Salwch a gwyliau blynyddol

Diweddarwyd y dudalen: 20/02/2024

Mae'n rhaid i weithiwr sy'n mynd yn sâl ar wyliau roi gwybod i'w reolwr llinell ar unwaith er mwyn i'r amser hwn gael ei ystyried fel absenoldeb salwch. Hefyd mae angen cyflwyno 'Nodyn Ffitrwydd' meddyg teulu sy'n cadarnhau na fyddai wedi bod yn ffit i fynychu gwaith yn ystod y cyfnod dan sylw o'i wyliau blynyddol. I gael gwybodaeth bellach gwelwch Polisi Gwyliau Blynyddol a Thâl Gwyliau – Salwch a Gwyliau.

Nid yw gweithwyr sy'n sâl yn ystod gwyliau cenedlaethol yn gallu ail-hawlio'r diwrnod hwn fel gwyliau blynyddol.

Cymryd Gwyliau Blynyddol yn ystod Absenoldeb Salwch

Pan fydd gweithiwr yn absennol oherwydd salwch hirdymor efallai y bydd yn gallu defnyddio gwyliau blynyddol os yw'n dymuno gwneud. Mae defnyddio gwyliau blynyddol yn ystod absenoldeb salwch yn wirfoddol. Gellir cyflwyno cais am wyliau yn ysgrifenedig i'r Rheolwr Llinell.

Os bydd y gweithiwr yn cymryd gwyliau blynyddol pan fydd ar absenoldeb salwch bydd yn derbyn ei dâl gwyliau arferol yn hytrach na thâl salwch galwedigaethol ar gyfer y dyddiau a enwebwyd. Os yw'r gweithiwr yn gymwys ar gyfer tâl salwch statudol, bydd yn parhau i gael ei dalu yn ystod ei wyliau blynyddol. Bydd SSP yn cael ei wrthbwyso yn erbyn tâl gwyliau. Bydd angen i Reolwyr Llinell sicrhau bod Gwyliau Blynyddol yn cael ei gofnodi ar gyfer y gweithiwr trwy brosesu'r dyddiau o wyliau ar y system hunan wasanaeth ar y we ‘My View’ neu ddogfennu'r gwyliau a gymerwyd ar y cofnodion papur perthnasol.

Mae'n rhaid i Reolwyr Llinell roi gwybod i'r Tîm Absenoldeb er mwyn gwneud addasiadau priodol i gyflog y gweithwyr.

Cronni Gwyliau yn ystod Cyfnodau o Absenoldeb Salwch

Bydd y 4 wythnos gyntaf o absenoldeb salwch parhaus yn cronni gwyliau blynyddol ar yr hawl i wyliau cytundebol. Bydd unrhyw gyfnod o absenoldeb salwch parhaus sy'n fwy na 4 wythnos yn cronni gwyliau blynyddol ar y gyfradd statudol 5.6 wythnos neu 28 diwrnod (20 diwrnod ac 8 diwrnod o wyliau banc) y darparwyd amdani o dan Reoliadau Amser Gwaith 1998. Bydd unrhyw hawl i wyliau blynyddol yn pro rata ar gyfer gweithwyr rhan amser.

Gall gweithiwr gludo 28 diwrnod o wyliau (yn cynnwys gwyliau banc) drosodd os nad yw wedi gallu cymryd y gwyliau oherwydd absenoldeb salwch yn y flwyddyn wyliau pan gafodd ei gronni.

Os yw'r gyflogaeth yn cael ei therfynu cyn i weithiwr dychwelyd o absenoldeb salwch, bydd yr unigolyn yn derbyn taliad yn lle unrhyw hawl i wyliau statudol cronedig heb ei gymryd.

Addasu Gwyliau Blynyddol 

Dylai hawl i Wyliau Blynyddol gweithwyr gael ei addasu gan y rheolwr llinell, yn unol â'r gyfradd statudol a nodir dan Reoliadau Amser Gweithio 1998, (28 diwrnod y flwyddyn gan gynnwys 8 gŵyl y banc) ar gyfer pob absenoldeb salwch parhaus sy'n fwy na 4 wythnos. 

Cyfeiriwch at daenlen y Gyfrifiannell Salwch Tymor Hir i gynorthwyo gyda'r cyfrifiad hwn.

Tab 1 – Salwch dros 1 flwyddyn wyliau, dylid defnyddio hwn pan fydd gweithiwr wedi cael mwy na 28 diwrnod o absenoldeb parhaus cyn ei ben-blwydd nesaf.

Tab 2 - Salwch dros 2 flynedd wyliau, dylid defnyddio hwn pan fydd gweithiwr wedi cael mwy na 28 diwrnod o absenoldeb parhaus a'i fod wedi dathlu pen-blwydd yn ystod ei absenoldeb salwch tymor hir.

 

Adnoddau Dynol