Dioddefwr neu Oroeswr

Diweddarwyd y dudalen: 16/11/2023

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i sicrhau y bydd yn gwrando ar unrhyw un sy'n datgelu cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol ac yn rhoi cymorth iddynt. 

Os byddwch yn datgelu achos o gam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol i'ch rheolwr, gallwch ddisgwyl ymateb sensitif ac anfeirniadol yn ogystal â gallu trafod sut y gall y Cyngor eich cefnogi. Os yw'n well gennych, gallwch ofyn am gael siarad â rhywun o'r un rhyw neu'r un ethnigrwydd fel y gallant eich cynorthwyo i godi'r materion y mae angen rhoi sylw iddynt i helpu i'ch cefnogi yn ystod y cyfnod hwn.

Rydym yn sylweddoli ei bod yn anodd i unrhyw un roi gwybod am  gam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol. Cydnabyddir y gallai fod anawsterau penodol os ydych yn LGBTQ+. Mae'r polisi hwn yn cynnwys ein holl weithwyr ac mae yno i'ch cefnogi.

Cofiwch

  • Nid eich bai chi yw hyn
  • Bydd pobl yn gwrando arnoch
  • Mae cymorth a chefnogaeth ymarferol ar gael.

Fel gweithiwr, gallwch ddisgwyl i’r Cyngor eich helpu i nodi pa gymorth a chefnogaeth gyfrinachol sydd ar gael ac i fanteisio ar hyn, os ydych yn dymuno.

Rydym yn deall pa mor anodd yw hi i roi gwybod am gam-drin domestig, neu drais domestig neu rywiol a byddwn yn gweithio gyda chi i atal unrhyw niwed pellach i chi neu i’ch plant. Rydym hefyd yn sylweddoli y gall gymryd amser hir i fod yn rhydd o gam-drin, ac ni fyddwn yn barnu unrhyw benderfyniadau yr ydych yn eu gwneud, ond byddwn yn darparu cefnogaeth anfeirniadol parhaus a chymorth ymarferol.

Mae ffynonellau cymorth arall gan asiantaethau arbenigol sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin i'w gweld yn ein hadran Cymorth a Chefnogaeth.

 

Os byddwch yn datgelu eich bod yn dioddef cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol, gallwch ddisgwyl bod unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei chyflwyno yn gyfrinachol ac na chaiff ei rhannu ag aelodau eraill o staff heb eich caniatâd.

Mewn amgylchiadau pan fydd pryderon am blant neu oedolion agored i niwed, ni ellir sicrhau y bydd y wybodaeth yn cael ei chadw'n gyfrinachol. Fodd bynnag, bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu ar sail angen gwybod yn unig, cyn belled ag y bo modd.

Bydd achosion o dorri cyfrinachedd gan unrhyw aelod o staff yn cael eu hystyried yn ddifrifol.

Er bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i greu amgylchedd gweithle sy’n eich galluogi i ddatgelu cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol, mae hefyd yn parchu eich hawl i breifatrwydd ac ni fydd yn eich gorfodi i rannu’r wybodaeth hon os nad ydych yn dymuno gwneud hynny.

Os byddwch yn datgelu cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol, gallwch ddisgwyl mai eich diogelwch fydd y flaenoriaeth. Bydd camau yn cael eu cymryd i leihau risgiau yn y gweithle, a dylech gael eich cynnwys yn y penderfyniadau hyn lle bo modd ar y cyd â'ch rheolwr llinell.  Gallai camau gynnwys trefnu man arall lle gallwch weithio (yn enwedig os ydych yn gweithio o gartref) neu hyblygrwydd o safbwynt eich patrwm/oriau gwaith.

Os ydych chi'n gweithio gartref, gall eich rheolwr ddod o hyd i ffyrdd o gyfathrebu'n ddiogel â chi trwy anfon negeseuon testun os nad yw galwadau'n bosibl, neu drwy gytuno ar air cod neu signal llaw i'w ddefnyddio i rybuddio eraill eich bod yn dioddef cam-drin domestig.

