Canllawiau Ynghylch Contract Cyfnod Penodol/Dros Dro - Awst 2026
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Pwrpas
- 3. Cwmpas
- 4. Y Gwahaniaethau Rhwng Contract Cyfnod Penodol a Chontract Dros Dro
- 5. Gweithwyr Achlysurol
- 6. Defnydd Olynol o Gontractau Cyfnod Penodol/Dros Dro
- 7. Cyhoeddi Contractau Cyfnod Penodol/ Dros Dro
- 8. Hawliau Gweithwyr Cyfnod Penodol/Dros Dro
- 9. Cyfnod Penodol/Dros Dro ac Ailstrywthuro
- 10. Gweithwyr Cyfnod Penodol/Dros Dro sy'n Gwneud Cais am Secondiadau
- 11. Dewis y Swyddi i'w Dileu
- 12. Taliad Dileu Swydd
- 13. Gwasanaeth Di-dor
- 14. Cyrchu Swyddi Parhaol
- 15. Adnewyddu a Pheidio ag Adnewyddu Contractau Penodol/Dros Dro
- 16. Adolygu Contractau Cyfnod Penodol/Dros Dro
- 17. Adnewyddu Contract Cyfnod Penodol/Dros Dro
- 18. Peidio ag Adnewyddu Contract Cyfnod Penodol/Dros Dro
- 19. Sicrhau Cyfle Cyfartal
- Atodiad A - Holi ac Ateb Ynghylch Ailstrwythuro a Chontractau Cyfnod Penodol/Dros Dro
- Atodiad B - Llythyr Gwahodd o ran Ymgynghori ynghylch Contract Cyfnod Penodol/Dros Dro
18. Peidio ag Adnewyddu Contract Cyfnod Penodol/Dros Dro
Mae canllawiau disgyblu, cwyno a diswyddo y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS) yn benodol yn berthnasol o ran peidio ag adnewyddu contract cyfnod penodol neu dros dro yn yr un modd ag y mae'n berthnasol i ddiswyddo gweithiwr parhaol, er y gallai'r ddau barti ddisgwyl i'r contract ddod i ben. Mae hyn oherwydd bydd dod â chontract cyfnod penodol/dros dro i ben yn dal i gael ei ystyried fel diswyddiad at ddibenion cyfraith diswyddo annheg. Y Rheolwr/Pennaeth sy'n gyfrifol am ddiswyddo gweithiwr.
Ystyrir mai'r camau canlynol yw'r arferion gorau a byddant yn cydymffurfio â'r broses apelio:
Cam 1: Nodi'n ysgrifenedig y penderfyniad arfaethedig i beidio ag adnewyddu'r contract cyfnod penodol/dros dro a chynnig cyfle i'r gweithiwr gyfarfod i drafod y mater (gall y gweithiwr fod yng nghwmni cynrychiolydd o undeb llafur neu gydweithiwr a dylid rhoi rhybudd rhesymol ynghylch hyn). Gweler Atodiad B am lythyr enghreifftiol.
Os bydd y gweithiwr yn cadarnhau ei fod am ddod i'r cyfarfod:
Cadarnhau gyda'r gweithiwr bod y contract cyflogaeth yn dod i ben; y dyddiad dod i ben, ac na fydd yn cael ei adnewyddu.
Eglurwch y rheswm dros beidio ag adnewyddu'r contract.
Cadarnhau'r diswyddiad, y rhesymau dros hynny a'r dyddiad dod i ben. Bydd y diswyddiad ar sail dileu swydd (â thâl neu heb dâl) neu ryw rheswm sylweddol arall.
Os yw'r gweithiwr yn un o nifer o weithwyr sydd â chontract cyfnod penodol neu dros dro a bod angen dewis pa swydd sydd i'w dileu, dylid egluro'r meini prawf a ddefnyddir i wneud y dewis hwnnw.
Gwirio a chadarnhau p'un a yw'r gweithiwr yn gymwys ar gyfer statws adleoli a chael cyngor gan eich Parter Busnes AD lle bo hynny'n briodol.
Sicrhewch fod yr unigolyn yn ymwybodol o sut i gyrchu manylion swyddi gwag ar y rhyngrwyd.
Mewn achosion lle mae'r gweithiwr wedi bod ar gontract cyfnod penodol neu dros dro o 2 flynedd neu ragor ac mai'r rheswm dros ddiswyddo yw dileu'r swydd, mae'n rhaid rhoi gwybod iddo y bydd hawl ganddo i gael taliad dileu swydd. Dylai'r rheolwr llinell gysylltu â'i Bartner Busnes AD i gael amcangyfrif o gostau dileu swyddi.
Cam 2: Ar ôl y cyfarfod, mae'n rhaid i'r gweithiwr gael gwybod gan y Rheolwr am y penderfyniad a chysylltu â’r Partner Busnes AD i gyflwyno llythyr sy'n cadarnhau'r penderfyniad i adnewyddu contract cyflogaeth neu derfynu cyflogaeth.
Cam 3: Mae gan weithiwr yr hawl i apelio yn erbyn terfynu contract cyfnod penodol neu dros dro. Dylai'r apêl fod yn ysgrifenedig lle bo modd, gan ddatgan y rhesymau dros apelio, a dylid ei chyflwyno fel ei bod yn dod i law o leiaf 7 niwrnod cyn y dyddiad terfynu. Dylid cyfeirio apeliadau at y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi).
Ymgynghori ynghylch dileu swyddi ar y cyd
Y cyfnod lleiaf i ymgynghori ynghylch dileu swyddi ar y cyd yw 45 diwrnod.
Y cyfnod lleiaf i ymgynghori pan fo'r cyflogwr yn bwriadu diswyddo rhwng 20 a 99 o weithwyr yw 30 diwrnod.
Caiff contractau cyfnod penodol/dros dro sy'n dod i ben fel y rhagwelwyd gan y cyflogwr a'r gweithiwr eu heithrio o ran y gofyniad i ymgynghori ar y cyd. Fodd bynnag, os yw'r gweithiwr yn bwriadu diswyddo'r gweithwyr cyfnod penodol yn gynharach na'r dyddiad y cytunwyd arno (a'r rheswm dros hynny yw dileu swyddi), mae'n rhaid i'r cyflogwr gynnwys y contractau cyfnod penodol yn y cyfrif ar gyfer dileu swyddi ar y cyd ac mae'n rhaid iddo ymgynghori ynghylch y diswyddiadau arfaethedig.
Os oes gan y gweithiwr dros ddwy flynedd o wasanaeth, dylai'r Rheolwr/Pennaeth ymgynghori â'i Bartner Busnes Adnoddau Dynol ynghylch a oes hawl o ran taliad dileu swydd (gweler adran 12).
