Polisi Patrwm Gweithio Rhagweladwy
1. Cyflwyniad
Mae’r polisi a’r weithdrefn hon ar gyfer Ymdrin â Cheisiadau am Batrwm Gweithio Rhagweladwy yn nodi cyfrifoldeb statudol yr Awdurdod fel cyflogwr am reoli cais gan weithiwr, hynny yw gweithiwr achlysurol neu gyflogai, a’r weithdrefn i’w dilyn ar ôl derbyn cais, yn unol â Deddf Gweithwyr (Telerau ac Amodau Rhagweladwy) 2023.
Er bod gan weithiwr asiantaeth yr un hawl i wneud cais am batrwm gweithio rhagweladwy, dylai unrhyw gais gan weithiwr asiantaeth gael ei wneud yn uniongyrchol i'r asiantaeth recriwtio sy'n ei gyflogi i'w ystyried a'i reoli.
Fel gweithiwr, mae gennych hawl statudol i wneud cais i’ch rheolwr am batrwm gweithio mwy rhagweladwy os nad yw eich patrwm gweithio yn rhagweladwy. Mae patrwm gwaith yn cyfeirio at nifer yr oriau yr ydych chi'n eu gweithio, y dyddiau a'r amseroedd yr ydych chi'n eu gweithio, neu hyd eich contract.
2. Cwmpas
Mae'r polisi a'r weithdrefn hon yn cwmpasu pob gweithiwr, gan gynnwys athrawon a gyflogir yn ganolog, ac eithrio staff mewn ysgolion a reolir yn lleol, y mae polisi ar wahân yn berthnasol ar eu cyfer. Yn absenoldeb polisi y cytunwyd arno'n lleol gan ysgolion unigol, dylid dilyn egwyddorion y polisi hwn.
3. Cymhwysedd
I wneud cais statudol, rhaid eich bod wedi gweithio i’r Awdurdod o leiaf unwaith yn y mis yn y cyfnod cyn y 26 wythnos yn arwain at ddiwrnod y cais.
Mae contract cyflogaeth cyfnod penodol am 12 mis neu lai yn un math o batrwm gwaith nad yw’n rhagweladwy. Yn yr achos hwn, gallwch wneud cais statudol i'ch rheolwr i gael contract tymor penodol hwy, neu gontract parhaol, ar yr amod bod yr holl feini prawf uchod yn berthnasol.
Rhaid i gais statudol fod yn ysgrifenedig, a rhaid i chi gynnwys:
- dyddiad y cais.
- datganiad ei fod yn gais statudol am batrwm gweithio rhagweladwy.
- y newid yr ydych yn ei geisio i'ch patrwm gweithio.
- y dyddiad pryd yr hoffech chi i'r newid ddod i rym.
- pryd rydych wedi gwneud cais blaenorol i unrhyw reolwr o fewn yr Awdurdod am batrwm gweithio rhagweladwy
Os ydych yn gyflogai, dylai eich cais hefyd nodi:
- pryd rydych wedi gwneud cais blaenorol i unrhyw reolwr o fewn yr Awdurdod am weithio hyblyg.
4. Nifer y ceisiadau statudol a ganiateir.
Gallwch wneud dau gais statudol am batrwm gweithio rhagweladwy o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
Dim ond un cais byw y gallwch chi ei gael ar unrhyw adeg am batrwm gweithio rhagweladwy gyda'r Awdurdod. Pan fydd cais wedi'i wneud, bydd yn dal ar agor, gan gynnwys yn ystod unrhyw apêl, hyd nes y bydd unrhyw un o’r canlynol yn digwydd:
- bod penderfyniad ar y cais yn cael ei wneud gan eich rheolwr.
- bod eich cais yn cael ei dynnu'n ôl.
- bod penderfyniad yn cael ei gytuno rhyngoch chi a'ch rheolwr.
- bod y cyfnod penderfynu statudol o fis ar gyfer ceisiadau yn dod i ben (gweler paragraff 12).
