Canllawiau i Gydweithwyr

Diweddarwyd y dudalen: 31/05/2023

Ydych chi'n gydweithiwr i ddioddefwr/goroeswr, neu'n gyflawnwr cam-drin domestig, trais domestig neu drais rywiol?

Os ydych chi'n meddwl bod cydweithiwr yn dioddef camdriniaeth, gallwch chi helpu.

Mae’r straen o fyw mewn perthynas gamdriniol yn debygol o effeithio ar allu unigolyn i berfformio hyd eithaf eu gallu yn y gwaith, ac mae’n annhebygol y bydd y gamdriniaeth yn stopio tra bydd yr unigolyn yn y gwaith.

Fel cydweithiwr, rydych mewn sefyllfa dda i allu nodi newidiadau mewn ymddygiad, gwisg neu olwg a allai fod yn arwydd o gam-drin domestig.

Fe'ch anogir i ymateb yn briodol os ydych yn amau bod cydweithiwr yn dioddef neu'n cyflawni camdriniaeth. Rhowch wybod iddynt eich bod wedi sylwi bod rhywbeth o'i le. Efallai na fydd unigolion yn awyddus i drafod y gamdriniaeth, ond dylid codi eich pryderon yn gyfrinachol gyda'ch rheolwr. Bydd rhai dioddefwyr cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol yn teimlo na allant dderbyn cymorth, a all fod yn rhwystredig. Dylech gynnig cymorth lle bo’n bosibl, ond peidiwch â gorfodi unigolyn i ddatgelu camdriniaeth, neu i ddilyn camau gweithredu nad yw'n gyfforddus â nhw. Rhowch wybod iddynt fod cymorth emosiynol ar gael iddynt ac unrhyw blant sydd ganddynt.

Mae gan ein tudalen Cymorth a Chefnogaeth ffynonellau cymorth sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin a, lle bo'n bosibl, dylech drafod gyda'ch cydweithiwr y posibiliad o gael cymorth.

Os ydych yn teimlo y gallwch godi'r mater gyda'ch cydweithiwr, mae ein tudalen Gofyn Cwestiynau Anodd yn cynnig enghreifftiau o sut i ofyn y cwestiwn.

Nid eich cyfrifoldeb chi yw atal y gamdriniaeth, ond gallwch chi chwarae rhan bwysig trwy dynnu sylw at eich pryderon. Dylech wneud y canlynol –

  • credu beth maent yn ei ddweud wrthych a dangos eich bod yn poeni amdanynt;
  • peidio â disgwyl iddynt wneud penderfyniad sydyn;
  • eu helpu i ystyried  y dewisiadau sydd ganddynt;
  • peidio â chyfryngu na bod yn berson cyswllt rhyngddyn nhw a'r camdriniwr;
  • rhoi sicrwydd iddynt nad ydynt ar eu pen eu hunain a bod cymorth ar gael;
  • eu hannog i siarad â; gwasanaeth Cymorth a Chefnogaeth.
  • cynnig cymorth ymarferol, megis defnyddio eich cyfeiriad ar gyfer y post, ffôn neu gyfrifiadur;
  • eu hannog i gymryd pob bygythiad o ddifrif a rhoi gwybod am y gamdriniaeth, Cymorth a Chefnogaeth
  • pheidio byth â bychanu'r bygythiadau a wneir gan y camdriniwr.

Os ydych yn credu bod plentyn yn dioddef, dylech roi gwybod i'ch rheolwr llinell am eich pryderon fel y gellir cynnig y cymorth cywir. Os oes risg o niwed neu os ydych yn credu bod y plentyn mewn perygl dybryd, dylech gysylltu â’r gwasanaethau plant/yr heddlu ar unwaith.

 

 

 

 

Dylid codi unrhyw bryderon am gydweithiwr yn y gwaith yn gyfrinachol gyda'ch rheolwr a, lle bo modd, gyda chaniatâd yr unigolyn.

Peidiwch byth â datgelu gwybodaeth bersonol am gydweithwyr i eraill, gan gynnwys gweithwyr eraill, heb eu caniatâd. Cofiwch y gallai cyflawnwr gysylltu â gweithle'r dioddefwr i gael gwybodaeth amdanynt, neu i ddysgu am eu lleoliad.

Ni ddylech ateb ymholiadau gan aelodau’r cyhoedd am drefniadau gwaith cydweithwyr, megis eu horiau gwaith neu eu patrwm sifft. Peidiwch byth â dweud wrth y galwr ble mae'r gweithiwr a faint o'r gloch y bydd yn ôl na dweud eu bod ar wyliau.

Gall bod yn dyst i gydweithiwr sy’n dioddef cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol fod yn drawmatig ac efallai y byddwch yn teimlo'n ddi-rym neu nad oes modd i chi eu helpu. Cofiwch y gallwch ofyn am gymorth cyfrinachol gan eich rheolwr llinell, Uned Iechyd Galwedigaethol y Cyngor neu gan y llinellau cymorth lleol neu genedlaethol a restrir ar ein tudalen Cymorth a Chefnogaeth (nid oes rhaid i chi fod yn ddioddefwr eich hun i gysylltu â nhw).

Oni bai eich bod yn arbenigwr neu’n gwnselydd cymwys a hyfforddedig, ni ddylech ymgymryd â'r rolau hynny na cheisio datrys problemau’r unigolyn.

Os ydych chi'n teimlo bod gennych ormod o waith ychwanegol gan na all cydweithiwr sy'n cael eu cam-drin ei gwblhau, cofiwch y gallwch chi godi'r mater hwn gyda'ch rheolwr llinell.

 

 

Adnoddau Dynol