Canllawiau Cysylltiadau Personol Agos a Pherthnasoedd - Mehefin 2026
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Cwmpas
- 3. Egwyddorion
- 4. Rolau a Chyfrifoldebau
- 5. Diffiniad o Gysylltiadau / Perthnasoedd Personol Agos
- 6. Diffinio Sefydliad neu Dîm Perthnasol neu Faes Gwaith
- 7. Recriwtio a Phenodi Gweithwyr
- 8. Gofyniad i Ddatgelu Cysylltiad Personol Agos
- 9. Perthynas Rhwng Ymgeisydd a Rheolwr neu Gydweithwyr yn y Tîm
- 10. Awdurdod i Benodi
- 11. Methu â Rheoli Materion yn Effeithiol
- 12. Perthynas yn Dirwyn i Ben
- 13. Materion o Ran Ymddygiad neu Berfformiad
- 14. Cysylltiadau Personol Agos Rhwng Gweithiwr a Phlentyn/Person Ifanc neu Oedolyn sy'n Agored i Niwed
- 15. Cydweithwyr sy'n Cael eu Heffeithio Gan Gysylltiad Personol Agos
- 16. Llunio Geirdaon
- 17. Rheoliadau Ariannol
- 18. Cysylltiadau â Chontractwyr neu Ddarpar Gontractwyr
- 19. Methu â Datgelu Cysylltiadau Personol Agos
- 20. Sicrhau Cyfle Cyfartal
- ATODIAD 1 - Datganiadau Buddiannau Personol Swyddogion
- ATODIAD 2 - Protocol Perthynas
3. Egwyddorion
I osgoi unrhyw gyhuddiad o ragfarn, mae'n rhaid i weithwyr beidio â bod yn rhan o'r weithdrefn recriwtio lle maent yn bartner neu'n perthyn i'r unigolyn yr ystyrir ei benodi neu lle mae ganddynt gysylltiad/perthynas bersonol agos ag ef. Yn yr un modd, mae'n rhaid i weithwyr beidio â bod yn rhan o benderfyniadau sy'n ymwneud â disgyblaeth, diswyddo, achwyniad, a dyrchafiad neu addasiadau cyflog y gweithiwr hwnnw.
Y nod yw creu sefydliad sydd wedi ymrwymo i gynnal safonau uchel o ran ymddygiad yn achos cysylltiadau/perthnasoedd personol agos yn y gwaith.
Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy:
Hyrwyddo safonau uchel o ran ymddygiad a gonestrwydd ymhlith gweithwyr yr awdurdod.
Peidio ag ymyrryd yn ormodol ym mywydau preifat gweithwyr, ond cymryd camau dilys pan fydd cysylltiadau/perthnasoedd personol agos yn y gwaith yn cael effaith wirioneddol/posibl ar wasanaethau'r awdurdod.
Rheoli materion sy'n ymwneud â chysylltiadau/perthnasoedd personol agos yn y gwaith yn brydlon, yn effeithiol, yn deg ac yn gyfreithlon.
Disgrifio'r mathau o gysylltiadau/perthnasoedd personol agos yn y gwaith y mae'r awdurdod yn eu hystyried yn amhriodol.
Llunnir y canllaw hwn i ategu'r Côd Ymddygiad Gweithwyr a'r weithdrefn Datganiadau Gweithwyr ynghyd â'r Codau Ymarfer a safonau proffesiynol sy'n ymwneud â galwedigaethau penodol.
Nid yw'r canllaw hwn wedi'i lunio i ddelio â materion o gamymddwyn neu achwyniad yn ymwneud â chysylltiadau/perthnasoedd personol agos. Dylid delio â'r rhain yn unol â'r Polisi a'r Weithdrefn Ddisgyblu, a'r Polisi a’r Weithdrefn Achwyniadau.
