Y Polisi a'r Weithdrefn Ailstrwythuro - Awst 2026

3. Rolau a Chyfrifoldebau

Rheolwyr

  • Cyfathrebu, cyfathrebu a chyfathrebu;

  • Bod yn gyfrifol am sicrhau bod i bob gweithiwr ran lawn yn y broses newid:

  • Sicrhau ymwneud cynnar â'ch Arweinydd/Partner Busnes Adnoddau Dynol, Partner Busnes Arweiniol (Iechyd a Diogelwch) a'ch Cyfrifydd drwy 'gyfarfod cynllunio' yn enwedig pan yw'n amlwg y gall y newid arfaethedig effeithio ar weithwyr;

  • Ymgysylltu â'r Undebau Llafur cydnabyddedig ar ddechrau'r broses;

  • Ymgysylltu â Dysgu a Datblygu i nodi unrhyw ddatblygu sgiliau posibl neu gymorth ychwanegol o ran arwain er mwyn cynorthwyo'r broses bontio;

  • Cynnwys y gweithwyr hynny sy'n absennol o'r gweithle am ba reswm bynnag e.e. salwch, absenoldeb mamolaeth, neu'r staff hynny sydd ar secondiad, a gwneud addasiadau rhesymol i sicrhau bod gan bawb yr un mynediad i bob rhan o'r broses;

  • Ystyried a oes angen i'r cynnig gael 'cymeradwyaeth wleidyddol' e.e. Bwrdd Gweithredol – lle mae cynlluniau ailstrwythuro yn effeithio ar ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd;

  • Sicrhau y cedwir cofnod pendant o'r broses ac y rhoddir gwybodaeth glir i'r holl staff perthnasol yn amserol;

  • Ystyried eich arddull arweinyddiaeth o ran y newid. Gallai’r hyn sy’n briodol ddibynnu ar faint y newid.