Cynllunio'r Gweithlu a Chynllunio ar Gyfer Olyniaeth

Diweddarwyd y dudalen: 14/12/2023

Mae'r dudalen hon yn tynnu sylw at offer a fydd o gymorth yn y gwahanol gyfnodau o gynllunio'r gweithlu a chynllunio ar gyfer olyniaeth. Fe'i datblygwyd ar gyfer Penaethiaid Gwasanaeth a'u timau rheoli i helpu i nodi blaenoriaethau a chamau gweithredu allweddol ar gyfer eu gwasanaeth i ymateb i risgiau o ran y gweithlu yn y dyfodol.

Rydym yn sôn am gynllunio'r gweithlu a chynllunio gweithlu strategol yn gyfnewidiol. Y gwahaniaeth rhwng cynllunio'r gweithlu a chynllunio gweithlu strategol yw eu bod yn cael eu cynnal dros wahanol gyfnodau o amser.

  • Mae cynllunio'r gweithlu yn canolbwyntio ar eich adnoddau presennol o ran pobl a'ch cynlluniau gweithredol ar gyfer y flwyddyn gyllidebol sydd i ddod.
  • Mae cynllunio gweithlu strategol yn edrych ar gyfnod o dair i bum mlynedd.

Dylech bob amser ystyried pa gyfnod sydd fwyaf perthnasol i chi, gan y bydd yn caniatáu i chi gymhwyso'r offer ar y dudalen hon yn well.

Mae cynllunio'r gweithlu yn broses barhaus sy'n cael ei harwain gan bob Pennaeth Gwasanaeth, yn eiddo i'r sefydliad cyfan, ac yn cael ei galluogi gan Reoli Pobl. Drwy ddadansoddi eich gweithlu presennol a phenderfynu ar eich anghenion o ran y gweithlu yn y dyfodol, rydych yn nodi'r bwlch rhwng y gweithlu sydd gennych nawr a'ch anghenion yn y dyfodol. Yna gallwch roi'r atebion cywir ar waith fel y gall eich is-adran a'ch adran gyflawni eu cynlluniau strategol.

Adnoddau Dynol