5. Yr hawl statudol i wneud cais am weithio hyblyg i weithwyr
Mae gan weithwyr (nid gweithwyr achlysurol) hawl statudol ar wahân i ofyn am weithio hyblyg o dan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996. Os ydych yn weithiwr, gallwch wneud dau gais statudol am weithio hyblyg o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis. Gweler Polisi'r Awdurdod ynghylch Gweithio Hyblyg.
Os ydych chi fel gweithiwr yn gwneud cais statudol am weithio hyblyg a phwrpas y cais hwnnw yw cael patrwm gweithio mwy rhagweladwy, bydd yn cyfrif fel:
- un o'ch dau gais statudol am weithio hyblyg.
- un o'ch dau gais statudol am batrwm gweithio rhagweladwy (gweler y paragraff uchod).
Dim ond un cais byw gallwch chi ei gael ar unrhyw adeg naill ai am weithio'n hyblyg neu am batrwm gweithio rhagweladwy gyda'r Awdurdod.
6. Gwneud cais am batrwm gweithio rhagweladwy
Dylid gwneud pob cais am batrwm gweithio rhagweladwy yn ysgrifenedig drwy lenwi’r ffurflen gais yn Atodiad A.
Mae'n rhaid cyflwyno'r cais ffurfiol a gwblhawyd i'ch rheolwr llinell.
Mae'n rhaid i'r cais gynnwys:
- dyddiad y cais.
- y newidiadau rydych chi'n eu ceisio i'ch telerau ac amodau.
- y dyddiad yr hoffech i’r telerau ac amodau ddod i rym.
- p’un a ydych wedi gwneud cais blaenorol am batrwm gweithio rhagweladwy neu weithio hyblyg ac os felly, pryd y gwnaethoch y cais.
Pethau y mae angen i chi eu hystyried:
- Bydd patrwm gweithio rhagweladwy newydd fel arfer yn newid parhaol i'ch telerau ac amodau oni bai y gofynnir yn wahanol ac y cytunir arno fel arall.
- Os caiff eich cais ei gymeradwyo, ni fydd modd i chi ddychwelyd i'ch patrwm gwaith blaenorol pryd bynnag y byddwch yn dymuno gwneud hynny.
- Dylech fod yn ymwybodol y bydd eich cyflog a’ch gwyliau blynyddol yn pro rata i’ch patrwm gweithio newydd os byddwn yn cytuno i’ch patrwm gwaith newydd.
- Ystyriwch sut y bydd eich cydweithwyr yn ymdopi os byddwch yn newid eich trefniant gweithio.
- Meddyliwch yn ofalus pa effaith a gaiff newid eich trefniant gwaith ar eich swydd.
- Efallai y byddwch yn gallu cytuno i gyfnod prawf cyn cwblhau newid parhaol.
7. Ystyried cais am batrwm gweithio rhagweladwy
Rhaid ymdrin â phob cais mewn modd rhesymol. Dylai hyn gynnwys:
- ystyried eich patrwm gweithio presennol – mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, a ydych eisoes wedi bod yn gweithio'r un oriau, diwrnodau neu amseroedd yn fras a hynny’n rheolaidd, neu’n gweithio i’r Awdurdod o dan gyfres o gontractau cyfnod penodol.
- asesu effaith y newid y gofynnwyd amdano arnoch chi a’r gwasanaeth, gan gynnwys manteision posibl ac effeithiau eraill ei dderbyn neu ei wrthod.
Mae'n rhaid i'ch rheolwr dderbyn cais am batrwm gweithio rhagweladwy oni bai bod rheswm busnes dilys dros beidio â gwneud hynny. Rhaid i benderfyniad i wrthod cais fod am un neu fwy o’r rhesymau busnes a ganlyn a nodir yn Neddf Hawliau Cyflogaeth 1996:
- baich y costau ychwanegol.
- effaith niweidiol ar y gallu i ateb y galw gan gwsmeriaid.
