Polisi Patrwm Gweithio Rhagweladwy
Yn yr adran hon
- 8. Cyfarfod i drafod cais
- 9. Cyfathrebu penderfyniad am gais
- 10. Delio ag Apêl
- 11. Caniatáu i weithiwr ddod gyda nhw
- 12. Penderfynu ar geisiadau o fewn y cyfnod penderfynu statudol o fis
- 13. Penderfynu ar geisiadau lle mae contract y gweithiwr yn dod i ben yn ystod y cyfnod penderfynu statudol o fis
- 14. Sicrhau cyfle cyfartal
1. Cyflwyniad
Mae’r polisi a’r weithdrefn hon ar gyfer Ymdrin â Cheisiadau am Batrwm Gweithio Rhagweladwy yn nodi cyfrifoldeb statudol yr Awdurdod fel cyflogwr am reoli cais gan weithiwr, hynny yw gweithiwr achlysurol neu gyflogai, a’r weithdrefn i’w dilyn ar ôl derbyn cais, yn unol â Deddf Gweithwyr (Telerau ac Amodau Rhagweladwy) 2023.
Er bod gan weithiwr asiantaeth yr un hawl i wneud cais am batrwm gweithio rhagweladwy, dylai unrhyw gais gan weithiwr asiantaeth gael ei wneud yn uniongyrchol i'r asiantaeth recriwtio sy'n ei gyflogi i'w ystyried a'i reoli.
Fel gweithiwr, mae gennych hawl statudol i wneud cais i’ch rheolwr am batrwm gweithio mwy rhagweladwy os nad yw eich patrwm gweithio yn rhagweladwy. Mae patrwm gwaith yn cyfeirio at nifer yr oriau yr ydych chi'n eu gweithio, y dyddiau a'r amseroedd yr ydych chi'n eu gweithio, neu hyd eich contract.
