Dileu swydd(i)

Diweddarwyd y dudalen: 19/01/2024

Rydym yn ymrwymedig hyd y bo’n bosibl i ddarparu amgylchedd gwaith sefydlog a sicr ar eich cyfer.  Fodd bynnag, gall fod adegau pan fo ein rolau, gwaith, technoleg newydd a newidiadau sefydliadol yn golygu bod angen dileu swyddi. 

Rydych yn colli eich swydd os ydych yn cael eich diswyddo am y rhesymau canlynol:

  • Am ein bod yn dirwyn y busnes neu’r gwasanaeth yr oeddech yn cael eich cyflogi ar ei gyfer neu’r lle yr oeddech yn cael eich cyflogi i ben neu’n bwriadu gwneud hynny; neu
  • Am fod yr angen ichi wneud gwaith penodol i’r busnes neu’r gwasanaeth neu’r lle yr oeddech yn cael eich cyflogi wedi dod i ben neu wedi lleihau neu wedi cau neu fod disgwyl iddo ddod i ben neu leihau neu gau.

Nid yw’n berthnasol mewn achosion lle adnabuwyd sefyllfa Trosglwyddo Ymgymeriadau a Diogelu Cyflogaeth (TUPE).

Byddwn yn ymgynghori â’n Hundebau Llafur cydnabyddedig yn ystod pob cam o’r weithdrefn hon.  Os oes 20 neu fwy o weithwyr yn wynebu dileu eu swyddi o fewn cyfnod o 90 diwrnod mewn un sefydliad yna byddwn yn ymgynghori ar y cyd.

Os ydych yn absennol o’r gwaith am ba bynnag reswm ond yn enwedig pan ydych ar absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu neu absenoldeb mam fenthyg, absenoldeb rhiant a rennir neu oherwydd salwch hirdymor bydd eich rheolwr yn eich hysbysu’n gyson yn ystod pob cam o’r weithdrefn hon a byddwch yn cael yr un wybodaeth a chyfleoedd â chyflogeion eraill yr effeithir arnynt.

Os oes gennych anabledd bydd eich rheolwr yn ystyried eich anghenion yn ystod y broses ac yn gwneud addasiadau rhesymol fel y bo angen. 

Mae gennych yr hawl i gael rhywun yn bresennol gyda chi yn ystod pob cam ffurfiol o'r weithdrefn hon. Gall cydymaith fod yn gynrychiolydd neu swyddog undeb llafur, neu’n gydweithiwr.

Penaethiaid Gwasanaeth a Rheolwyr Llinell

Mae eich Pennaeth Gwasanaeth a’ch rheolwr yn gyfrifol am lunio’r achos busnes, gweithredu cynllun ymgynghori cytunedig a siarad gyda chi ac aelodau eraill o staff yr effeithir arnynt. Gwneir hyn er mwyn sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth gyson yn ystod pob cam a bod yr holl ddewisiadau yn lle dileu swyddi’n cael eu hystyried gan gynnwys adleoli i adrannau eraill o fewn yr Awdurdod. 

Cyfarwyddwyr

Mae eich Cyfarwyddwr neu ei gynrychiolydd yn gyfrifol am sicrhau bod achos busnes cadarn wedi cael ei gyflwyno a bod eich Pennaeth Gwasanaeth a’ch rheolwr yn cymhwyso’r polisi hwn yn deg ac yn gyfartal.  Bydd eich Cyfarwyddwr yn dechrau ymgynghori â’r Undebau Llafur ac yn sicrhau yr ymgynghorir â chi a'ch bod yn cael eich hysbysu ynghylch datblygiadau.  

Rheoli Pobl

Bydd Ymgynghorydd Adnoddau Dynol o’r Gyfarwyddiaeth Rheoli Pobl yn cynghori eich adran yn ystod pob cam dan y weithdrefn. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod y gofynion cyfreithiol yn cael eu dilyn ar gyfer ymgynghori, cyfnodau rhybudd a thaliadau dileu swydd a.y.b. Bydd yr Ymgynghorydd Adnoddau Dynol hefyd yn sicrhau bod llythyrau rhybudd yn cael eu hanfon a bod Adleoli neu opsiynau eraill yn cael eu harchwilio yn unol â’r Polisi a’r Weithdrefn Adleoli.  

Cyn gynted â’i bod yn amlwg bod y busnes neu’r gwasanaeth yn mynd i leihau neu ddod i ben ac y bydd hyn yn effeithio ar faint eich gweithlu dylid wastad ystyried dewisiadau eraill yn lle dileu swyddi. 

