Cynllun Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol

Diweddarwyd y dudalen: 31/05/2023

Mae'r Cynllun Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol wedi'i gyflwyno fel budd i staff er mwyn cynyddu hyblygrwydd o ran cynllunio amser i ffwrdd. Mae'r cynllun hwn ar gael i'r holl staff (ac eithrio staff a gyflogir gan ysgolion a reolir yn lleol) sy'n eu galluogi i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol.

Gweithredir gwyliau ychwanegol drwy'r trefniant ildio cyflog. Mae staff yn cytuno i dderbyn llai o gyflog a bydd y Cyngor yn darparu hyd at 10 diwrnod o wyliau ychwanegol bob blwyddyn, yn amodol ar y gofynion gweithredol, sy'n gorfod parhau i fod yn flaenoriaeth. Telir am y gwyliau ychwanegol a brynir drwy ostyngiad mewn cyflog, sy'n cyfateb i'r cyflog ar gyfer nifer y diwrnodau o wyliau a gymerir.

 

Mae trefniant ildio cyflog yn amrywio eich telerau a'ch amodau cyflogaeth am gyfnod y cytundeb. Mae'n gwneud hynny drwy leihau eich tâl gros yn ôl gwerth y gwyliau ychwanegol a brynwyd ac yn ei dro, yn cynyddu eich hawl i wyliau. Unwaith y telir yn llawn am y gwyliau ychwanegol a brynwyd, bydd eich telerau ac amodau cyflogaeth yn newid yn ôl i'r telerau ac amodau cyn y trefniant ildio cyflog.

Gall, mae modd i unrhyw weithiwr (ac eithrio staff a gyflogir gan ysgolion a reolir yn lleol) brynu 74 awr/ 10 diwrnod ychwanegol (pro rata i weithwyr rhan-amser).

Cwblhewch y Ffurflen Cais am Brynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol a'i chyflwyno i'ch rheolwr llinell i'w hystyried.

Sylwer, drwy gwblhau a chyflwyno'r Ffurflen, os bydd yn cael ei chymeradwyo, bydd y ffurflen hon (ynghyd â gofyniad contractiol) hefyd yn golygu eich bod yn cytuno i unrhyw addasiad perthnasol i'r cyflog.

Gan fod yn rhaid ichi nodi'r union ddyddiadau yr hoffech eu prynu, byddwn yn defnyddio'r cyflog y dylech ei gael ar y dyddiadau hynny i bennu cost eich gwyliau.

Byddwn yn defnyddio eich cyfradd cyflog fesul awr ac yn lluosi hyn â nifer yr oriau yr ydych am eu prynu. Bydd cyfanswm y gost yn cael ei ddidynnu bob mis o'ch cyflog dros weddill eich blwyddyn wyliau blynyddol.

Cyfrifiadau enghreifftiol

Mae'r cynllun ar agor drwy'r amser felly gellir cyflwyno ceisiadau ar unrhyw adeg o ddechrau eich blwyddyn wyliau, er mwyn i'ch rheolwr llinell ystyried eich cais. Os caiff y cais ei gymeradwyo, gwneir didyniadau o'r misoedd sydd ar ôl yn eich blwyddyn wyliau. Mae'n rhaid talu am yr holl wyliau ychwanegol a brynwyd o fewn yr un cyfnod o wyliau blynyddol ag y cawsant eu prynu. Po gynharaf y byddwch yn gwneud cais, y mwyaf o amser y bydd gennych i dalu'r swm yn ôl, oherwydd bydd y didyniadau yn cael eu talu dros fwy o fisoedd.

Er enghraifft: Os cymeradwyir cais am 5 diwrnod o wyliau ychwanegol ar 1 Gorffennaf a bod pen-blwydd y gweithwyr ar 31 Rhagfyr, bydd y 5 diwrnod yn cael eu didynnu dros gyfnod o chwe mis.

Bydd gwyliau blynyddol ychwanegol yn cael eu cymeradwyo yn ôl disgresiwn y Rheolwr Llinell perthnasol a bydd yn amodol ar anghenion gweithredol y gwasanaeth. Bydd eich rheolwr llinell yn asesu ymarferoldeb gweithredol caniatáu'r cais. Bydd hyn yn cynnwys asesiad llawn o b'un ai bod modd cymryd y gwyliau blynyddol ychwanegol o fewn blwyddyn wyliau blynyddol y gweithiwr, gan ystyried anghenion gweithredol yr adran.

Nid oes hawl awtomatig i gael gwyliau blynyddol ychwanegol, ond bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei haeddiant.

