Y Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth - Awst 2026
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Polisi
- 3. Cwmpas
- 4. Cydraddoldeb ac Amrywiaeth – Beth Mae Hyn yn ei Olygu i Ni?
- 5. Anelu at Amrywiaeth ar Bob Lefel yn ein Gweithlu
- 6. Cyfrifoldeb ac Atebolrwydd
5. Anelu at Amrywiaeth ar Bob Lefel yn ein Gweithlu
Mae'r llinynnau amrywiaeth canlynol yn cynrychioli'r nodweddion gwarchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010, yn ogystal â'r iaith Gymraeg. Maent yn amlinellu cyfrifoldebau pawb a'r ymddygiad a ddisgwylir ganddynt yn ein sefydliad, er mwyn sicrhau bod ymagwedd gadarnhaol at gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gweithle:
5.1 Oedran
Mae amrywiaeth oedran yn cael ei hybu a'i gydnabod ar bob lefel drwy:
Herio stereoteipio oedran;
Cydnabod manteision cael gweithlu cymysg o ran oedran;
Herio gwahaniaethau tuag at staff hŷn ac iau;
Cydnabod bod gan staff hŷn ac iau brofiadau ac anghenion datblygu gwahanol;
Cydnabod y gallai fod angen i weithwyr o bob oedran weithio oriau mwy hyblyg.
5.2 Anabledd
Rhoddir pwys ar alluoedd ein gweithwyr ag anabledd a chânt eu cydnabod a'u gwerthfawrogi ar bob lefel drwy’r canlynol:
Canolbwyntio ar yr hyn y gall unigolion ei wneud yn hytrach na'r hyn na allant ei wneud;
Herio stereoteipiau am bobl ag anableddau;
Deall yr angen am wneud addasiadau rhesymol yn y gweithle er mwyn galluogi unigolion i gyrraedd potensial llawn eu gyrfa;
Herio gwahaniaethu;
Cydnabod nad yw pob anabledd yn weladwy;
Cydnabod efallai fod angen i rai unigolion weithio oriau mwy hyblyg oherwydd namau penodol.
5.3 Ailbennu Rhywedd, Hunaniaeth o Ran Rhywedd a Mynegiant Rhywedd.
Ailbennu rhywedd yw'r broses o drosglwyddo o un rhyw i'r llall. Mae hunaniaeth o ran rhywedd yn ffordd o ddisgrifio sut y mae person yn ymwneud â'i ryw.
Gall hunaniaeth o ran Rhywedd gyfateb i'r rhyw a bennwyd ar enedigaeth neu gall fod yn wahanol iddo.
Mynegiant rhywedd yw ymddygiad, ystumiau, diddordebau ac ymddangosiad person sy'n gysylltiedig â rhywedd mewn cyd-destun diwylliannol penodol, yn benodol yn ymwneud â chategorïau o fenyweidd-dra neu wrywdod. Mae hyn hefyd yn cynnwys rolau rhywedd.
Bydd gweithwyr trawsryweddol yn cael cefnogaeth drwy:
Sicrhau eu bod yn cael eu diogelu rhag pob math o aflonyddu, gwahaniaethu, neu erledigaeth;
Herio stereoteipiau ynghylch pobl trawsryweddol a hunaniaeth o ran rhywedd;
Cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod unigolion yn cael eu trin ag urddas a pharch;
Parchu a diogelu preifatrwydd yr unigolyn;
Hybu cysylltiadau gwaith cadarnhaol a dealltwriaeth yn y gweithle;
Cydnabod a chefnogi'r sawl sy'n destun camdriniaeth a thrais y tu hwnt i'r gweithle.
5.4 Priodas a Phartneriaeth Sifil
Caiff pobl eu trin yn deg yn y gweithle heb ystyried eu statws priodasol na'u statws partneriaeth sifil drwy'r canlynol:
Trin unigolion mewn partneriaethau sifil yr un peth â pharau priod (gan gynnwys; partneriaid o'r un rhyw) o ran ystod helaeth o faterion cyfreithiol;
Parchu a diogelu preifatrwydd unigolion;
Hybu cysylltiadau gwaith cadarnhaol a dealltwriaeth yn y gweithle;
Cydnabod a chefnogi'r sawl sy'n destun camdriniaeth a thrais y tu hwnt i'r gweithle.
