Canllawiau Ynghylch Contract Cyfnod Penodol/Dros Dro - Awst 2026
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Pwrpas
- 3. Cwmpas
- 4. Y Gwahaniaethau Rhwng Contract Cyfnod Penodol a Chontract Dros Dro
- 5. Gweithwyr Achlysurol
- 6. Defnydd Olynol o Gontractau Cyfnod Penodol/Dros Dro
- 7. Cyhoeddi Contractau Cyfnod Penodol/ Dros Dro
- 8. Hawliau Gweithwyr Cyfnod Penodol/Dros Dro
- 9. Cyfnod Penodol/Dros Dro ac Ailstrywthuro
- 10. Gweithwyr Cyfnod Penodol/Dros Dro sy'n Gwneud Cais am Secondiadau
- 11. Dewis y Swyddi i'w Dileu
- 12. Taliad Dileu Swydd
- 13. Gwasanaeth Di-dor
- 14. Cyrchu Swyddi Parhaol
- 15. Adnewyddu a Pheidio ag Adnewyddu Contractau Penodol/Dros Dro
- 16. Adolygu Contractau Cyfnod Penodol/Dros Dro
- 17. Adnewyddu Contract Cyfnod Penodol/Dros Dro
- 18. Peidio ag Adnewyddu Contract Cyfnod Penodol/Dros Dro
- 19. Sicrhau Cyfle Cyfartal
- Atodiad A - Holi ac Ateb Ynghylch Ailstrwythuro a Chontractau Cyfnod Penodol/Dros Dro
- Atodiad B - Llythyr Gwahodd o ran Ymgynghori ynghylch Contract Cyfnod Penodol/Dros Dro
5. Gweithwyr Achlysurol
Nid yw Gweithwyr Achlysurol yn weithwyr i'r Awdurdod/ysgol a dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y dylid eu defnyddio:
Pan fydd y gwaith
Yn digwydd unwaith yn unig ac am gyfnod byr (cyfnod hiraf o 3 mis), neu
Yn digwydd yn amlach ond ar sail afreolaidd ac anaml, a
Lle nad oes rheidrwydd ar yr Awdurdod neu'r ysgol i gynnig gwaith, na rheidrwydd ar yr unigolyn i’w dderbyn.
Mae'r rhain yn weithwyr sy'n cael eu cyflogi ar gyfer digwyddiad un tro neu gyfres o ddigwyddiadau un tro, e.e. gweithwyr cynlluniau chwarae yn ystod yr haf, lleoliadau gwaith dros yr haf.
Gan fod gweithwyr achlysurol yn gallu llithro i drefniadau gweithio mwy cyfnod hir, mae angen cymryd gofal i wahaniaethu rhwng 'gwir' weithwyr achlysurol ac unigolion sy'n cael eu defnyddio'n fwy aml a rheolaidd. Mae gweithwyr achlysurol yn cronni gwyliau statudol yn unol â Rheoliadau Amser Gweithio y DU, hynny yw 5.6 wythnos (28 diwrnod gan gynnwys 8 o Wyliau Banc/Cyhoeddus) pro rata.
