Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol
Diweddarwyd y dudalen: 09/09/2026
Mae'r Cynllun Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol wedi'i gyflwyno fel mantais i staff er mwyn cynyddu'r hyblygrwydd o ran cynllunio amser i ffwrdd. Mae'r cynllun ar gael i'r rhan fwyaf o staff, ac eithrio staff a gyflogir gan ysgolion a reolir yn lleol.
Trefniant Ildio Cyflog
Caiff gwyliau ychwanegol eu trin fel trefniant ildio cyflog ac mae'n amrywio telerau ac amodau eich cyflogaeth am gyfnod y cytundeb. Rydych yn cytuno i leihau eich cyflog gros yn ôl gwerth y diwrnodau o wyliau blynyddol ychwanegol a brynwyd ac yn ei dro byddwn yn darparu hyd at 10 diwrnod ychwanegol o wyliau bob blwyddyn, yn amodol ar y gofynion gweithredol sy'n gorfod parhau i fod yn flaenoriaeth.
Unwaith y telir yn llawn am y gwyliau blynyddol ychwanegol a brynwyd, bydd telerau ac amodau eich cyflogaeth h.y. cyflog yn dychwelyd i'r telerau ac amodau cyn y trefniant ildio cyflog.
Cyn cyflwyno eich cais am brynu gwyliau blynyddol ychwanegol, mae angen ichi ddeall y canlynol:
- Mae'r penderfyniad i'ch galluogi chi i brynu gwyliau ychwanegol yn gwbl yn ôl ein disgresiwn.
- Bydd angen ichi nodi'r dyddiadau rydych yn dymuno eu prynu.
- Os cymeradwyir eich cais am brynu gwyliau ychwanegol, bydd eich cyflog yn cael ei leihau drwy gynllun ildio cyflog â didyniadau misol a fydd yn para tan ddiwedd eich blwyddyn wyliau.
- Drwy gymryd rhan yn y Cynllun hwn, gallai effeithio ar eich cymhwysedd i gael taliadau statudol a budd-daliadau e.e. Credyd Treth Gwaith, Credyd Plant, Tâl Statudol o ran Mamolaeth/Tadolaeth a Mabwysiadu.
- Mae'n rhaid i'r holl wyliau ychwanegol a brynwyd gael eu defnyddio erbyn diwedd eich blwyddyn wyliau flynyddol y gwnaed y cais ynddi.
- Mae'n rhaid talu am yr holl wyliau ychwanegol a brynwyd, boed yn un swm o 10 diwrnod neu'n symiau lluosog, o fewn yr un cyfnod o wyliau blynyddol ag y cawsant eu prynu.
- Ar ôl prynu’r gwyliau, ni ellir eu gwerthu yn ôl i ni.
- O ganlyniad i dderbyn cyflog is, byddwch yn talu cyfraniadau pensiwn llai ar gyfer cyfnod y didyniadau cyflog.
- Gallwch wneud cais i brynu'r pensiwn a gollwyd yn ôl drwy ddewis talu cyfraniadau pensiwn ychwanegol.
Mae’r cynllun hwn yn berthnasol i'r rhan fwyaf o'n gweithwyr, ac eithrio staff a gyflogir gan ysgolion a reolir yn lleol.
Bydd angen i chi sicrhau:
- Eich bod wedi cwblhau 12 mis o wasanaeth parhaus ar adeg gwneud y cais ac wedi cwblhau'r cyfnod prawf yn foddhaol;
- Bod gennych gontract cyflogaeth am gyfnod y cytundeb ildio cyflog; a
- Bod gennych gyflog gros sy'n uwch na throthwy y cyflog byw cenedlaethol, ar ôl ystyried yr holl daliadau ildio cyflog drwy gydol tymor y cytundeb ildio cyflog.
Os ydych yn dymuno prynu gwyliau ychwanegol, fe'ch anogir i drafod eich cais yn anffurfiol gyda'ch rheolwr llinell cyn gynted â phosibl fel bod modd asesu'r effaith ar y gwaith yn eich maes mewn pryd ar gyfer cyflwyno cais ffurfiol. Dylech hefyd ystyried goblygiadau ariannol y didyniadau misol o'ch cyflog.
