Y Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth - Awst 2026
Yn yr adran hon
8. Gorfodi'r Polisi
Fel arfer ymdrinnir ag achosion o fân dorri rheolau'r polisi drwy addysgu a chwnsela.
Ymchwilir i bryderon difrifol yn unol â'r polisïau a'r gweithdrefnau priodol fel a ganlyn:
8.1 Pan fo Gweithwyr yn mynd yn groes i'r Polisi
Caiff mater o'r fath ei drin fel mater disgyblu a hynny'n unol â hyn a nodir yng Ngweithdrefn Ddisgyblu'r Cyngor.
8.2 Pan fo Aelod Etholedig yn mynd yn groes i'r Polisi
Caiff mater o'r fath ei drin fel pe bai wedi mynd yn groes i'r Côd Ymddygiad, a'r Pwyllgor Safonau fydd yn ymdrin ag ef.
8.3 Pan fo defnyddwyr gwasanaeth a'r cyhoedd yn mynd yn groes i'r Polisi
Mae gennym bolisi 'dim goddefgarwch o gwbl' o ran trais, ymddygiad ymosodol, aflonyddu, bwlio, neu ddiffyg urddas a pharch tuag at ein staff. Mae dyletswydd ar y Cyngor i sicrhau ei fod yn lleihau, cyhyd ag sy'n ymarferol bosibl, y risg o ymddygiad annerbyniol tuag at ein staff wrth iddynt gyflawni eu gwaith.
Mewn amgylchiadau lle mae diogelwch a/neu urddas y staff dan fygythiad, mae gan y Cyngor yr hawl i gyfyngu ar fynediad i wasanaethau neu dynnu gwasanaethu'n ôl fel y bo'n briodol.
8.4 Pan fo Contractwyr yn mynd yn groes i'r Polisi
Os bydd Contractwr sy'n darparu gwasanaeth ar y cyd â ni neu ar ein rhan, yn mynd yn groes i'r Polisi mewn unrhyw fodd, ymdrinnir â'r mater yn unol ag amodau'r Contract hwnnw.
