Y Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth - Awst 2026

7. Pryderon a Chwynion

Os ydych yn bryderus ynghylch diffyg cydymffurfio â'r polisi hwn, fe'ch cynghorir i siarad â'ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf cyn gynted â phosibl. Os yw'r pryder yn ymwneud â'ch rheolwr, yna gallwch siarad ag uwch-reolwr neu ofyn am gyngor gan Bartner Busnes Adnoddau Dynol neu gynrychiolydd yr Undeb Llafur.

Yn dibynnu ar y math o bryder, os na ellir ei datrys y mater yn anffurfiol fe'ch anogir i fynegi eich pryder drwy gyfrwng y canllawiau Safonau Ymddygiad neu'r Polisi Achwyniadau, fel y bo'n briodol.

Yn ogystal, gellir trafod pryderon ynghylch bwlio, aflonyddu, neu erledigaeth yn gyfrinachol â Swyddog Ymgynghorol – Iechyd Galwedigaethol.

Dylai Cynghorwyr fynegi unrhyw bryderon i'r Uned Gwasanaethau Democrataidd yn y lle cyntaf.

Dylai'r cyhoedd, partneriaid, a chontractwyr godi unrhyw bryderon drwy gyfrwng Polisi Canmoliaeth a Chwynion yr Awdurdod.