Gellir gwneud ceisiadau am brynu gwyliau ychwanegol ar unrhyw adeg o ddechrau eich blwyddyn wyliau blynyddol. Bydd didyniadau o'ch cyflog yn cael eu rhannu dros weddill eich blwyddyn wyliau gan ddechrau o'r cyfnod cyflog cyntaf posibl ar ôl cael cymeradwyaeth.
Mae'n bwysig eich bod yn deall:
- Nid oes hawl awtomatig i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol.
- Dim ond diwrnodau llawn o wyliau y gellir eu cymryd.
- Bydd y swm yn cael ei ddidynnu o'ch cyflog drwy'r cynllun ildio cyflog.
- Os byddwch yn gadael eich swydd, byddwn ni'n adennill unrhyw arian sy'n ddyledus o'ch cyflog terfynol neu'ch taliadau cyflog.
- Nid yw gwyliau ychwanegol yn bensiynadwy, felly bydd aelodau'r CPLlL yn colli'r diwrnodau cyfatebol o wasanaeth pensiynadwy.
- Mae'n rhaid gwneud cais ar wahân ar gyfer pob blwyddyn wyliau.
Bydd eich Rheolwr llinell yn:
- Trin yr holl geisiadau yn gyfartal
- Asesu eich cais am brynu gwyliau blynyddol ychwanegol ac ystyried ymarferoldeb gweithredol caniatáu'r cais, gan gynnwys sicrhau y gellir cymryd y gwyliau ychwanegol o fewn eich blwyddyn wyliau.
- Sicrhau bod eich gwyliau'n cael eu rheoli'r briodol drwy gydol eich blwyddyn wyliau er mwyn sicrhau bod yr holl wyliau blynyddol ychwanegol yn cael eu cymryd cyn diwedd eich blwyddyn wyliau.
- Rhoi gwybod i chi am y canlyniad o fewn 14 diwrnod calendr
- Anfon y cais am wyliau ychwanegol ymlaen at y Tîm Absenoldeb i'w brosesu
Bydd y Tîm Absenoldeb yn:
- Cyfrifo'r gost a godir arnoch i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol yn seiliedig ar eich cyflog ar adeg y cytunir ar eich cais am wyliau ychwanegol gan eich Rheolwr Llinell.
- Rhoi gwybod i chi am gyfanswm cost prynu'r gwyliau blynyddol ychwanegol.
- Rhoi manylion ynghylch y didyniadau misol a fydd yn cael eu cymryd a rhoi gwybod i chi pa fis y bydd y didyniadau'n dechrau ac yn gorffen.
- Rhoi gwybod i chi am y broses o brynu'r pensiwn a gollwyd.
Ar ôl i'ch cais gael ei gymeradwyo, bydd eich hawl i wyliau blynyddol yn ymddangos ar My View
Bydd angen ichi wneud cais am y gwyliau ychwanegol drwy My View fel y broses arferol o wneud cais am wyliau blynyddol.
Os na fydd cais yn cael ei gymeradwyo, gallwch ofyn am adolygiad o'r penderfyniad.
Gellir gofyn am hyn drwy ysgrifennu at y Prif Weithredwr Cynorthwyol, Rheoli Pobl, Adeilad 4, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3HB gan nodi eich rhesymau dros ofyn am adolygiad.
Ar ôl i gais gael ei gymeradwyo, a'r taliad cyntaf wedi'i ddidynnu o'ch cyflog, mae'r cytundeb yn rhwymol ac ni ellir tynnu'n ôl ohono cyn bod y taliad terfynol yn cael ei ddidynnu.
O 1 Ebrill 2026, mae rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol newydd yn newid sut mae absenoldeb di-dâl awdurdodedig yn effeithio ar gyfraniadau pensiwn pan fo absenoldeb di-dâl yn llai na 15 diwrnod. Mae'r 15 diwrnod yn ddiwrnodau calendr.