Pan fydd datgeliad yn cael ei wneud, efallai y bydd angen amser o'r gwaith arnoch i ddelio ag amrywiaeth o faterion megis cwnsela, ymweliadau ag asiantaethau cymorth, meddyg teulu, yr heddlu, cyfreithiwr, gofal plant, tai ac ati. Dylech deimlo y gallwch drafod amser rhesymol o’r gwaith gyda’ch rheolwr a all awdurdodi ‘Absenoldeb Diogel’ â thâl o hyd at 10 diwrnod. 

Gellir ystyried bod amser arall o'r gwaith â thâl neu heb dâl yn briodol yn unol â pholisïau Amser o'r gwaith ac absenoldeb y Cyngor, e.e., pan fo camdriniaeth yn effeithio ar eich plant efallai y bydd angen caniatáu absenoldeb gofalwr brys i chi yn unol â'r polisi Amser o'r Gwaith ar gyfer Dibynyddion. Gall trefniadau gweithio hyblyg dros dro fod yn opsiwn hefyd.

Bydd absenoldeb di-dâl yn cael ei ystyried ar ôl i'r holl opsiynau absenoldeb â thâl gael eu hystyried.

 

Os yw partner camdriniol yn gwrthod rhoi mynediad i chi i'ch arian, gall eich rheolwr ystyried newidiadau i'ch trefniadau cyflog. Gallai hyn fod yn arbennig o bwysig os ydych yn bwriadu gadael eich partner. Mae'r dewisiadau sydd ar gael yn cynnwys:

  • atal cyflog rhag mynd i'r cyfrif banc enwebedig hyd at 48 awr cyn diwrnod cyflog. Gellir oedi cyflog nes bod cyfrif newydd wedi'i enwebu;
  • trefnu i chi gael eich talu â siec nes bod cyfrif newydd wedi'i enwebu.

Gall y Cyngor hefyd ddarparu cymorth a chwnsela cyfrinachol i chi trwy'r Uned Iechyd Galwedigaethol Cyfeiriwch at ein hadran Cymorth a Chefnogaeth.

 

Mae'r cynllun hefyd yn cael ei adnabod fel cyfraith Clare. O dan y cynllun hwn, gallwch ofyn i'r heddlu wirio a yw partner newydd, cyn-bartner neu bartner presennol wedi bod yn dreisgar yn y gorffennol. Gelwir hyn yn ‘hawl i ofyn’.  Os yw cofnodion yn dangos y gallech fod mewn perygl o gam-drin domestig gan bartner, bydd yr heddlu’n ystyried datgelu’r wybodaeth. Gellir gwneud datgeliad os yw'n gyfreithlon, yn gymesur ac yn angenrheidiol gwneud hynny.

Mae’r ‘hawl i ofyn’ hefyd yn caniatáu i drydydd parti, fel ffrind neu aelod o’r teulu, wneud cais am ddatgeliad ar ran rhywun y maent yn eu hadnabod. Eto, gall yr heddlu ddatgelu gwybodaeth os yw’n gyfreithlon, yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.

I wneud cais o dan y Cynllun Datgelu Trais Domestig, cysylltwch â’r heddlu ar ei rif ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys, sef 101.

Mewn achosion pan fyddwch chi a'r cyflawnwr yn cael eu cyflogi gan Gyngor Sir Caerfyrddin, bydd camau priodol yn cael eu cymryd. Bydd eich diogelwch chi bob amser yn cael blaenoriaeth dros ddiogelwch y cyflawnwr a bydd camau'n cael eu cymryd i leihau risgiau.  Lle bynnag y bo modd, bydd camau’n cael eu cymryd i sicrhau nad ydych chi a’r cyflawnwr yn dod i gysylltiad yn y gweithle i leihau’r potensial i’r cyflawnwr ddefnyddio eu safle, neu eu hadnoddau gwaith, i gael manylion am eich lleoliad. Gall hyn gynnwys newid dyletswyddau un gweithiwr neu'r ddau neu atal y cyflawnwr rhag cael mynediad i systemau ac amgylcheddau gwaith penodol.

