Addasiadau Rhesymol (Anabledd)

Diweddarwyd y dudalen: 13/02/2024

Pryd ddylem ni fod yn gwneud addasiadau rhesymol?

Dylid gwneud addasiadau rhesymol pryd bynnag y mae eu hangen. Gall hyn gynnwys:

  • Recriwtio a phenodi: gall hyn ymwneud â’r ffordd y caiff y cais ei lenwi, sut gaiff cyfweliad neu brawf ei gynnal, neu unrhyw feini prawf eraill a ddefnyddiwyd.

Trowch at Atodiad 1 i gael mwy o fanylion

  • Wrth gychwyn swydd: os yw gweithiwr newydd yn dechrau yn eich tîm efallai y bydd angen ichi wneud addasiadau rhesymol.
  • Ar unrhyw adeg yn ystod cyflogaeth gyda ni
  • Wrth ymgymryd â dysgu a datblygu
  • Adeg newid rôl neu drosglwyddiad neu amgylchedd neu amodau gwaith

Cyn ystyried/gwneud addasiad rhesymol mae angen rhoi ystyriaeth i nifer o faterion pwysig. Fel y rheolwr dylech ofalu eich bod yn llenwi’r Cynllun Gweithredu Addasiad Rhesymol gyda’r gweithiwr

Gall fod yn anodd asesu a yw addasiad yn rhesymol, a dylid ystyried nifer o ffactorau.

Beth mae addasiad rhesymol yn ei gostio?

Mae’n werth nodi nad yw’r rhan fwyaf o addasiadau yn costio fawr ddim os o gwbl a’u bod yn aml yn fater o hyblygrwydd neu o newid ffordd o wneud rhywbeth yn y gweithle.

Pan mae cost i wneud yr addasiad rhesymol ac os ydych yn teimlo y gallai’r gost fod yn ormodol, bydd angen ichi ystyried:

 

  1. Pa mor ddrud yw’r addasiad yng nghyswllt Cyngor Sir Caerfyrddin yn gyffredinol. Fel sefydliad mawr gallai fod yn anodd inni amddiffyn methiant i wneud addasiad rhesymol ar sail cost yn unig. Dylid cymryd cyngor gan Adnoddau Dynol a chan eich Pennaeth Gwasanaeth os yw addasiad rhesymol yn ymddangos yn rhy gostus. Dylech gofio y gellir hawlio grantiau gan Mynediad i Waith.

 

  1. A fydd yr addasiad o fudd i bobl eraill yn ogystal â’r gweithiwr anabl? Er enghraifft, efallai y bydd arwyddion cliriach, gwell goleuo a drysau awtomatig yn golygu buddsoddiad ariannol yn y lle cyntaf, ond byddent o fudd i lawer o bobl.

 

Pa mor effeithiol yw’r addasiad rhesymol arfaethedig?

Ni ellir ond ystyried addasiad rhesymol yn rhesymol os yw’n lleihau’r anfantais y mae’r gweithiwr yn ei hwynebu. Dylech ofyn i’r gweithiwr bob tro beth maen nhw’n feddwl fyddai’n eu helpu i wneud y swydd, ond cofiwch nad y bobl sy’n byw ag anabledd yw’r arbenigwyr ar yr holl gymorth sydd ar gael iddynt bob tro. Efallai y bydd Iechyd Galwedigaethol yn gallu rhoi mwy o gyngor os oes ei angen.

Pa mor ymarferol yw gwneud yr addasiad?

Ni fydd addasiadau ond yn rhesymol os yw’n ymarferol i’w gwneud.

Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai na fydd y math o addasiad sydd ei angen yn ymarferol oherwydd amgylchiadau eraill e.e. os oes angen peth gwaith strwythurol i adeilad rhestredig, efallai na fydd hynny’n bosib bob tro, er bod angen ystyried pob sefyllfa yn unigol.

Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y bydd rhaid ichi ystyried mathau gwahanol o waith trwy gytundeb, a gall hwnnw fod yn addasiad rhesymol.

Faint o aflonyddwch fydd yn ei achosi?

Bydd faint o aflonyddwch y byddai addasiad yn ei achosi i’r gallu i ddarparu gwasanaeth yn effeithio ar a yw addasiad yn cael ei ystyried yn rhesymol. Er nad yw’r rhan fwyaf o addasiadau yn tarfu mewn unrhyw ffordd ac ond yn effeithio ar y ffordd y mae unigolyn yn gweithio, gall fod sefyllfaoedd lle y mae addasiad rhesymol arfaethedig yn tarfu gormod ar y gallu i ddarparu gwasanaeth, ac mewn sefyllfa felly bydd angen ystyried addasiadau eraill.