Ni fydd angen i aelodau wneud cais mwyach i brynu pensiwn a gollwyd yn ôl yn ystod seibiant byr awdurdodedig heb dâl. Bydd cyfraniadau pensiwn yn cael eu didynnu'n awtomatig ar gyfer unrhyw wyliau di-dâl sy'n llai na 15 diwrnod.
Nid oes unrhyw addasiad ar gyfer diwrnodau gwaith nac mewn perthynas ag aelodau sy'n gweithio'n rhan-amser wrth gyfrifo a yw seibiant di-dâl yn llai na 15 diwrnod.
Nid yw'r newid hwn yn berthnasol i gyfnod lle mae'r aelod yn ddi-dâl oherwydd anghydfod diwydiannol (streic).
Gall gymryd rhan yn y cynllun ildio cyflog effeithio ar eich cymhwysedd i gael taliadau statudol a budd-daliadau e.e. gallai effeithio ar Gredyd Treth Gwaith, Credyd Plant, Tâl Statudol o ran Mamolaeth/Tadolaeth a Mabwysiadu.
Os ydych yn derbyn y budd-daliadau hyn ac yn ystyried prynu gwyliau blynyddol ychwanegol, cysylltwch â'ch darparwr budd-daliadau i ddeall sut y gallai'r cynllun effeithio arnoch.
Mae trefniant ildio cyflog effeithiol yn amrywio'r contract cyflogaeth. Ar ôl dod i gytundeb, defnyddir y cyflog is ar ôl y trefniant ildio wrth gyfrifo tâl hysbysiad, tâl dileu swydd, marwolaeth mewn swydd a chyfraniadau pensiwn.
Gall gymryd rhan yn y cynllun ildio cyflog effeithio ar eich cymhwysedd i gael taliadau statudol a budd-daliadau e.e. gallai effeithio ar Gredyd Treth Gwaith, Credyd Plant, Tâl Statudol o ran Mamolaeth/Tadolaeth a Mabwysiadu.
Os ydych yn derbyn y budd-daliadau hyn ac yn ystyried prynu gwyliau blynyddol ychwanegol, cysylltwch â'ch darparwr budd-daliadau i ddeall sut y gallai'r cynllun effeithio arnoch.
Adnoddau Dynol
Ymddygiad a Safonau
Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Cefnogi Dioddefwyr neu Oroeswyr
- Canllawiau I Reolwyi
- Canllawiau i Gydweithwyr
- Gofyn Cwestiynau Anodd
- Cyflawnwr
- Cymorth a Chefnogaeth
Cysylltiadau â gweithwyr
- Galluogrwydd
- Camau disgyblu
- Achwyniad
- Ymchwiliadau
- Anghydfodau torfol
- Atal dros dro
- Cytundeb Amser Cyfleusterau Undebau Llafur
- Canllawiau Polisi a Gweithdrefnau Disgyblu Prif Swyddogion
- Y Broses Achwyniadau o Ran Graddio Swyddi
- Rôl y Cydymaith yn ystod y Broses Ddisgyblu ac Achwyniadau
- Polisi Achwyniadau
- Y Polisi a’r Weithdrefn Anghydfodau Torfol
- Protocol Atal - Mehefin 2026
- Polisi a Gweithdrefn Galluogrwydd - Mehefin 2026
- Y Polisi Ymchwiliadau - Mehefin 2026
Cefnogaeth Gweithwyr
Cydroddoldeb ac Amrywiaeth
Gweithio Hyblyg a Rhannu Swydd
- Cwestiynau Cyffredin am gweithwyr
- Cwestiynau Cyffredin Oriau Hyblyg am rheolwyr
- Gweithio Hyblyg Polisi
- Polisi a Gweithdrefn Rhannu Swyddi - Awst 2026
Swyddi a gyrfaoedd
Absenoldeb
- Absenoldeb Mabwysiadu a Benthyg Croth
- Gwyliau blynyddol
- Seibiant Gyrfa
- Absenoldeb Tosturiol
- Oriau Hyblyg
- Absenoldeb Mamolaeth
- Absenoldeb Tadolaeth
- Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol
- Tâl ac Absenoldeb ar gyfer Rhieni â Baban Cynamserol/Baban yn yr Ysbyty
