Y Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth - Awst 2026

6. Cyfrifoldeb ac Atebolrwydd

6.1 Y Bwrdd Gweithredol / Prif Weithredwr

Yn gyfrifol ac yn atebol yn y pen draw am sicrhau ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau o ran y gyfraith ac o ran polisïau mewn perthynas â Chydraddoldeb ac Amrywiaeth. Yn benodol byddant yn:

Dangos arweiniad clir gydag ymrwymiad ac atebolrwydd ar lefel uwch o ran prawf-rediad amrywiaeth a chydraddoldeb ym mhob elfen o'r awdurdod a'r gwasanaethau a ddarperir;

  • Sicrhau y cydymffurfir â Deddf Cydraddoldeb 2010 a'r holl godau ymarfer a deddfwriaeth cyflogaeth cysylltiedig;

  • Sicrhau bod amcanion cydraddoldeb strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol yn cael cyflwyno yn gamau penodol o fewn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol;

  • Ymddwyn ag urddas, dangos parch i eraill, a datblygu gweithle sy'n gynhwysol ac yn hyderus, a heb unrhyw fwlio, aflonyddu na gwahaniaethu;

  • Sicrhau bod ein sefydliad yn lle da i weithio sy'n denu, yn datblygu, ac yn cadw'r bobl fwyaf dawnus o amrywiaeth eang o gefndiroedd;

  • Sicrhau bod gennych y sgiliau a'r ddarpariaeth sydd eu hangen arnoch i gefnogi ein perfformiad drwy ddeall ac ymateb i anghenion ein cwsmeriaid.

6.2 Y Cyfarwyddwyr

Mae'r holl Gyfarwyddwyr yn gyfrifol am y canlynol:

Cydgysylltu ymagwedd strategol a chorfforaethol at reoli materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth;

  • Sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu prif-ffrydio yn y modd y cynllunnir ac y darperir y gwasanaethau y maent yn gyfrifol amdanynt;

  • Sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn rhan annatod o bob agwedd ar gylch cyflogaeth y staff;

  • Sicrhau bod asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb yn cael eu cynnal ar gyfer y meysydd gwasanaeth a'r polisïau y maent yn gyfrifol amdanynt yn unol â chanllawiau corfforaethol;

  • Rhoi ar waith ein Hamcanion a'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn eu hadrannau a bod yn atebol am eu cydymffurfiaeth weithredol;

  • Cefnogi ein staff i ddatblygu gweithgareddau i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth a'r ddealltwriaeth er mwyn darparu gwasanaethau y gall pawb o fewn cymuned amrywiol elwa arnynt.

6.3 Y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi)

Y swyddog arweiniol ar gyfer Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y gweithle ac yn gyfrifol am sicrhau bod polisi, cyfarwyddyd a chyngor yn cael eu datblygu er mwyn cefnogi cydymffurfiaeth yr Awdurdod fel cyflogwr a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y fframwaith cyfreithiol a pholisi.

6.4 Penaethiaid Gwasanaeth

Yn gyfrifol am y canlynol:

  • Ymagwedd strategol a chorfforaethol at reoli cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y maes gwasanaeth y maent yn gyfrifol amdano fel rhan annatod o'r broses cynllunio busnes;

  • Hyrwyddo, gweithredu, a chyfleu'r polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y maes gwasanaeth ac arwain drwy esiampl;

  • Cynnwys egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn proffiliau swyddi ac amcanion gwaith;

  • Sicrhau bod y bobl sy'n gyfrifol am recriwtio a dewis, ymsefydlu, dysgu a datblygu, arfarnu perfformiad, cyflogau, dyrchafiad, camau disgyblu, dewis gweithwyr ar gyfer ymddeol a diswyddo, dileu swyddi ac arferion o ran gweithio a chyfathrebu yn y sefydliad yn deall eu rôl a'u cyfrifoldeb mewn perthynas â hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth ac osgoi unrhyw fath o wahaniaethu;