Sut mae’n effeithio ar bobl eraill yn y tîm?

Eich rôl chi fel rheolwr yw esbonio’n glir nad yw cydraddoldeb yn golygu trin pawb yn yr un ffordd; mewn gwirionedd, er mwyn trin pobl yn deg mae’n rhaid inni eu trin yn wahanol yn ôl eu hanghenion.

Ni ddylid ond dweud wrth aelodau eraill y tîm gan gynnwys rheolwyr eraill/uwch reolwr am anabledd person neu unrhyw gyflwr iechyd ar ôl cael cydsyniad penodol y gweithiwr.

Bydd angen iddynt gael gwybod am unrhyw addasiad rhesymol a wneir os yw hwnnw’n cael effaith arnyn nhw ac ar eu hamgylchedd gwaith.

Os yw person anabl yn teimlo’n gyfforddus ac yn cael eu gwerthfawrogi yn yr amgylchedd maen nhw’n gweithio ynddo, maen nhw’n fwy tebygol o ddatgelu eu hanabledd ichi fel eu rheolwr ac i gydweithwyr.

A yw’n creu perygl iechyd a diogelwch?

Mae’n bwysig ystyried a yw addasiad rhesymol yn rhoi’r gweithiwr anabl ac eraill mewn perygl.

Os yw addasiad yn creu risg annerbyniol i iechyd a diogelwch y gweithiwr anabl neu unrhyw weithwyr eraill, ni fydd byth yn rhesymol. Fodd bynnag, cyn y gwneir penderfyniad i wrthod addasiad am resymau iechyd a diogelwch mae’n rhaid ichi ofalu fod yr holl ffeithiau gennych ac nad ydych yn seilio’r gwrthodiad ar ragdybiaethau. Mae hynny’n golygu cynnal asesiad risg trylwyr a gofyn am gyngor gan Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch.

Bydd y Tîm Recriwtio yn ymateb yn brydlon i geisiadau am ffurflen gais mewn fformatau amgen.

Bydd tystiolaeth o allu yn ôl y meini prawf a nodwyd hefyd yn cael ei derbyn mewn fformatau amgen megis:

  • recordiad sain
  • dalen wedi’i theipio ar wahân
  • ffurflen gais a lanwyd ar ran yr ymgeisydd (eiriolydd)
  • datganiadau ysgrifenedig gan staff mewn prosiectau cyflogaeth gyda chefnogaeth sydd wedi arsylwi’r ymgeisydd ac a all gynnig barn ar eu gallu i fodloni meini prawf y Fanyleb Berson

Bydd y Tîm Recriwtio yn monitro ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr anabl a hoffai i’w cais gael ei ystyried yn unol â’r cynllun hyderus o ran anabledd, er mwyn sicrhau os ydynt yn bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd (fel y’u nodwyd ar y fanyleb berson) y cawsant warant o gyfweliad yn unol ag ymrwymiad yr Awdurdod o dan y Cynllun Hyderus o ran Anabledd.

Bydd y Tîm Recriwtio hefyd yn ysgrifennu at bob ymgeisydd a wahoddwyd i gyfweliad yn gofyn a oes unrhyw anghenion mynediad neu addasiadau rhesymol y mae angen darparu ar eu cyfer fel rhan o’r broses recriwtio ac yn sicrhau y caiff y rheolwr recriwtio wybod yn syth.

Hefyd, bydd y Tîm Recriwtio yn gofalu fod gan y rheolwr recriwtio Ymgynghorydd Adnoddau Dynol a enwyd i’w cynghori ar weithredu’r addasiadau rhesymol ar gyfer y broses benodi a chyn diwrnod cyntaf cyflogaeth yr ymgeisydd. Gall hyn ofyn am gymorth gan yr Uned Iechyd Galwedigaethol a sefydliadau allanol yn ôl y galw.

Cyfrifoldebau’r rheolwr recriwtio

Mae’r adran hon yn amlinellu’r prif ystyriaethau a chyfrifoldebau ar gyfer rheolwr recriwtio pan dderbyniwch gais oddi wrth ymgeisydd anabl:

