Y Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth - Awst 2026

1. Cyflwyniad

Mae ein hymddygiad a’n gwerthoedd craidd yn ategu ac yn arwain ein ffordd o weithio, ein ffordd o wella a'n ffordd o wneud penderfyniadau i gefnogi'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae'n ofynnol i ni (Cyngor Sir Caerfyrddin) a chi (ein gweithwyr) ystyried sut yr ydym yn cefnogi'r gwerthoedd hyn ac yn eu rhoi ar waith er mwyn iddynt ategu egwyddorion y Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Rydym yn gyfrifol am ddarparu ystod amrywiol o wasanaethau i'r gymuned. Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl yr ydym yn eu cyflogi gan ddefnyddio gwahanol safbwyntiau a phrofiadau pobl.

Trwy ddenu, recriwtio, a datblygu pobl amryddawn o'r amrywiaeth ehangaf posibl, gallwn feithrin gwell dealltwriaeth o anghenion ein cwsmeriaid yn awr ac yn y dyfodol a sicrhau ein llwyddiant.

Mae gennym ddyletswydd gofal tuag atoch, ein gweithwyr, ac ymagwedd dim goddefgarwch at fwlio, aflonyddu neu fictimeiddio o unrhyw fath. Ymchwilir i'r holl bryderon yn unol â'n polisïau a'n gweithdrefnau a chymerir camau priodol.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 a'r holl ddeddfwriaeth a chodau ymddygiad cysylltiedig yn sylfaen i egwyddorion ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. I gael rhagor o wybodaeth am ddiffiniadau'r Ddeddf Cydraddoldeb a'r mathau o wahaniaethu anghyfreithlon, gweler Atodiadau 1-3.