Mae hwn yn gynllun dewisol, fodd bynnag, gall gweithiwr ofyn am adolygiad o'r penderfyniad drwy ysgrifennu at y Prif Weithredwr Cynorthwyol, Rheoli Pobl. Bydd angen i'r gweithiwr nodi'n glir ei reswm dros ofyn am adolygiad o'r penderfyniad.

Ar ôl ffurfio cytundeb, bydd yn ddilys ar gyfer y flwyddyn wyliau berthnasol. Ar ôl prynu’r gwyliau, ni ellir eu "gwerthu" yn ôl i'r Cyngor.

Na allwch, gallwch ond wneud cais am ddyddiadau yn y dyfodol.

Nac oes, gallwch wneud cais am rwng 1 diwrnod a 10 diwrnod o wyliau ychwanegol yn y flwyddyn lawn o wyliau (hyd at 10 diwrnod ar gyfer staff amser llawn, pro rata ar gyfer staff rhan-amser, h.y. os ydych yn gweithio 4 diwrnod yr wythnos = hyd at 8 diwrnod). Fodd bynnag, dim ond fel diwrnodau llawn y gellir cymryd y gwyliau.

Byddwch yn talu Treth ac Yswiriant Gwladol ar y cyflog gostyngol. Drwy leihau eich cyflog, mae swm y dreth a'r Yswiriant Gwladol a delir hefyd yn gostwng. Ar ddiwedd y cyfnod gwyliau, ni fydd y cyflog yn cael ei leihau mwyach.

Drwy brynu gwyliau ychwanegol, byddwch yn derbyn cyflog is a byddwch yn talu cyfraniadau pensiwn llai. Gallwch wneud cais i brynu'r pensiwn a 'gollwyd' drwy ddewis talu Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol.

Bydd y Tîm Absenoldeb yn ysgrifennu atoch ar ôl i'ch cais gael ei gymeradwyo a bydd yn rhoi ffigur y cyflog pensiynadwy. Mae'r gost a'r cais i brynu pensiwn a gollwyd ar gael ar-lein drwy fynd i: www.lgpsmember.org

Os ydych yn dewis prynu'r pensiwn a gollwyd, mae'n rhaid gwneud hyn o fewn 30 diwrnod ar ôl dyddiad y derbyniwyd y llythyr gan y Tîm Absenoldeb sy'n nodi manylion y cyflog pensiynadwy a manylion y cynllun. Bydd y gost yn cael ei rhannu 1/3 gweithiwr a 2/3 cyflogwr.

Os bydd y cais i brynu pensiwn ychwanegol yn cael ei wneud ar ôl 30 diwrnod, byddwch yn ysgwyddo'r costau i gyd.

Bydd angen i chi nodi ar ba ddyddiadau yr ydych yn dymuno cymryd y gwyliau ychwanegol ac mae'n rhaid i chi gymryd y gwyliau yn ystod eich blwyddyn wyliau.

Nac ydy, mae'n rhaid gwneud cais ar wahân ar gyfer pob blwyddyn wyliau.

Os byddwch wedi prynu gwyliau blynyddol ychwanegol a heb eu cymryd erbyn diwedd y flwyddyn wyliau berthnasol, byddwch yn colli'r gwyliau ac ni fyddant yn cael eu had-dalu. Mae'n rhaid i reolwyr a gweithwyr sicrhau y gellir cymryd y gwyliau ychwanegol cyn bod y rheolwr yn cymeradwyo cais.

Bydd trefniadau arferol ar gyfer absenoldeb salwch sy'n digwydd yn ystod cyfnod o wyliau blynyddol yn berthnasol i'r gwyliau blynyddol a brynwyd.

Mae cyfanswm y cyflog yn cael ei leihau hyd at ddiwedd y cyfnod gwyliau yn ôl nifer y diwrnodau a gymerir. Caiff y cyflog misol ei addasu yn unol â hynny i rannu cost y gwyliau ychwanegol y cytunwyd arnynt, fel bod y gwyliau yn cael eu talu'n llawn erbyn diwedd cyfnod y flwyddyn wyliau.

Bydd y Tîm Absenoldeb yn rhoi'r union ffigurau ar gyfer y didyniad ar ôl i gais cael ei gymeradwyo, a bydd yn rhoi gwybod i'r gweithiwr cyn i'r didyniadau ddechrau.