MEWN ARGYFWNG GADEWCH AR UNWAITH - COFIWCH MAI EICH DIOGELWCH CHI EICH HUN SYDD BWYSICAF BOB AMSER - GALLWCH GAEL EICH EIDDO PERSONOL A’CH DOGFENNAU RYWBRYD ARALL

Os nad ydych yn barod i adael:

  • Dywedwch wrth rywun cyfagos yr ydych yn ymddiried ynddo am y gamdriniaeth. Mewn argyfwng, gall ffonio'r heddlu.
  • Cytunwch ar air cod y gallwch ei ddefnyddio gyda'r heddlu neu wasanaethau eraill. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
  • Ewch ati i ymarfer ffyrdd o adael eich cartref yn gyflym ac yn ddiogel.
  • Chwiliwch am rywle lle y gallwch ddefnyddio ffôn neu ffôn symudol yn gyflym ac yn hawdd - yn y gwaith, gyda chymydog, perthynas.
  • Gwnewch yn siŵr bod rhestr o rifau ffôn ffrindiau, perthnasau a rhifau argyfwng wrth law rhag ofn na fyddwch yn gallu cael mynediad i'ch ffôn symudol.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich ffôn symudol wedi'i wefru'n llawn a bod digon o arian arno rhag ofn i chi benderfynu gadael.
  • Cadwch yr eitemau y bydd eu hangen arnoch a rhai dillad yn barod i'w pacio mewn bag bach. Cadwch y rhain mewn man lle y gallwch gael gafael arnynt a'u pacio'n gyflym.
  • Ceisiwch gadw rhywfaint o arian ar gyfer tocynnau bws neu dacsi, os oes angen.
  • Cadwch set ychwanegol o allweddi ar gyfer eich cartref neu’ch car gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddo rhag ofn y bydd angen i chi adael ar unwaith.
  • Cofiwch lungopïo dogfennau pwysig neu wybod ble maent yn cael eu cadw (gweler y Rhestr Wirio Gadael Cartref dros y dudalen).
  • Agorwch gyfrif cynilo yn eich enw eich hun i gael eich annibyniaeth.
  • Penderfynwch gyda phwy y gallwch chi aros, os bydd angen. 

Os ydych yn ystyried gadael cartref, cyfeiriwch at yr adran Gadael Cartref isod​

 

MEWN ARGYFWNG GADEWCH AR UNWAITH - COFIWCH MAI EICH DIOGELWCH CHI EICH HUN SYDD BWYSICAF BOB AMSER - GALLWCH GAEL EICH EIDDO PERSONOL A’CH DOGFENNAU RYWBRYD ARALL

Os ydych yn ystyried gadael cartref, dyma restr o'r eitemau y byddai'n ddefnyddiol mynd â nhw gyda chi os byddwch chi'n penderfynu gadael:

  • Meddyginiaeth i chi a'ch plant
  • Cardiau Credyd a Debyd
  • Ffôn symudol a gwefrydd
  • Allweddi
  • Llyfr/llyfrau budd-daliadau
  • Tystysgrifau Geni (eich un chi ac unrhyw blant)
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Pasbort/pasbortau
  • Trwydded Yrru
  • Dogfennau car (yswiriant, MOT, llyfr cofrestru/log)
  • Fersiynau gwreiddiol neu gopïau o’r canlynol:
    • Tystysgrif Briodas/Partneriaeth Sifil
    • Papurau ysgariad
    • Dogfennau yswiriant
    • Manylion cyfleustodau a chyfrif ffôn
    • Llyfr Rhent
  • Llyfr Cyfeiriadau
  • Dyddiadur
  • Dillad i newid
  • Teganau
  • Gemwaith/eitemau o werth personol
  • Byrbrydau

 

Llwythwch mwy

Adnoddau Dynol