5.5 Beichiogrwydd a Mamolaeth
Caiff y rhiant biolegol ei gefnogi yn ystod cyfnodau beichiogrwydd a mamolaeth drwy'r canlynol:
Cydnabod yr angen am gydbwysedd rhwng bywyd yn y gwaith a bywyd gartref
Helpu unigolion a chymryd camau i gynnal cyfathrebu yn ystod absenoldeb mamolaeth a hybu'r defnydd o ddiwrnodau 'Cadw mewn Cysylltiad'
Hwyluso dychweliad cadarnhaol i'r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb mabwysiadu
Helpu rhieni biolegol sydd am ddal ati i fwydo ar y fron ar ôl iddynt ddychwelyd i'r gwaith.
5.6 Hil (yn cynnwys lliw, cenedl, ethnigrwydd neu darddiad cenedlaethol)
Caiff amrywiaeth diwylliannol a hiliol eu hategu ar bobl lefel drwy:
Herio stereoteipiau hiliol;
Deall, parchu, a chydnabod gwahanol gefndiroedd a safbwyntiau o ran hil a diwylliant;
Herio gwahaniaethu yn erbyn grwpiau duon a grwpiau o leiafrifoedd ethnig gan gynnwys gweithwyr mudol a chymunedau teithiol;
Cydnabod bod gwahaniaethu hiliol yn gallu digwydd ar sail lliw, cenedl, neu ethnigrwydd neu darddiad cenedlaethol;
Cydnabod a chefnogi'r sawl sy'n destun camdriniaeth a thrais y tu hwnt i'r gweithle;
Hybu cysylltiadau cadarnhaol yn y gweithle.
5.7 Crefydd a Chred
Caiff pobl eu trin yn deg yn y gweithle ar bob lefel heb ystyried eu crefydd na'u cred drwy'r canlynol:
Herio gwahaniaethu yn erbyn grwpiau crefyddol, grwpiau ffydd, neu grwpiau diwylliannol eraill;
Cydnabod rhyddid unigolyn o ran cred neu ddiffyg cred;
Helpu gweithwyr i gael cydbwysedd yn eu bywyd yn y gwaith er mwyn galluogi unigolion i arddel eu harferion crefyddol neu ddiwylliannol;
Cydnabod a chefnogi'r sawl sy'n destun camdriniaeth a thrais y tu hwnt i'r gweithle;
Hybu cysylltiadau cadarnhaol yn y gweithle.
5.8 Rhyw
Caiff pobl eu trin yn deg a'u gwobrwyo am eu cyfraniadau ar bob lefel drwy'r canlynol:
Herio stereoteipiau rhyw a phob math o wahaniaethu, rhywiaeth, ac aflonyddu;
Helpu gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu bywyd yn y gwaith a'u bywyd gartref;
Hybu cysylltiadau cadarnhaol yn y gweithle;
Cydnabod a chefnogi'r sawl sy'n destun camdriniaeth a thrais y tu hwnt i'r gweithle.
5.9 Cyfeiriadedd Rhywiol
Caiff pobl eu trin yn deg yn y gweithle ar bob lefel heb ystyried eu tueddfryd rhywiol drwy'r canlynol:
Herio gwahaniaethu yn erbyn lesbiaid, hoywon, a phobl ddeurywiol;
Cydnabod bod lefel y gwahaniaethu yn anodd ei gloriannu gan fod ar bobl ofn 'dod allan' neu fod yn agored ynghylch eu tueddfryd rhywiol;
Parchu mai penderfyniad yr unigolyn yw bod yn agored neu beidio ynghylch tueddfryd rhywiol;
Herio stereoteipiau negyddol;
Cydnabod a chefnogi'r sawl sy'n destun camdriniaeth a thrais y tu hwnt i'r gweithle;
Hybu perthnasoedd gwaith cadarnhaol yn y gweithle.
5.10 Yr Iaith Gymraeg
Cydnabyddir dwyieithrwydd yn y gweithle ac ategir hynny ar bob lefel, yn unol â'r ymrwymiadau yn y Cynllun Iaith Gymraeg a'r Strategaeth Sgiliau Iaith drwy'r canlynol:
Annog y defnydd o ddwyieithrwydd a hyrwyddo'r defnydd ohono yn y gweithle;
Helpu gweithwyr i allu cyflawni eu dyletswyddau yn Gymraeg neu'n Saesneg, yn unol â'u dewis personol lle bo'n bosibl;
Hybu'r defnydd cynyddol o'r iaith Gymraeg yn y gweithle a dealltwriaeth o'r dreftadaeth ddiwylliannol;
Cynyddu hyder a gallu'r holl staff o ran eu sgiliau dwyieithog;
Annog a chynorthwyo dysgwyr Cymraeg yn y gweithle.