  • Manyleb person – Wrth ddatblygu’r fanyleb person dylech ystyried yn ofalus pa nodweddion sydd eu hangen i gyflawni’r swydd ac ni ddylid defnyddio meini prawf ar gyfer rhestr fer sy’n ymwneud ag iechyd a/neu ffitrwydd ymgeisydd, e.e. Yn lle “rhaid gallu cyffwrdd deipio ar 80wpm” defnyddio “rhaid gallu cynhyrchu adroddiadau manwl-gywir yn defnyddio Microsoft Office” neu yn lle “rhaid gallu gyrru a meddu ar drwydded yrru lân” defnyddio ”rhaid meddu ar y gallu i deithio”.
  • Hysbysebion – pan gaiff swydd wag ei hysbysebu, rhaid rhoi ystyriaeth i swyddogaethau’r swydd. Felly, dylid datblygu’r hysbyseb gan ddefnyddio’r wybodaeth yn y fanyleb swydd a’r "gofynion hanfodol" yn y fanyleb berson.
  • Llunio rhestr fer – dylech ofalu bob tro ei bod yn glir ar hyd holl gamau’r broses recriwtio beth yw’r meini prawf isaf-derbyniol er mwyn dewis pobl ar gyfer cyfweliad, h.y. y meini prawf hanfodol ar y fanyleb berson.
  • Gwarantu Cyfweliad – mae’r Cyngor wedi ymroi i ymrwymiadau’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd sy’n cynnwys gwarantu cyfweliad i unrhyw ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer swydd. Mae hyn yn cynnwys unrhyw brofion neu asesiadau fel rhan o’r broses recriwtio. Mae’n rhaid ichi ofalu y gwneir unrhyw addasiadau rhesymol yn ystod y broses asesu fel nad yw ymgeiswyr anabl dan anfantais.
  • Trefniadau’r cyfweliad – dylech wastad gynnal cyfweliadau mewn lleoliad cwbl hygyrch. Gofynnir i bob ymgeisydd, wrth eu gwahodd i gyfweliad neu asesiadau eraill, a oes ganddynt unrhyw ofynion ar gyfer y cyfweliad, e.e. gall ymgeisydd ofyn a ellir cynnal y cyfweliad ar amser sy’n golygu nad oes raid iddynt deithio yn yr oriau brig. Mae hwn yn gyfle hefyd i ymgeisydd anabl roi gwybod ichi os oes ganddynt unrhyw ofynion mynediad neu addasiadau fel rhan o’r broses benodi, e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddo Seisnig/Prydeinig, offer arbenigol neu le parcio wedi’i neilltuo i fathodynnau glas. Mae’n arfer da hefyd i reolwyr recriwtio ffonio ac ebostio ymgeiswyr anabl i ofyn a oes ganddynt angen mynediad/addasiad. Os yw’r ymgeisydd anabl yn nodi angen mynediad neu addasiad, rhaid darparu ar ei gyfer.
  • Cwestiynau cyfweliad – gofalwch eich bod yn geirio eich cwestiynau er mwyn gallu hoelio sylw ar allu, sgiliau a gwybodaeth pob ymgeisydd fel y gallwch asesu a sgorio ar sail y fanyleb berson. Mae rhai pethau penodol y dylech ac na ddylech eu gwneud mewn cyfweliad, e.e.

Peidiwch â gofyn:

“Sut fydd pwysau amserlenni tynn yn effeithio ar eich anabledd” neu

 “Pa dasgau na allwch eu gwneud yn y proffil swydd oherwydd eich anabledd” neu

“Beth ddigwyddodd ichi a sut gawsoch chi’ch anabledd”.

Peidiwch â gofyn yn y cam asesu a oes unrhyw addasiadau rhesymol y mae angen eu hystyried. Gellir gwneud hynny adeg y cam cynnig i osgoi’r cyhuddiad o ragfarn os nad yw’r gweithiwr ag anabledd yn cael cynnig y swydd yn y pendraw.

Gofynnwch

“Mae’r swydd yma’n golygu cadw at amserlenni tynn. Rhowch wybod inni am sefyllfaoedd lle y bu’n rhaid ichi gadw amserlen dynn a sut wnaethoch chi sicrhau eich bod yn cadw ati” neu

“Sut fyddwch chi’n cyflawni’r dyletswyddau a amlinellir yn y proffil swydd?”

  • Penodi – dylai eich asesiad fod yn seiliedig ar allu neu botensial yr ymgeisydd i gyflawni tasg. Dylid asesu ymgeisydd anabl fel pe bai’r addasiad sydd ei angen i wneud y swydd wedi cael ei wneud yn barod.
  • Ymgeiswyr llwyddiannus – siaradwch â’r ymgeisydd llwyddiannus wedi cynnig y swydd iddynt a gofynnwch a oes unrhyw addasiadau y mae angen ichi eu hystyried i gefnogi’r ymgeisydd i gyflawni’r rôl yn llwyddiannus.
  • Ymgeiswyr aflwyddiannus – rhaid i bob ymgeisydd aflwyddiannus gael y cyfle i ofyn am adborth am pam. Dylid gwneud y cynnig mewn ffordd gadarnhaol, gyda’r bwriad o gynorthwyo’r unigolyn i barhau i chwilio am swydd.
  • Cyfnod Sefydlu – os yw’r ymgeisydd anabl yn llwyddiannus, cyn ymuno â’r tîm, dylech ofalu y cafodd unrhyw addasiadau a gytunwyd eu gwneud, e.e. cafodd offer ei brynu ac ati. Defnyddiwch y templed yn Atodiad 2 er mwyn cael trafodaeth cyn i ymgeisydd anabl gychwyn ar eu gwaith.

