creu swydd newydd ar radd uwch a dileu swydd ar radd is, newidiadau o ran gradd neu fân ailstrwythuro, efallai y gellir cefnogi'r newidiadau hyn a'u rhoi ar waith gan adroddiad Swyddog Dirprwyedig. Mae'n bwysig ceisio cyngor gan eich Arweinydd/Uwch-bartner Busnes i drafod a sicrhau bod y polisi cywir a'r weithdrefn gywir yn cael eu rhoi ar waith i'r amgylchiadau. Hefyd, mae'n rhaid trafod unrhyw newidiadau sy'n arwain at gost ychwanegol i'r gwasanaeth gyda'ch Tîm Cyllid Adrannol.

Mae’n bwysig rheoli unrhyw newid. Mae rhai gweithwyr yn ofni newid ac mae angen i hyd yn oed y rhai sy'n croesawu'r newid fod yn glir am y rhesymau dros y newid a dylid cyfathrebu â nhw yr holl ffordd drwy'r broses. Gall gwneud camgymeriadau fod yn gostus i'r Awdurdod mewn sawl ffordd. Colli hygrededd ac ymddiriedaeth, gweithwyr allweddol yn gadael, cynnydd mewn absenoldeb salwch, morâl is, a hyd yn oed cyfreitha costus ar ffurf hawliadau posibl am ddiswyddo annheg mewn tribiwnlys cyflogaeth.

Dylai egwyddorion y Polisi hwn gael eu rhoi ar waith gan bob rheolwr wrth arwain a gweithredu newid sy'n gysylltiedig â phrosiect ailstrwythuro. Mae'r un mor bwysig bod gweithwyr yn ymwybodol o'r hyn sydd ar gael i'w cynorthwyo cyn y broses, yn ystod y broses ac ar ôl y broses.

Mae'r dogfennau cysylltiedig y dylid eu hystyried ar y cyd â'r polisi hwn wedi'u cynnwys yn yr Atodiadau.

Gall gweithwyr nad ydynt yn gallu cyrchu mewnrwyd y Cyngor gael yr holl wybodaeth y cyfeiria'r Polisi hwn ati drwy gysylltu â'u rheolwr llinell neu â'u Partner Busnes Adnoddau Dynol.