Y Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth - Awst 2026

4. Cydraddoldeb ac Amrywiaeth – Beth Mae Hyn yn ei Olygu i Ni?

Mae Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn dermau sy'n cael eu defnyddio'n gyffredin fodd bynnag, mae'n bwysig cael dealltwriaeth gyffredin o ystyr y termau hyn.

Yn gyffredinol yr egwyddor sy'n perthyn i gydraddoldeb yw 'trin pawb yr un peth' neu 'drin pawb fel yr hoffech chi gael eich trin', ond a yw hyn yn berthnasol pan fyddwch yn gweithio gyda phobl sy'n eithaf gwahanol i chi neu'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer? Mae ymateb i unigolion neu grwpiau yn ôl eu hanghenion yn ffordd fwy priodol o ymdrin â chydraddoldeb.

Er mwyn rhoi sylw teilwng i amrywiaeth mae'n rhaid cydnabod a rhoi pwys ar y gwahaniaethau rhwng unigolion a grwpiau i hybu eu cryfderau a'u doniau ac i ddeall eu hanghenion.

Yn ogystal mae'n bwysig cydnabod realiti aflonyddu, gwahaniaethu, ac erledigaeth y mae unigolion, grwpiau, a chymunedau yn eu hwynebu.

Mae cyfrifoldeb ar bawb i groesawu a chefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac i herio ymddygiad ac agweddau sy'n ein hatal rhag cyflawni hyn. Ein nod yw defnyddio arferion c yflogaeth teg a gwrthrychol i sicrhau bod ein holl weithwyr:

  • Yn cael eu trin yn deg a chyda pharch drwy gydol eu cyfnod cyflogaeth, gan gynnwys y broses recriwtio;

  • Yn rhydd rhag aflonyddu, gwahaniaethu, neu erledigaeth o unrhyw fath ac yn meddu ar yr hawl i herio ymddygiad amhriodol mewn amgylchedd diogel;

  • Yn cael cyfle cyfartal i gyfrannu at eu potensial ac i gyflawni'r potensial hwnnw gan gynnwys mynediad teg i gyfleoedd hyrwyddo a datblygu;

  • Yn cael cymorth o ran cydbwyso ymrwymiadau gwaith a chartref a bod eu ceisiadau am weithio oriau hyblyg yn cael eu hystyried yn wrthrychol yn unol â'r anghenion o ran darparu gwasanaethau.

  • Yn deall eu cyfrifoldebau o ran cyflawni amcanion y polisi hwn ac yn trin eraill yn deg a chyda pharch.

Dyma ystod o'n polisïau a'n gweithdrefnau sy'n cefnogi egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth ac sy'n bwysig wrth hyrwyddo bwriad y polisi hwn (Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol):