Polisi Patrwm Gweithio Rhagweladwy

13. Penderfynu ar geisiadau lle mae contract y gweithiwr yn dod i ben yn ystod y cyfnod penderfynu statudol o fis

Os ydych wedi gwneud cais a bod eich contract yn dod i ben yn ystod y cyfnod penderfynu statudol o fis, rhaid i’ch rheolwr barhau i ymdrin â’r cais mewn modd rhesymol a phenderfynu ar y cais o fewn y cyfnod hwnnw o fis (yn dilyn paragraff 12).

Rhaid i’ch rheolwr dderbyn cais o dan yr amgylchiadau hyn oni bai bod unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • bod gan eich rheolwr reswm busnes dilys dros wrthod y cais, fel y nodir ym mharagraff 7.
  • eich bod wedi dod â'ch contract i ben.
  • bod eich contract wedi dod i ben oherwydd eich ymddygiad neu allu, dileu swydd, dyletswydd neu gyfyngiad cyfreithiol, neu ryw reswm sylweddol arall yn unol â pholisi a gweithdrefn yr Awdurdod perthnasol.

Os bydd eich rheolwr yn derbyn y cais o dan yr amgylchiadau hyn, rhaid iddo gynnig contract newydd i chi gyda thelerau ac amodau sydd ill dau:

  • yn adlewyrchu'r newid y gofynnwyd amdano.
  • yn gyffredinol, heb fod yn llai ffafriol na rhai eich contract ar adeg eich cais.

Rhaid i'ch rheolwr gynnig y contract newydd i chi o fewn pythefnos i dderbyn y cais. Dylid gwneud y cynnig hwn yn ysgrifenedig.