Bydd y didyniad a gymerir o gyflog yr aelod o staff bob cyfnod tâl yn cael ei gymryd dros nifer y misoedd sy'n weddill o fewn y cyfnod gwyliau perthnasol a bydd yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn

Oriau contract dyddiol x cyfradd yr awr pan wneir y cais

Enghraifft:

Mae aelod o staff yn cyflwyno cais ar 1 Ebrill 2019 ac mae ei gais i brynu 5 diwrnod gwyliau ychwanegol yn llwyddiannus. Bydd yn cymryd y gwyliau ychwanegol ym mis Rhagfyr (02.12.19 i 06.12.19), ac mae ei ben-blwydd ym mis Chwefror (28). Oriau contract yr aelod o staff yw 7.4 y dydd, a'i gyfradd yr awr ar adeg cyflwyno'r cais yw £10.33. Cyfrifir didyniadau o gyflog yr aelod o staff fel a ganlyn:

7.4 awr x 10.33 diwrnod x 5 diwrnod = £382.21

Bydd taliadau yn cael eu didynnu dros 11 mis (misoedd sy'n weddill yn y flwyddyn wyliau), yn dechrau ym mis Ebrill 2019 a bydd y taliad olaf yn cael ei ddidynnu ym mis Chwefror 2020.

Didyniad misol = 382.21 ÷ 11 = £34.75 y mis

Sylwer: os ydych yn gwneud cais am y gwyliau ychwanegol ar ôl diwrnod rhedeg y gyflogres yn y mis hwnnw, ni ellir cymryd y didyniad a bydd hynny'n golygu y bydd y gost yn cael ei thalu dros y misoedd sy'n weddill o fewn cyfnod y flwyddyn wyliau.

Na, pan fydd gweithiwr yn gwneud cais i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol, bydd hyn yn arwain at ostyngiad yn y cyflog misol am weddill y flwyddyn wyliau.

Yn yr un modd â gwyliau blynyddol arferol, bydd ceisiadau gan weithwyr i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol ar sail pro-rata (h.y os ydych yn gweithio 3 diwrnod yr wythnos, gallwch brynu hyd at 6 diwrnod).

Os bydd cyflog gweithiwr yn newid yn ystod blwyddyn wyliau, ni fydd y swm prynu gwyliau blynyddol ychwanegol y cytunwyd arno yn newid. Bydd y cyfrifiad yn seiliedig ar eich cyflog ar adeg y cafodd eich cais i brynu'r gwyliau ychwanegol ei gytuno arno gan eich rheolwr.

Mae hyn er mwyn galluogi eich rheolwr i ystyried y cais am wyliau ac i gynllunio'r gwaith yn eich tîm yn unol â hyn.

Gall aelodau o staff wneud cais am absenoldeb heb dâl ar gyfer absenoldebau byr rybudd neu sefyllfaoedd annisgwyl ond mae'r cynllun gwyliau blynyddol ychwanegol wedi'i ddylunio i alluogi staff i gymryd amser o'r gwaith ar gyfer rheswm penodol, wedi'i gynllunio ar ddyddiad y cytunwyd arno'n flaenorol. Mae'r gost o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol yn cael ei thalu dros gyfnod o fisoedd ond mae absenoldeb heb dâl yn cael ei ddidynnu yn llawn yn y mis y mae'r gwyliau yn cael eu cymryd neu o'r cyflog nesaf sydd ar gael.

Na allwch. Byddwch yn gymwys i brynu gwyliau ychwanegol ar ôl dychwelyd i'r gwaith yn dilyn eich absenoldeb mamolaeth, yn amodol ar reolau arferol y cynllun.

Gan fod cymryd gwyliau ychwanegol yn golygu gostyngiad yn y cyflog, dylai staff fod yn ymwybodol, os yw eu cyflog yn is na'r Terfyn Enillion Is, effeithir ar eu hawl i fudd-daliadau'r wladwriaeth (megis pensiwn y wladwriaeth, tâl mamolaeth statudol, ac ati).

Dylai staff ystyried hyn cyn penderfynu cymryd gwyliau ychwanegol. Dylid codi unrhyw ymholiadau â'r Tîm Absenoldeb.

Mae gweithwyr sy'n gadael y Cyngor yn cael eu had-dalu am unrhyw wyliau blynyddol ychwanegol a brynwyd a bydd taliadau yn cael eu hadennill yn unol â gofyniad contractiol os yw'r gweithiwr wedi cymryd mwy na'r gwyliau blynyddol ychwanegol a brynwyd a'i hawl gontractiol i wyliau.

Gellir gweld y rheolau a'r gweithdrefnau, gan gynnwys y ffurflen gais, ar y tudalen prynu gwyliau blynyddol ychwanegol .

 

 

 

 

 

Llwythwch mwy

Adnoddau Dynol