Gall hyn gynnwys:

  • Rhewi prosesau recriwtio
  • Cwtogi ar y defnydd o weithwyr asiantaeth/achlysurol
  • Lleihau’r arfer o weithio goramser
  • Gweithio’n rhan-amser neu opsiynau eraill o ran gweithio hyblyg
  • Cyfraddau ymadael naturiol

Dylid darllen y Polisi Ailstrwythuro ochr yn ochr â’r Polisi Dileu Swyddi lle gallai swyddi gael eu dileu o ganlyniad i newid sefydliadol a strwythurol arfaethedig yn eich Adran.

Lle y bo’n bosibl, byddwn yn gofyn i weithwyr wirfoddoli i ddileu eu swyddi. 

Os yw nifer y gwirfoddolwyr yn fwy na nifer y swyddi sy’n cael eu dileu neu os nad yw’r llwybr gwirfoddoli’n briodol, yna bydd meini prawf dethol ar gyfer dileu swyddi’n berthnasol. 

Bydd meini prawf dethol ar gyfer dileu swyddi’n cael eu datblygu trwy ymgynghori ag Undebau Llafur cydnabyddedig ac yn cael eu cytuno gan eich Cyfarwyddwr a Phrif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) neu eu cynrychiolwyr enwebedig.  Darllenwch ein Canllawiau Dethol ar gyfer Dileu Swyddi(.pdf).

Mae meini prawf dethol a ddefnyddir yn fynych yn cynnwys:

  • Sgiliau neu brofiad
  • Safon perfformiad yn y gwaith neu gymhwyster ar gyfer gwaith (gan gyfeirio at arfarniadau)
  • Presenoldeb (heb gynnwys absenoldebau sy’n gysylltiedig ag anabledd, beichiogrwydd neu famolaeth)
  • Hanes disgyblu

Os oes potensial ichi golli eich swydd, byddwch yn cael eich asesu gan ddefnyddio’r meini prawf dethol ar gyfer dileu swydd a byddwch yn cael eich hysbysu ynghylch y canlyniad cyn gynted â phosibl. Gallai hyn gynnwys cyfweliad ac asesiad yn seiliedig ar y meini prawf dethol y cytunwyd arnynt.

Gall fod amgylchiadau lle nad yw’n briodol defnyddio meini prawf dethol, e.e. lle effeithir ar un swydd. Yn yr achos hwn bydd eich rheolwr yn cael ei gynghori i ddechrau chwilio am gyflogaeth arall addas yn unol â’n Polisi AdleoliEdrychwch ar ein cyfleoedd adleoli presennol ar ein gwefan.

Mae'n ofynnol i ni gynnig Cyflogaeth Arall Addas i chi (lle mae ar gael) os bydd eich swydd yn cael ei dileu yn dilyn hysbysiad o feichiogrwydd, yn ystod neu ar ôl absenoldeb mamolaeth cyffredin a/neu ychwanegol, absenoldeb mabwysiadu cyffredin a/neu ychwanegol neu absenoldeb rhiant a rennir. Golyga hyn y bydd swydd wag addas yn cael ei chynnig i chi pan ddaw'r swydd honno'n wag a chyn i'r swydd gael ei chynnig i unrhyw gyflogai arall y mae ei swydd wedi'i dileu hefyd ond nad yw ei absenoldeb yn deillio o un o'r rhesymau hyn. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw'r swydd wag yn codi cyn i chi hysbysu'r Awdurdod o'r dyddiad yr ydych yn bwriadu dychwelyd ac yn ystod cyfnod fel y nodir yn y Polisi Dileu Swyddi, yn Atodiad 1 o ddychwelyd i'r gwaith.

Dylech gydweithio â’ch rheolwr i chwilio am swyddi gwag ac ystyried swyddi eraill.  Os byddwch yn gwrthod cynnig o Gyflogaeth Arall Addas yn afresymol gallwch golli eich hawl i dâl dileu swydd. Edrychwch ar ein cyfleoedd adleoli presennol ar ein gwefan.

Os yw’r Gyflogaeth Arall Addas yn wahanol iawn i’ch cyflogaeth bresennol, mae gennych yr hawl i gyfnod prawf o bedair wythnos neu fwy (hyd at uchafswm o 12 wythnos), os byddwn ni’n cytuno â hynny.  Mae’r cyfnod prawf yn dechrau pan fo’ch contract blaenorol yn dod i ben, h.y. ar ddiwedd cyfnod eich rhybudd cytundebol.  Mae hyn yn rhoi cyfle ichi benderfynu a yw’r swydd yn addas heb golli’r hawl i dâl dileu swydd.