- Rhannu absenoldeb rhiant
- Amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion
- Absenoldeb heb dâl
- Polisi Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol - Ebrill 2025
- Amharu ar Drefniadau Gwaith
- Polisi Amser o’r Gwaith - Chwefror 2026
- Rhannu Absenoldeb Rhiant - Canllaw i'r Broses ar gyfer Penaethiaid
- Polisi Absenoldeb Tadolaeth - Ebrill 2026
- Absenoldeb Tadolaeth Partner mewn Profedigaeth
- Y Polisi Absenoldeb Rhiant
Gadael y Cyngor
Cyfeirlyfr
Cyflog a buddion
- Cynllun Talebau Gofal Plant
- Profion llygaid
- Cynlluniau gofal iechyd
- Cyflog
- Cynllun Pensiwn
- Salary Finance
- Polisi Teithio a Chynhaliaeth
Recriwtio gweithiwr asiantaeth
Recriwtio
- Canllawiau i Reolwyr ar Wiriadau a Hunanddateliadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
- Siart llif atgyfeiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
- Geirdậu Cyflogaeth - Canllawiau
ResourceLink / MyView
Ailstrwythuro
Absenoldeb Salwch
- Cofnodi Absenoldeb
- Cyfweliadau Dychwelyd i'r Gwaith
- Dychwelyd yn Raddol
- Cyfarfodydd Rheoli Absenoldeb Salwch
- Rheoli absenoldeb salwch
- Iechyd Galwedigaethol
- Atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol
- Tâl Salwch Galwedigaethol
- Cynhadledd Achos
- Addasiadau Rhesymol (Anabledd)
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Staff Nad Ydynt yn Athrawon
- Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Athrawon
- Absenoldeb Cysylltiedig
- Salwch a gwyliau blynyddol
- Rheoli holl heintiau anadlol gan gynnwys Covid
- Cwestiynau cyffredin am gweithwyr
- Polisi Absenoldeb Salwch
Gwirfoddoli
Datgelu Camarfer
Cynllunio'r Gweithlu a Chynllunio ar Gyfer Olyniaeth
- Cyflwyniad
- Cam 1 - Man Cychwyn
- Dadansoddi Rolau Critigol
- Beth Yw'r Galw a'r Cyflenwad?
- Dadansoddi Bylchau
- Cynllun Gweithredu
- Adrodd
- Atebion o ran y Gweithlu a Chynllunio Olyniaeth
Canllawiau Cysylltiadau Personol Agos a Pherthnasoedd
- 2. Cwmpas
- 3. Egwyddorion
- 4. Rolau a Chyfrifoldebau
- 5. Diffiniad o Gysylltiadau / Perthnasoedd Personol Agos
- 6. Diffinio Sefydliad neu Dîm Perthnasol neu Faes Gwaith
- 7. Recriwtio a Phenodi Gweithwyr
- 8. Gofyniad i Ddatgelu Cysylltiad Personol Agos
- 9. Perthynas Rhwng Ymgeisydd a Rheolwr neu Gydweithwyr yn y Tîm
- 10. Awdurdod i Benodi
- 11. Methu â Rheoli Materion yn Effeithiol
- 12. Perthynas yn Dirwyn i Ben
- 13. Materion o Ran Ymddygiad neu Berfformiad
- 14. Cysylltiadau Personol Agos Rhwng Gweithiwr a Phlentyn/Person Ifanc neu Oedolyn sy'n Agored i Niwed
- 15. Cydweithwyr sy'n Cael eu Heffeithio Gan Gysylltiad Personol Agos
- 16. Llunio Geirdaon
- 17. Rheoliadau Ariannol
- 18. Cysylltiadau â Chontractwyr neu Ddarpar Gontractwyr
- 19. Methu â Datgelu Cysylltiadau Personol Agos
- 20. Sicrhau Cyfle Cyfartal
- Atodiad 1 - Datganiadau Buddiannau Personol Swyddogion
- Atodiad 2 - Protocol Perthynas
Mwy ynghylch Adnoddau Dynol

