Cynhadledd Achos

Diweddarwyd y dudalen: 15/09/2021

Cyn gofyn am gynhadledd achos, yn y lle cyntaf byddem yn annog rheolwyr i ofyn drwy e-bost am eglurhad ar y cyngor a roddwyd yn yr adroddiad meddygol. 

Ar adegau, efallai y bydd gwrthdaro rhwng canlyniadau'r adroddiad, barn y gweithiwr ac anghenion y gwasanaeth a bydd angen mynd i'r afael â rhain, yn aml gellir datrys y rhain drwy drefnu cyfarfod gyda'r Rheolwr ac Adnoddau Dynol.  

Mae cynhadledd achos yn gyfarfod anffurfiol nad yw'n rhan o'r polisi absenoldeb salwch. Defnyddir cynhadledd achos yn yr achosion mwyaf cymhleth ond yn syml cyfarfod yw hwn i roi eglurhad meddygol pellach ar yr argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad. Cynhelir y cyfarfod rhwng y gweithiwr, y rheolwr, y clinigwr, y Cynghorydd Adnoddau Dynol a chynrychiolydd undeb llafur pan fo angen.  

Adnoddau Dynol fyddai'n arwain y cyfarfod fel arfer gyda'r ymarferydd Iechyd Galwedigaethol yno i roi mewnbwn meddygol. 

Adnoddau Dynol