- effaith andwyol ar recriwtio staff.
- effaith andwyol ar agweddau eraill ar y busnes.
- dim digon o waith ar gael ar gyfer y cyfnodau y mae'r gweithiwr yn bwriadu gweithio.
- newidiadau strwythurol arfaethedig i'r busnes.
Gall eich rheolwr hefyd wrthod cais am resymau eraill pan fydd eich contract yn dod i ben yn ystod y cyfnod penderfynu statudol o fis ar gyfer ceisiadau. Gweler paragraff 13 i gael rhagor o wybodaeth.
Pan fydd eich rheolwr yn ystyried gwrthod cais, dylai ystyried a oes trefniadau eraill ac addas ar gyfer darparu bod yn fwy rhagweladwy. Os ydyw, dylai drafod y peth â chi. Dylai eich rheolwr ofyn am gyngor gan Bartner Busnes Adnoddau Dynol cyn gwrthod cais.
8. Cyfarfod i drafod cais
Ar ôl i'ch cais ddod i law, dylai eich rheolwr drefnu cyfarfod gyda chi i'w drafod. Gall hyn helpu i sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei deall cyn i benderfyniad gael ei wneud. Dylai fod gan y rheolwr sy'n cynnal y cyfarfod ddigon o awdurdod i benderfynu ar eich cais.
Dylid cynnal y cyfarfod heb oedi afresymol. Dylai trefniadau’r cyfarfod ganiatáu amser rhesymol i chi a’ch rheolwr baratoi ar gyfer y drafodaeth, wrth ystyried y cyfnod penderfynu statudol o fis ar gyfer ceisiadau (gweler paragraff 12).
Dylid cynnal y cyfarfod yn breifat. Gellir ei gynnal yn bersonol neu o bell trwy alwad fideo, neu lle nad yw'r naill na'r llall yn bosibl, trwy alwad ffôn.
Dylai cynnwys y cyfarfod a’r modd y’i cynhelir ganiatáu trafodaeth resymol ac ystyriaeth resymol o’r cais. Os yw eich rheolwr yn ystyried derbyn y cais, neu gytuno ar batrwm gweithio rhagweladwy arall, dylai drafod gyda chi sut a phryd y gellir gweithredu'r newidiadau orau.
Dylid cadw cofnod ysgrifenedig cywir o'r drafodaeth hon.
9. Cyfathrebu penderfyniad am gais
Pan fydd eich rheolwr wedi penderfynu ar eich cais, rhaid iddo roi gwybod i chi am y penderfyniad hwnnw. Dylai wneud hynny'n ysgrifenedig heb oedi afresymol, gan ddweud yn glir beth sydd wedi'i benderfynu a pham. Dylid cyfleu’r penderfyniad hwn i chi o fewn amserlen a fydd yn caniatáu amser rhesymol i chi apelio os ydych yn dymuno, wrth ystyried y cyfnod penderfynu statudol o fis ar gyfer ceisiadau (gweler paragraff 12).
Os gwrthodir y cais, dylai'r penderfyniad ysgrifenedig nodi'r rheswm/rhesymau busnes yn glir (gweler paragraff 7). Dylai hefyd nodi unrhyw wybodaeth ychwanegol sy'n rhesymol i helpu i egluro'r penderfyniad i chi. Cynigir yr hawl i chi apelio yn erbyn y penderfyniad a bydd y penderfyniad ysgrifenedig yn egluro sut i wneud hynny a'r amserlen ar gyfer derbyn unrhyw apêl.
10. Delio ag Apêl
Dylid gwneud apeliadau yn ysgrifenedig i'ch Pennaeth Gwasanaeth a dylent nodi sail eich apêl. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, os oes gwybodaeth newydd yr hoffech iddi gael ei hystyried.
Pan ddaw apêl i law, caiff ei chydnabod a threfnir cyfarfod apêl i glywed sail eich apêl. Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnull gan reolwr nad oedd yn gysylltiedig â'ch achos o'r blaen. Bydd y rheolwr hwn hefyd yn ystyried y rhesymau pam y gwrthodwyd eich cais gan eich rheolwr llinell.
