Canllawiau Ynghylch Contract Cyfnod Penodol/Dros Dro - Awst 2026

1. Cyflwyniad

Ysgrifennwyd y canllawiau hyn yn unol â gofynion deddfwriaethol ac felly mae'n berthnasol i holl weithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin ac mewn ysgolion ac mae'n rhoi arweiniad i'r holl Benaethiaid a'r rheolwyr sydd â chyfrifoldeb dros staff o ran cyflwyno a rheoli contractau cyfnod penodol/dros dro.

Penaethiaid, Penaethiaid Gwasanaeth a Rheolwyr sy'n gyfrifol am bennu natur y contract cyflogaeth ar gyfer yr holl staff ac mae'n hanfodol bod rhesymau tryloyw a gwrthrychol dros gytuno bod swydd yn un dros dro neu'n un am gyfnod penodol yn hytrach na bod yn swydd barhaol.

Y brif ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar weithwyr cyfnod penodol/dros dro yw Rheoliadau Gweithwyr Cyfnod Penodol (Atal Triniaeth Lai Ffafriol) 2002 (O.S. 2022/2034), a ddaeth i rym ym mis Hydref 2002, a Rheoliadau Gweithwyr Cyfnod Penodol (Atal Triniaeth Lai Ffafriol) (Diwygio) 2008.

Yn ôl y Rheoliadau:

  • Mae gan weithwyr cyfnod penodol hawl i beidio â chael eu trin yn llai ffafriol na gweithwyr parhaol eraill, oni bai bod y driniaeth lai ffafriol wedi'i chyfiawnhau ar sail wrthrychol;

  • Bydd triniaeth unrhyw weithiwr cyfnod penodol yn cael ei chymharu â thriniaeth unrhyw weithiwr parhaol sy'n gwneud yr un gwaith neu waith tebyg i'r un cyflogwr;

  • Ni ddylai gweithwyr cyfnod penodol gael eu cyflogi ar gyfres o gontractau cyfnod penodol olynol y tu hwnt i 4 blynedd;

  • Ni all gweithwyr cyfnod penodol ildio'u hawl statudol i honni eu bod wedi'u diswyddo'n annheg neu gael taliadau dileu swyddi os bydd eu swyddi'n cael eu dileu ar ddiwedd eu contractau.

  • Gall gweithwyr cyfnod penodol ofyn am ddatganiad ysgrifenedig yn cadarnhau bod eu contractau'n rhai parhaol neu'n nodi cyfiawnhad gwrthrychol dros ddefnyddio contract tymor penodol y tu hwnt i'r cyfnod o bedair blynedd. Rhaid darparu'r datganiad ysgrifenedig cyn pen 21 diwrnod ar ôl y cais.

Trwy ddilyn y cyngor a roddir, gall yr Awdurdod/ysgol sicrhau defnydd priodol o gontractau cyfnod penodol neu dros dro, a lleihau'r risg o ran honiadau'n cael eu gwneud ynghylch diswyddo annheg a chwynion ynghylch triniaeth anghyfartal.