Tâl ac Absenoldeb ar gyfer Rhieni â Baban Cynamserol/Baban yn yr Ysbyty

Diweddarwyd y dudalen: 31/05/2023

Os caiff eich baban ei eni'n gynnar, mae'n bwysig eich bod chi neu'ch cynrychiolydd yn rhoi gwybod i'ch rheolwr am y sefyllfa. Mae hyn yn golygu y gallai ymdrin ag unrhyw brosesau gweinyddol ar eich rhan. Ar ôl hynny, yr unig beth i ganolbwyntio arno yw llesiant eich baban. Bydd eich rheolwr yn sicrhau bod yr Absenoldeb Mamolaeth neu Absenoldeb Cymorth Mamolaeth, a'r absenoldeb babanod cynamserol os yw'n berthnasol, yn cael ei roi ar waith.

Ystyrir bod baban sy'n cael ei eni cyn 37 wythnos y beichiogrwydd yn enedigaeth gynnar.

Babanod tymor llawn yw'r rheiny sy'n cael eu geni ar ôl 37 wythnos, felly os caiff eich baban ei eni yn ystod wythnos 38, ystyrir hon yn enedigaeth tymor llawn.

Os caiff eich baban ei eni'n gynnar ac nad ydych wedi dechrau ar eich absenoldeb mamolaeth, bydd eich absenoldeb mamolaeth yn dechrau ar y diwrnod ar ôl yr enedigaeth.

Bydd hawl gan eich partner i gael absenoldeb a thâl tadolaeth os bydd wedi'i gyflogi am 26 wythnos ers y 15fed wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth a'i fod wedi ennill o leiaf £123 bob wythnos ar gyfartaledd (Ebrill 2023 - Mawrth 2024) yn yr wyth wythnos cyn wythnos geni eich baban.

 

Gall tadau a phartneriaid (gan gynnwys partneriaid o'r un rhyw) ddechrau ar eu habsenoldeb tadolaeth ar ddiwrnod geni'r plentyn neu gymryd absenoldeb tadolaeth hyd at 56 diwrnod ar ôl yr enedigaeth. Os bydd eich baban yn cael ei eni'n gynnar, gellir cymryd absenoldeb tadolaeth hyd at 56 diwrnod o'r dyddiad disgwyliedig. Gall absenoldeb tadolaeth fod am un wythnos neu ddwy, ac mae'n rhaid iddo ddod i ben o fewn y cyfnod o 56 diwrnod.

Os yw eich partner eisoes wedi rhoi gwybod pryd bydd am ddechrau ar absenoldeb tadolaeth a bod eich baban yn cael ei eni'n gynnar, bydd yn rhaid i'ch partner gysylltu â ni cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl i roi gwybod i ni fod eich baban wedi'i eni. Gall eich partner newid dyddiad dechrau'r absenoldeb tadolaeth drwy roi gwybod cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl. Os nad yw eich partner wedi rhoi gwybod eto, a chaiff eich baban ei eni'n gynnar, bydd yn rhaid iddo/iddi gysylltu â ni cyn gynted â phosibl a rhoi gwybod pryd y bydd am gymryd absenoldeb tadolaeth.

Byddwn yn derbyn y ddau, mae neges e-bost yn ddigonol ynghyd â chopïau wedi'u sganio o'r dystiolaeth ategol angenrheidiol. Cyfeiriad post: Y Tîm Absenoldeb, Adeilad 4, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin, SA31 3HB.

Byddwch yn derbyn eich taliadau mamolaeth. Yn ogystal, byddech yn derbyn 3 wythnos o dâl am absenoldeb baban yn yr ysbyty a 3 wythnos ychwanegol o absenoldeb baban yn yr ysbyty ar ddiwedd y cyfnod mamolaeth (heb dâl).

Byddwch yn derbyn 4 wythnos o dâl baban cynamserol, tâl ac absenoldeb tadolaeth am hyd at 2 wythnos (dewisol) ac wedyn 4 wythnos o absenoldeb baban cynamserol yn dilyn yr absenoldeb tadolaeth (heb dâl).

O'r enedigaeth i ddiwedd y cyfnod yn yr ysbyty (hyd at y dyddiad tymor llawn - 40 wythnos).

Nid oes, yn anffodus, dim ond os caiff y baban ei dderbyn i'r ysbyty yn syth ar ôl cael ei eni y bydd tâl ac absenoldeb baban yn yr ysbyty ar gael.

Bydd hawl gennych i gael 1 wythnos o dâl ac absenoldeb am bob wythnos lle bydd eich baban yn yr ysbyty. Bydd y cyfrifiad yn seiliedig ar eich oriau contract ar y dyddiad pan dderbynnir y baban i'r ysbyty - hyd at 37 awr yr wythnos.

Enghraifft:
Cyflog misol/nifer y diwrnodau mewn mis x nifer y diwrnodau y mae angen tâl amdanynt. Cysylltwch â'r Tîm Absenoldeb os oes gennych ymholiad.

Llwythwch mwy

Adnoddau Dynol