Mabwysiadu / Benthyg Croth

Diweddarwyd y dudalen: 31/05/2023

Gallant roi gwybod i chi ar lafar neu yn ysgrifenedig i ddechrau, ond bydd angen cyflwyno ffurflen gais o fewn 7 diwrnod o gael eu hysbysu gan yr Asiantaeth Fabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg eu bod wedi cael eu paru â phlentyn i’w fabwysiadu.

Y cynharaf y gall aelodau o staff ddechrau eu habsenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg yw 14 diwrnod cyn y dyddiad lleoli.

Rhaid i aelodau o staff roi ffurflen absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg wedi’i llenwi i’r Tîm Absenoldeb (gan anfon copi i chi hefyd) o fewn 7 diwrnod i gael eu hysbysu gan yr asiantaeth fabwysiadu eu bod wedi cael eu paru â phlentyn i’w fabwysiadu neu, yn achos trefniant mam fenthyg, rhaid iddynt wneud cais am orchymyn rhiant dan drefniant mam fenthyg. Mae’n bosibl newid y dyddiad pryd y bydd yr absenoldeb yn cychwyn, ar yr amod eu bod yn rhoi rhybudd ysgrifenedig o 28 diwrnod i chi neu, os nad yw hynny’n bosibl, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Bydd aelodau o staff yn dal i gronni gwyliau blynyddol yn ystod yr absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg. Dylid cymryd unrhyw wyliau blynyddol sydd yn weddill, os oes modd, cyn dechrau’r absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg. Mewn achosion lle nad yw hyn yn bosibl, bydd y gwyliau blynyddol sy’n weddill yn cael eu cario ymlaen i’r flwyddyn wyliau newydd.

(Efallai y byddwn yn ei gwneud hi’n ofynnol i aelodau o staff gymryd yr holl wyliau a gariwyd ymlaen, neu rai ohonynt, i flwyddyn wyliau newydd ar ddyddiau penodol a bennir gennych chi a gofynion gwasanaeth, neu dylid defnyddio’r gwyliau blynyddol o fewn 3 mis i ddychwelyd i’r gwaith.)

Ar gyfer staff sy’n gweithio yn ystod y tymor yn unig, bydd unrhyw addasiadau sy’n ofynnol yn cael eu gwneud ar ddiwedd cyfnod yr absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg. Dylai staff sy’n gweithio yn ystod y tymor yn unig ddefnyddio eu gwyliau naill ai cyn neu ar ôl cyfnod yr absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg yn ystod adegau pan fydd yr ysgolion ar gau. Wrth ddychwelyd o absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg dylent gael defnyddio unrhyw wyliau sy’n weddill yn ystod y tymor yn y flwyddyn wyliau honno os nad oes digon o adegau pan fydd yr ysgolion ar gau i allu defnyddio’r gwyliau yn y flwyddyn honno.

Bydd y prif fabwysiadwr yn gallu cymryd amser o’r gwaith â thâl ar gyfer hyd at bum apwyntiad mabwysiadu. Bydd y mabwysiadwr eilaidd yn cael cymryd amser o’r gwaith yn ddi-dâl ar gyfer hyd at ddau apwyntiad. Mae apwyntiadau mabwysiadu yn apwyntiadau a wneir gan asiantaeth fabwysiadu ynghylch plentyn sy’n cael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu neu ei faethu ar gyfer lleoliad mabwysiadu.

Bydd gan staff a gweithwyr asiantaeth a chanddynt berthynas gymwys â menyw feichiog neu blentyn a ddisgwylir yr hawl i gymryd amser o’r gwaith yn ddi-dâl i fynd yn gwmni i’r fenyw feichiog honno i hyd at ddau apwyntiad cynenedigol.

Sylwch y bydd gan staff yr hawl hwn o ddiwrnod cyntaf eu cyflogaeth. Bydd gweithwyr asiantaeth yn gymwys ar ôl 12 wythnos yn yr un penodiad. Mae’r hawl i amser o’r gwaith yn gyfyngedig i uchafswm o chwe awr a hanner ar bob achlysur, a all gynnwys amser teithio, amser aros a phresenoldeb yn yr apwyntiad.

Ni fyddant yn cael tâl salwch tra byddant ar absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg ond byddant yn parhau i dderbyn tâl mabwysiadu/trefniant mam fenthyg am y cyfnod y mae ganddynt hawl iddo.

Mae’n bosibl y bydd gan aelodau o staff hawl i absenoldeb/tâl mabwysiadu/trefniant mam fenthyg ond gan eu bod wedi eu cyflogi ar gontract cyfnod penodol sy’n dod i ben ar ddechrau neu yn ystod eu habsenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg bydd unrhyw daliadau (os ydynt yn gymwys) yn dod i ben ar eu dyddiad terfynu. Bydd unrhyw Dâl Mabwysiadu Statudol sy’n weddill (os ydynt yn gymwys) yn cael ei dalu fel un taliad.

Fodd bynnag, os yw contract aelod o staff yn cael ei ymestyn neu os yw’n canfod cyflogaeth arall dylech drafod â Swyddog AD eich adran a’r Tîm Absenoldeb oherwydd fe allai’r aelod o staff fod yn gymwys i gael absenoldeb/tâl mabwysiadu/trefniant mam fenthyg ychwanegol.

Cymerir yn ganiataol y bydd staff yn dychwelyd ar ddiwedd y cyfnod absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg. Os dymunant ddychwelyd i’r gwaith yn gynharach na hyn, rhaid iddynt roi o leiaf 8 wythnos o rybudd i chi a’r Tîm Absenoldeb eu bod yn bwriadu dychwelyd i’r gwaith yn gynnar; bydd hyn yn gymwys yn ystod Absenoldeb Mabwysiadu Arferol ac Absenoldeb Mabwysiadu Ychwanegol.

Rydym yn ymroddedig i gefnogi amgylchedd sy’n ystyriol o deuluoedd ac mae polisïau wedi cael eu datblygu er mwyn cynorthwyo hyn. Ymhlith yr opsiynau eraill y gellir eu hystyried mae gwneud cais i weithio’n hyblyg, rhannu swydd neu weithio’n rhan-amser. Gweler polisi Gweithio’n Hyblyg am ragor o wybodaeth.

Os bydd aelodau o staff, wedi iddynt gadarnhau eu bwriad i ddychwelyd i’r gwaith, yn penderfynu peidio dychwelyd am o leiaf 13 wythnos mae’n bosibl y gofynnir iddynt ad-dalu rhywfaint o’r tâl a dderbyniwyd. Gweler y polisi Absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg am ragor o fanylion.

Llwythwch mwy

Adnoddau Dynol