  • Sicrhau bod yr adnoddau a'r trefniadau mewnol angenrheidiol ar waith er mwyn i'n sefydliad gyflawni ei rwymedigaethau statudol a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Mae Penaethiaid Gwasanaeth yn atebol i Gyfarwyddwyr eu hadrannau am berfformiad eu Tîm Rheoli Adrannol o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy'r broses rheoli perfformiad. Bydd y wybodaeth a gesglir yn sgil y broses hon yn darparu tystiolaeth allweddol o ran ein gwaith monitro perfformiad a bydd ei hangen ar gyfer archwiliadau eraill (mewnol ac allanol) ac ar gyfer cyflwyno gwybodaeth i bwyllgorau craffu ac i'r Cabinet.

6.5 Rheolwyr a Goruchwylwyr

Mae'r rheolwyr a'r goruchwylwyr i gyd yn gyfrifol am sicrhau eu bod nhw a'u staff yn cyflawni eu holl ddyletswyddau yn unol â'r polisi hwn a pholisïau a chyfarwyddyd cysylltiedig drwy:

  • Arwain drwy esiampl a gwella galluoedd arweiniol o ran hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu rheolaeth perthnasol;

  • Sicrhau bod y polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael ei gyfleu i'r tîm a bod unigolion yn deall eu cyfrifoldebau personol;

  • Herio ymddygiad amhriodol yn y gweithle a hybu cysylltiadau cadarnhaol rhwng y gweithwyr;

  • Clustnodi anghenion y staff o ran hyfforddiant a datblygu mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth fel rhan o'r broses arfarnu sef 'Helpu Pobl i Berfformio'.

6.6 Gweithwyr

Rydych chi, ein gweithwyr, ar bob lefel yn bersonol gyfrifol am sicrhau eich bod bob amser yn cefnogi mewn modd cadarnhaol egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth, yn cydweithredu drwy hybu cysylltiadau cadarnhaol a herio ymddygiad amhriodol drwy ddilyn y gwerthoedd a nodir yn y polisi hwn, y Côd Ymddygiad i Weithwyr a pholisïau a chanllawiau cysylltiedig eraill. Os oes gennych unrhyw bryderon, dylid codi'r rhain â'ch rheolwr yn y lle cyntaf cyn gynted â phosibl. Dylech hefyd ystyried eich anghenion datblygu eich hun o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth fel rhan o'r broses arfarnu.

6.7 Y Cynghorwyr

Mae gan y Cynghorwyr gyfrifoldeb personol tuag atoch chi a'r cyhoedd o ran cynnal y gwerthoedd a bennir yn y polisi hwn, hybu perthnasoedd da, a herio ymddygiad amhriodol lle bo angen. Mae'r Cynghorwyr yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn cefnogi'n gadarnhaol egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth gyflawni eu dyletswyddau cyhoeddus a'u bod yn dilyn y Côd Ymddygiad i Gynghorwyr a pholisïau a gweithdrefnau cysylltiedig. Dylai'r Cynghorwyr ystyried eu hanghenion datblygu eu hunain a byddant yn cael cymorth drwy gyfrwng y Pwyllgor Safonau a thrwy Raglen Datblygu'r Cynghorwyr.

6.8 Aelodau o'r Cyhoedd

Gall aelodau'r cyhoedd ddisgwyl cael eu trin ag urddas a pharch yn unol â'r polisi hwn a'r Côd Ymddygiad i Staff a Chynghorwyr.

Hefyd mae cyfrifoldeb ar y cyhoedd i sicrhau eich bod yn cael eich trin ag urddas a pharch.

6.9 Partneriaid a Chontractwyr

Rydym yn gweithio ar y cyd ag ystod o bartneriaid a chontractwyr a bydd y ddyletswydd gyhoeddus i ddileu gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn berthnasol iddynt pan fyddant yn darparu gwasanaeth ar y cyd â ninnau neu ar ein rhan Mae cyfrifoldeb ar bartneriaid a chontractwyr i gynnal y gwerthoedd a nodir yn y polisi hwn fel rhan o'r contract ar gyfer y gwasanaeth.