Pan fydd y rheolwr sy’n gwrando ar yr apêl wedi dod i benderfyniad, bydd yn eich hysbysu o’r penderfyniad hwnnw yn ysgrifenedig heb oedi afresymol, wrth ystyried y cyfnod penderfynu statudol o fis ar gyfer ceisiadau (gweler paragraff 12). Dylai'r penderfyniad nodi'n glir beth sydd wedi'i benderfynu a pham.
11. Caniatáu i weithiwr ddod gyda nhw
Nid oes hawl statudol i gael cwmni mewn cyfarfodydd a gynhelir i drafod cais am batrwm gweithio rhagweladwy. Fodd bynnag, gallwch ofyn i'ch cynrychiolydd undeb llafur neu swyddog, neu gydweithiwr priodol ddod gyda chi i'r cyfarfod. Darllenwch ein harweiniad ar rôl y cydymaith.
Os byddwch yn gwneud cais i ddod â rhywun gyda chi i unrhyw gyfarfod i drafod eich cais am batrwm gweithio rhagweladwy, ni ddylai hyn achosi oedi gormodol yn y broses.
12. Penderfynu ar geisiadau o fewn y cyfnod penderfynu statudol o fis
Rhaid penderfynu ar bob cais, gan gynnwys unrhyw apêl, a'i gyfleu i chi o fewn mis i ddyddiad y cais.
Os bydd eich rheolwr neu reolwr dilynol sy’n gwrando ar eich apêl yn trefnu cyfarfod i drafod y cais, dylai roi cyfle rhesymol i chi fod yn bresennol. Os na fyddwch yn bresennol, dylai eich rheolwr neu reolwr sy'n gwrando ar eich apêl aildrefnu'r cyfarfod. Os byddwch yn methu â mynychu’r ddau gyfarfod heb reswm da, efallai y bydd eich rheolwr neu’r rheolwr sy’n gwrando ar eich apêl yn cymryd bod y cais wedi’i dynnu’n ôl. Os bydd eich rheolwr neu'r rheolwr sy'n gwrando ar eich apêl yn ystyried bod y cais wedi'i dynnu'n ôl, rhaid iddynt roi gwybod i chi am hyn yn ysgrifenedig.
13. Penderfynu ar geisiadau lle mae contract y gweithiwr yn dod i ben yn ystod y cyfnod penderfynu statudol o fis
Os ydych wedi gwneud cais a bod eich contract yn dod i ben yn ystod y cyfnod penderfynu statudol o fis, rhaid i’ch rheolwr barhau i ymdrin â’r cais mewn modd rhesymol a phenderfynu ar y cais o fewn y cyfnod hwnnw o fis (yn dilyn paragraff 12).
Rhaid i’ch rheolwr dderbyn cais o dan yr amgylchiadau hyn oni bai bod unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- bod gan eich rheolwr reswm busnes dilys dros wrthod y cais, fel y nodir ym mharagraff 7.
- eich bod wedi dod â'ch contract i ben.
- bod eich contract wedi dod i ben oherwydd eich ymddygiad neu allu, dileu swydd, dyletswydd neu gyfyngiad cyfreithiol, neu ryw reswm sylweddol arall yn unol â pholisi a gweithdrefn yr Awdurdod perthnasol.
Os bydd eich rheolwr yn derbyn y cais o dan yr amgylchiadau hyn, rhaid iddo gynnig contract newydd i chi gyda thelerau ac amodau sydd ill dau:
- yn adlewyrchu'r newid y gofynnwyd amdano.
- yn gyffredinol, heb fod yn llai ffafriol na rhai eich contract ar adeg eich cais.
Rhaid i'ch rheolwr gynnig y contract newydd i chi o fewn pythefnos i dderbyn y cais. Dylid gwneud y cynnig hwn yn ysgrifenedig.
