Y Polisi a'r Weithdrefn Ailstrwythuro - Awst 2026

4. Gweithwyr

"Gall rhoi llais i weithwyr o ran sut y caiff newid ei reoli helpu i gynnal eu hymdeimlad o lesiant." Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu. ACAS.

Ystyried goblygiadau'r cynigion i chi fel unigolyn ac o ran darparu gwasanaethau.

Cyfranogi yn y broses ymgynghori'n unigol ac ar y cyd a/neu drwy eich cynrychiolydd undeb llafur, cynnig sylwadau adeiladol, ac awgrymu dewisiadau gwahanol lle bo'n briodol. Anogir gweithwyr i gydnabod a deall y gofynion trefniadaethol sy'n sbarduno newid, ac mae'n bwysig i weithwyr fod yn ymatebol, yn hyblyg ac yn agored i newid.