Absenoldeb Mamolaeth

Diweddarwyd y dudalen: 31/05/2023

Gallwch roi gwybod i’ch Rheolwr Llinell ar lafar neu’n ysgrifenedig.

Yr adeg gynharaf y gall eich absenoldeb mamolaeth gychwyn yw 11 wythnos cyn y disgwylir i’r babi gael ei eni.

Rhaid ichi roi rhybudd ysgrifenedig i’ch rheolwr llinell erbyn y 15fed wythnos fan bellaf cyn dyddiad yr enedigaeth.

Mae modd newid y dyddiad y bydd eich absenoldeb mamolaeth yn cychwyn, ar yr amod eich bod yn rhoi rhybudd ysgrifenedig 28 diwrnod o flaen llaw neu, os nad yw hynny’n bosibl, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol.

Bydd y gwyliau y mae gennych hawl iddynt yn parhau i gronni yn ystod eich absenoldeb mamolaeth. Pan fo modd, dylai unrhyw wyliau sydd eisoes yn ddyledus gael eu cymryd cyn cychwyn eich absenoldeb mamolaeth. Mewn achosion pan nad yw hynny’n bosibl, bydd diwrnodau’r gwyliau blynyddol sy’n weddill yn cael eu trosglwyddo i’r flwyddyn wyliau newydd.

(Gall fod yn ofynnol ichi gymryd yr holl wyliau, neu rai o’r gwyliau, sy’n cael eu trosglwyddo i flwyddyn wyliau newydd ar ddiwrnodau penodol, yn ôl yr hyn a bennir gan eich rheolwr llinell a gofynion y gwasanaeth).

Mae gennych hawl i amser o’r gwaith â thâl i gael gofal cynenedigol, a rhaid ichi ddarparu tystiolaeth o’r apwyntiad cyntaf os yw’r Rheolwr Llinell yn gofyn ichi wneud hynny. Gall gofal cynenedigol gynnwys archwiliadau meddygol ond hefyd ddosbarthiadau ymlacio a rhianta yn dilyn cyngor gan ymarferydd meddygol cofrestredig, bydwraig neu, os dewis personol a wneir, rhaid gwneud cais am wyliau blynyddol.

Sylwch: rydym yn cadw’r hawl i ofyn ichi aildrefnu apwyntiadau pan fo’n rhesymol gwneud hynny. Pan fo’n bosibl, dylech geisio trefnu i’r apwyntiadau hyn gael eu cynnal mor agos at gychwyn neu ddiwedd y diwrnod gwaith ag y bo modd.

Os byddwch yn absennol oherwydd salwch nad yw’n gysylltiedig â’ch beichiogrwydd, tra byddwch yn dal i weithio, bydd tâl salwch yn cael ei dalu ichi yn y ffordd arferol.

Ni fyddwch yn cael tâl salwch yn ystod eich absenoldeb mamolaeth, ond byddwch yn parhau i gael tâl mamolaeth dros y cyfnod y mae gennych hawl iddo.

Os yw’r babi’n cael ei eni cyn cychwyn eich absenoldeb mamolaeth (neu hyd yn oed cyn ichi hysbysu’r Tîm Absenoldeb a’ch Rheolwr Llinell am y dyddiad y bwriedir iddo gychwyn), bydd cyfnod eich absenoldeb mamolaeth yn cychwyn yn awtomatig y diwrnod ar ôl yr enedigaeth.

Mae’n bosibl fod gennych hawl i absenoldeb/tâl mamolaeth ond gan fod yr Awdurdod yn eich cyflogi o dan gontract â chyfnod penodol, sydd i ddod i ben ar adeg eich absenoldeb mamolaeth neu yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd unrhyw daliadau galwedigaethol (os ydych yn gymwys i’w cael) yn dod i ben ar y dyddiad gorffen. Bydd unrhyw Dâl Mamolaeth Statudol sy’n weddill (os ydych yn gymwys i’w gael) yn cael ei dalu mewn cyfandaliad.

Fodd bynnag, os bydd eich contract yn cael ei ymestyn neu os byddwch yn dod o hyd i swydd arall, cysylltwch â’ch Swyddog Adnoddau Dynol adrannol a’r Tîm Absenoldeb, oherwydd mae’n bosibl y bydd gennych hawl i absenoldeb/tâl mamolaeth ychwanegol.

Cymerir y byddwch yn dychwelyd ar ddiwedd Cyfnod eich Absenoldeb Mamolaeth. Os ydych yn dymuno dychwelyd i’r gwaith cyn hynny, rhaid ichi roi o leiaf 8 wythnos o rybudd i’ch rheolwr llinell a’r Tîm Absenoldeb eich bod yn dymuno dychwelyd i’r gwaith yn gynnar.

Rydym wedi ymrwymo i hwyluso awyrgylch sy’n cefnogi’r teulu ac mae polisïau wedi’u datblygu i’r perwyl hwnnw. Ymysg y dewisiadau eraill y gellir eu hystyried mae: gwneud cais i gael gweithio’n hyblyg, rhannu swydd, neu weithio’n rhan-amser. Gweler polisi Gweithio’n Hyblyg y cyngor a’i Bolisi a Gweithdrefn ynghylch Rhannu Swydd i gael rhagor o wybodaeth.

Os ydych yn gweithio i gyflogwr arall yn ystod eich cyfnod tâl mamolaeth statudol ond cyn i’r babi gael ei eni, dylai’r Awdurdod barhau i dalu tâl mamolaeth statudol. Os ydych yn gweithio i gyflogwr arall yn ystod yr absenoldeb mamolaeth statudol ond ar ôl i’ch babi gael ei eni, bydd angen inni wirio a fuoch yn gweithio i’r cyflogwr arall yn ystod y 15fed wythnos cyn yr adeg yr oedd disgwyl i’ch babi gael ei eni. Os gwnaethoch, dylai tâl mamolaeth statudol gael ei dalu yn ôl y drefn arferol.

Fodd bynnag, os ydych yn gweithio i gyflogwr arall na fuoch yn gweithio iddo yn ystod y 15fed wythnos cyn yr adeg yr oedd disgwyl i’ch babi gael ei eni, byddwn yn rhoi’r gorau i dalu tâl mamolaeth statudol o ddechrau’r wythnos y buoch yn gweithio i’r cyflogwr arall. Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod inni eich bod yn gweithio i rywun arall yn ystod eich cyfnod tâl mamolaeth statudol.

Os byddwch yn penderfynu peidio â dychwelyd am o leiaf 13 wythnos, a hynny wedi ichi gadarnhau eich bwriad i ddychwelyd i’r gwaith, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn ichi ad-dalu rhywfaint o’r taliadau a gawsoch. Gweler y polisi Absenoldeb Mamolaeth i gael rhagor o fanylion.

Llwythwch mwy

Adnoddau Dynol