Dadansoddi Bylchau

Diweddarwyd y dudalen: 02/02/2024

Mae dadansoddi bylchau yn golygu gweithio allan y gwahaniaeth rhwng y cyflenwad a'r galw - pa weithlu sydd ar gael gennych a beth fydd ei angen arno yn y dyfodol. Mae'n bwysig bod yn eglur am y bwlch a'r heriau sy'n wynebu eich is-adran a'ch adran. Yn syml, mae dadansoddi bylchau yn cymharu'r hyn sydd gennych ar hyn o bryd â'r hyn sydd ei angen arnoch yn ddelfrydol.

Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn eich helpu i nodi bylchau (neu warged) rhwng eich sefyllfa bresennol a'r sefyllfa yn y dyfodol.

Beth y gallwch chi ei wneud.

Wrth gynnal dadansoddiad o fylchau, gofynnwch y cwestiynau canlynol:

  • Beth yw'r bylchau presennol rhwng y cyflenwad a'r galw a sut ydych chi'n rheoli'r bylchau hyn? Er enghraifft, a ydych chi'n defnyddio mwy o gontractwyr neu'n cael adnoddau o rywle arall?
  • Beth yw eich bylchau yn y dyfodol rhwng y cyflenwad a'r galw a sut ydych chi'n rheoli'r rhain? Er enghraifft, a ydych chi'n penodi neu'n hyfforddi mwy o bobl?

Mae'r meysydd y gall fod angen i chi fynd i'r afael â nhw gyda chyngor gan eich Partner Busnes Adnoddau Dynol unwaith y byddwch wedi cynnal dadansoddiad o fylchau yn cynnwys y canlynol:

  • Argaeledd yn is na'r angen: bylchau lle mae'n debygol y bydd nifer y bobl sydd ar gael yn is na'ch anghenion, felly mae angen dod â mwy o staff i mewn, eu huwchsgilio neu eu datblygu. Rydych chi'n cael trafferth recriwtio digon o bobl i lenwi swyddi gwag neu mae angen i chi osod y bobl bresennol yn y bylchau drwy secondiadau.
  • Bylchau negyddol: lle mae gwarged, neu fwy o bobl mewn grwpiau neu leoliadau penodol nag sydd eu hangen. Efallai y bydd angen i chi ystyried ailhyfforddi, adleoli neu ddiswyddo, yn ddewis olaf, os oes gennych ormod o bobl a bod y gwaith wedi dod i ben neu wedi newid.
  • Bylchau sgiliau: lle mae bylchau o ran sgiliau critigol neu feysydd lle mae angen i chi ddatblygu, hyfforddi neu ailsgilio'r gweithlu rydych chi'n ei gyflogi dros amser.
  • Busnes fel arfer’: beth yw'r prif feysydd lle bydd angen recriwtio, datblygu staff ac adleoli i sicrhau bod yr anghenion presennol yn unol â'r newidiadau sy'n dod i'r amlwg o ran gofynion busnes?
  • Heriau o ran adnoddau: grwpiau o'r gweithlu lle mae recriwtio, cadw, neu'r ddau, yn cynnig heriau ac felly efallai y bydd angen ystyried dewisiadau eraill o ran adnoddau. Gall y bylchau hyn gynnwys pob swydd mewn grŵp penodol, neu gallant fod yn berthnasol i rai lleoliadau neu dimau yn benodol.
  • Newid o ran y bobl a'r sgiliau sydd eu hangen: gallai newid yn y strategaeth adrannol neu gorfforaethol arwain at newid yn yr anghenion o ran pobl a sgiliau.

Bydd Cam 2 y daenlen dadansoddi rolau critigol ar gyfer cynllunio'r gweithlu yn rhoi arweiniad i chi ynghylch y dadansoddiad hwn.

 

Learning and development planning tool Cymraeg.docx

Adnoddau Dynol