Absenoldeb heb dâl

Diweddarwyd y dudalen: 21/02/2023

Amser o'r gwaith a roddir yn ddi-dâl yw Absenoldeb heb Dâl. Pan fyddwch yn cymryd Absenoldeb heb Dâl fe fyddwch yn cadw eich swydd yn yr Awdurdod, ac yn cadw buddion, ond ni fyddwch yn derbyn cyflog. Gellir gwneud cais am Absenoldeb heb Dâl am amryw o resymau, gan gynnwys:

  • Gofalu am blentyn/perthynas
  • Treulio amser yn dysgu sgìl newydd
  • Mynd i deithio

Gallwch wneud cais am Absenoldeb heb Dâl am unrhyw gyfnod o amser, hyd at 12 mis.

A yw Absenoldeb heb Dâl yn briodol?

Mewn rhai amgylchiadau efallai nad Absenoldeb heb Dâl yw'r trefniant mwyaf priodol ac mewn achosion o'r fath efallai y gallwch chi a'ch rheolwr llinell gytuno ar drefniadau eraill sy'n fwy priodol ar gyfer eich achos chi. Gallai trefniadau eraill gynnwys absenoldeb yn unol â pholisïau'r Awdurdod ar gyfer Absenoldeb Mamolaeth, Absenoldeb Mabwysiadu/Benthyg Croth, Absenoldeb Tadolaeth, Rhannu Absenoldeb Rhiant, Absenoldeb Rhiant, Absenoldeb Tosturiol, Seibiant Gyrfa neu Weithio Hyblyg. Dylid ystyried a yw unrhyw rai o'r trefniadau uchod yn briodol fel dewis arall posibl. Os oes unrhyw amheuaeth ynghylch y fframwaith polisi mwyaf priodol, gellir cael cyngor gan yr Adran Adnoddau Dynol.

Trafod y cyfnod o Absenoldeb heb Dâl

Beth bynnag yw eich rhesymau dros ofyn am Absenoldeb heb Dâl, bydd rhaid ichi eu trafod gyda'ch rheolwr llinell. Bydd pob cais yn cael ei asesu'n unigol ac fe all eich rheolwr llinell wrthod cais am Absenoldeb heb Dâl am amryfal resymau, megis nad yw'n addas i'r gwasanaeth.

Bydd rhaid i bob math o absenoldeb gael ei gymeradwyo gan y rheolwr priodol cyn ichi gael amser o'r gwaith. Yn achos absenoldeb mewn argyfwng, eich cyfrifoldeb chi yw trafod eich anghenion o ran absenoldeb â'ch rheolwr llinell neu ag Adnoddau Dynol cyn gynted ag y bo modd.

Sut mae gofyn am gyfnod o Absenoldeb heb Dâl?

I gael Absenoldeb heb Dâl rhaid ichi gyflwyno cais mewn da bryd mewn un o ddwy ffordd:

Goblygiadau Pensiwn

Nid yw Absenoldeb heb Dâl yn cael ei gyfrif yn wasanaeth pensiynadwy. Gall aelodau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ddewis talu cyfraniadau yn ystod cyfnod o absenoldeb heb dâl.

Fel aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, gallwch adfer unrhyw ‘bensiwn a gollwyd’ sy'n deillio o gyfnod o absenoldeb heb dâl, drwy dalu cyfraniadau ychwanegol dan drefniant Cyfraniad Pensiwn Ychwanegol pan fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith.  Os ydych yn penderfynu gwneud hynny cyn pen 30 diwrnod ar ôl i chi ddychwelyd i'r gwaith, caiff cost yr ad-daliad ei rhannu rhyngoch chi a'r Awdurdod (1/3 gan yr aelod a 2/3 gan y cyflogwr). Fel eich cyflogwr mae'n rhaid i ni gwrdd â dwy ran o dair o'r gost am gyfnod o absenoldeb hyd at 36 mis. Fodd bynnag, os byddwch yn penderfynu gwneud hynny ar ôl y cyfnod hwn o 30 diwrnod, bydd yn rhaid i chi dalu'r gost o adfer eich 'pensiwn a gollwyd' yn ei chyfanrwydd.

Os ydych yn dymuno adfer y pensiwn a gollwyd yn ystod eich cyfnod o absenoldeb heb dâl, bydd angen ichi lenwi ffurflen ar-lein ar wefan Cronfa Bensiwn Dyfed. Cyn mynd i'r wefan, rhaid bod gennych y tâl pensiynadwy a gollwyd am eich cyfnod o absenoldeb heb dâl (cewch y wybodaeth hon ar eich slip cyflog) a'r dyddiad pan oeddech wedi dychwelyd i'r gwaith.

Adnoddau Dynol