Gofalwch eich bod yn dweud wrth y gweithiwr pa addasiadau rhesymol yr ydych wedi’u gwneud yn barod a pha offer neu addasiadau y gallech fod yn aros iddynt gael eu gweithredu.

Gwnewch yn siwr hefyd fod yr holl brosesau sefydlu yn hygyrch.

Unwaith y cychwynnodd yr ymgeisydd yn ei swydd gofynnwch i’r gweithiwr newydd gadw nodyn o sut mae unrhyw addasiadau rhesymol a wnaed yn gweithio ac o unrhyw welliannau allai fod angen eu gwneud. Cytunwch ddyddiadau rheolaidd ar gyfer adolygu’r holl addasiadau rhesymol gan ddefnyddio Atodiad 2.

Yn olaf, fel gyda phob gweithiwr newydd, gofalwch eich bod yn rhoi gwybod iddynt beth rydych yn ei ddisgwyl a gofalwch eu bod yn deall eich polisïau a gweithdrefnau ar gyfer y gweithle.

Peidiwch gwneud rhagdybiaethau

Peidiwch gwneud rhagdybiaethau am ba gefnogaeth fydd ei hangen ar weithiwr. Bydd angen ichi drafod unrhyw anghenion neu addasiadau penodol gyda’r gweithiwr.

Ymgysylltwch â phobl

Mae treulio gormod o amser ar ddiffiniadau a diagnosisau yn annhebyg o fod yn ddefnyddiol, gan fod label diagnostig yn arwain yn rhy aml at ragdybiaethau o’r hyn y gall ac na all person ei wneud. Y ffordd fwyaf cynhyrchiol o fynd ati yw siarad â’r person, cael dealltwriaeth glir o beth allant ei wneud, yn hytrach na beth na allant ei wneud, a thrwy hynny ddeall problemau neu faterion a gweithio ar sail galluoedd y person.

Siaradwch cyn gynted ag y gallwch

Siaradwch cyn gynted ag y gallwch. Po gynharaf y sylwch fod gweithiwr yn cael anawsterau neu angen addasiad, gorau oll i bawb dan sylw. Gall eich camau cynnar helpu rhwystro’r sefyllfa rhag mynd yn waeth.

Ceisiwch adnabod arwyddion cynnar

Rhai o’r pethau allweddol y dylech chwilio amdanynt yw perfformiad gwael, blinder a lefelau uwch o absenoldeb salwch, defnydd cynyddol o alcohol, cyffuriau neu ysmygu. Efallai y bydd y gweithiwr yn dechrau cyrraedd yn hwyr neu’n cael problemau gyda chydweithwyr. Mae sesiynau cynllunio gwaith rheolaidd neu sgyrsiau anffurfiol am gynnydd yn cynnig cyfleoedd i ddod i wybod am unrhyw broblemau y gall gweithiwr fod yn eu cael.

Rheoli’r tîm

Byddwch yn ymwybodol o’r effaith y gallai anabledd un gweithiwr ei chael ar weddill y tîm, boed oherwydd addasiadau rhesymol na chawsant eu gwneud neu oherwydd symptomau  neu ymddygiad penodol person. Mae angen ichi ofalu yr ymdrinnir yn syth ac effeithiol â chlecs niweidiol neu ymddygiad amhriodol. (trowch at y canllawiau ar safonau ymddygiad)

Cyfathrebwch

Cyfathrebwch mewn ffordd agored, ddiffwdan. Dylech gytuno gyda’r person a ydynt, a beth yn union y maent, am i gydweithwyr gael gwybod. Peidiwch â bod ofn siarad am hyn gyda’r gweithiwr.

Cadw cysylltiad

Mae rheolwyr yn ofni’n aml y bydd cysylltu â rhywun sydd o’r gwaith yn dost yn cael ei ystyried yn aflonyddu. Fodd bynnag, barn mwyafrif mawr y gweithwyr sy’n absennol oherwydd cyflyrau iechyd neu salwch corfforol neu feddyliol yw eu bod am gadw cysylltiad mewn rhyw ffordd.

Adnoddau Dynol