Os yw’r cyfnod prawf yn llwyddiannus i chi ac i ni, byddwch yn cael eich cadarnhau yn y swydd newydd ac ni fydd gennych hawl i dâl dileu swydd mwyach. 

Os nad yw’r cyfnod prawf yn llwyddiannus, gall eich contract cyflogaeth ddod i ben a bydd gennych hawl i’ch tâl dileu swydd. 

Bydd derbyn y Gyflogaeth Arall Addas yn seiliedig ar y tâl ac amodau ar gyfer y swydd newydd. Nid oes trefniadau diogelu tâl ac amodau.

Os byddwch yn gwrthod cynnig o Gyflogaeth Arall Addas yn afresymol gallwch golli eich hawl i dâl dileu swydd.

Byddwch yn cael amser o’r gwaith â thâl yn ystod cyfnod eich rhybudd i chwilio am waith neu gyfleoedd ailhyfforddi.  Dylai ceisiadau am amser o'r gwaith gael eu cyflwyno i’ch rheolwr yn unol â'n Polisi Amser o'r Gwaith.

Dylai eich rheolwr gynnig opsiwn cwnsela Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ichi trwy’r Uned Iechyd Galwedigaethol

Os oes gennych ddwy flynedd neu fwy o wasanaeth parhaus ar y dyddiad y mae eich cyflogaeth yn dod i ben bydd gennych hawl i iawndal yn unol â chynlluniau tâl dileu swydd statudol a/neu bolisi yn ôl disgresiwn y Cyngor. Nid yw ein polisïau yn ôl disgresiwn yn awgrymu hawliau cytundebol a gallant newid unrhyw bryd.

Os ydych yn 55 oed a throsodd efallai y byddwch yn gallu cael mynediad at eich pensiwn ymddeol ar unwaith.  Cysylltwch â’ch Tîm Adnoddau Dynol i gael mwy o wybodaeth.

Darllenwch y Polisi Dileu Swyddi (.pdf)i gael manylion pellach ynghylch taliadau sydd heb eu gwneud gan gynnwys gwyliau, benthyciadau, cynlluniau ildio cyflog, dychwelyd ein heiddo ac ati.

Mae gennych hawl i apelio yn erbyn cael eich dethol ar gyfer dileu swydd a chael eich diswyddo, ar y seiliau canlynol:

  • Dethol yn annheg ar gyfer dileu swydd
  • Methu â dilyn y gweithdrefnau
  • Diswyddo ar sail dileu swyddi

Dylai pob apêl gael ei chyflwyno’n ysgrifenedig (lle y bo’n bosibl) i’r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl).  Dylid cyflwyno apeliadau o fewn 14 diwrnod calendr i ddyddiad y llythyr sy’n cadarnhau eich bod wedi cael eich dethol ar gyfer dileu eich swydd/cael eich diswyddo. Dylai’r llythyr gynnwys y rhesymau manwl dros yr apêl.

Bydd apeliadau’n cael eu cydnabod o fewn 14 diwrnod calendr.

Bydd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) yn trefnu Panel Apêl i ystyried yr apêl.  Bydd hwn yn cynnwys Cyfarwyddwr (neu Bennaeth Gwasanaeth enwebedig) ac Ymgynghorydd Adnoddau Dynol (Rheoli Pobl). Dylai’r Gwrandawiad Apêl gael ei gynnal cyn gynted â phosibl, ar amser ac mewn lle rhesymol a dylech gymryd pob cam rhesymol i fod yn bresennol.

Os oes arnoch angen cymorth i gyflwyno apêl, cysylltwch â’r Tîm Adnoddau Dynol neu eich Cynrychiolydd Undeb Llafur.

Mae’r Gwrandawiad Apêl a phenderfyniad y panel yn derfynol a dylech gael eich hysbysu ynghylch y penderfyniad o fewn 14 diwrnod calendr. Nid oes hawl bellach i apelio o fewn y Cyngor.

Mae’n rhaid i’r polisi hwn gael ei gymhwyso’n gyson i bob gweithiwr ni waeth beth fo’u hil, lliw, tarddiad ethnig neu genedligrwydd (gan gynnwys dinasyddiaeth), iaith, anabledd, crefydd, cred neu ddiffyg cred, oedran, rhyw, statws ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws o ran bod yn rhiant neu o ran priodas/partneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â chydraddoldeb ac amrywiaeth mewn perthynas â gweithredu’r polisi a’r drefn hon, cysylltwch ag aelod o’r Tîm Adnoddau Dynol a fydd, os oes angen, yn sicrhau bod y polisi/drefn yn cael eu hadolygu’n briodol.

Llwythwch mwy

Adnoddau Dynol