Adnabod

Diweddarwyd y dudalen: 31/05/2023

Mae’n bosibl na fydd gweithwyr sy’n dioddef cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol yn dweud wrth bobl yn y gwaith am eu sefyllfa. Mae’n fwy tebygol y byddwch yn dod yn ymwybodol o’r sefyllfa o ganlyniad i faterion cysylltiedig fel absenoldebau neu berfformiad gwael. Mae'r canlynol yn arwyddion y gallai gweithiwr fod yn dioddef cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol. Gallant hefyd fod yn arwydd o bryderon eraill.

 

  • Bod yn hwyr i'r gwaith yn barhaus heb esboniad neu gydag esboniad anarferol, neu angen gadael y gwaith yn gynnar;
  • Absennol yn aml heb esboniad neu esboniad anarferol;
  • Newidiadau mewn ansawdd perfformiad gwaith am resymau anesboniadwy;
  • Treulio mwy o amser yn y gwaith heb reswm amlwg h.y., cyrraedd yn gynnar a gadael yn hwyr; cyrraedd yn gynnar a gadael yn hwyr;
  • Cynhyrfu yn y gwaith yn sgil derbyn e-byst, negeseuon testun, galwadau ffôn, post, negeseuon cyfryngau cymdeithasol neu unrhyw fath arall o gyfathrebu; 
  • Bod yn agored i straen yn y gwaith sy’n effeithio ar berfformiad/presenoldeb.
  • Gall lefain neu fod yn bryderus yn y gwaith.
  • Iselder annodweddiadol, pryder, pell eu meddwl, problemau canolbwyntio.
  • Newidiadau mewn ymddygiad; gall fod yn dawel ac encilio ac osgoi rhyngweithio â chydweithwyr;
  • Ofn partner/cyfeiriadau at ddicter
  • Mynegi ofn o adael plant gartref ar eu pennau eu hunain gyda phartner.
  • Anafiadau sy’n digwydd drosodd a throsodd megis cleisiau; rhoi rhesymau annhebygol dros anafiadau
  • Problemau meddygol/absenoldeb salwch aml a/neu sydyn/annisgwyl
  • Blinder
  • Newid yn y ffordd y mae gweithiwr yn gwisgo e.e., gwisgo gormod o ddillad yn yr haf
  • Ymddangosiad blêr neu anniben
  • Newid yn y patrwm neu faint o golur a wisgir
  • Derbyn galwadau ffôn cyson gan bartner/cyn bartner
  • Mae'r partner yn cyfarfod â'r gweithiwr y tu allan i'r gwaith yn rheolaidd
  • Mae gweithiwr yn ymddangos yn bryderus ynghylch gadael y safle
  • Mae gweithiwr yn ymddangos yn bryderus ynghylch gadael gwaith ar amser
  • Mae gweithiwr yn ymddangos yn amharod i adael eu gwaith ar eu pen eu hun
  • Mae gweithiwr yn methu â mynychu neu'n osgoi digwyddiadau gwaith, megis hyfforddiant, diwrnodau cwrdd i ffwrdd neu weithgareddau cymdeithasol.

Os bydd gweithiwr yn datgelu i chi eu bod yn dioddef cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol, mae’n bwysig iawn eich bod yn eu credu – peidiwch â gofyn am brawf. Dylech osgoi barnu ymddygiad y cyflawnwr neu ymateb y dioddefwr. Mae’n bwysig deall bod gadael perthynas gamdriniol neu ddelio â chanlyniadau trais rhywiol yn beth anodd iawn i’w wneud.

Mae angen i chi fabwysiadau agwedd sensitif ac anfeirniadol wrth gefnogi gweithwyr sy'n profi cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol. Mae'r adran mewn perthynas â Gofyn Cwestiynau Anoddyn yn rhoi enghreifftiau o gwestiynau anuniongyrchol ac uniongyrchol y gallwch eu gofyn i unigolyn i drafod y mater ymhellach.

Lle bo modd, dylech bob amser gefnogi dioddefwr ar eu telerau eu hun a'u cynghori i ddefnyddio gwasanaethau llesiant/cwnsela, polisïau amser o'r gwaith ac ati y Cyngor, y rhestr o asiantaethau allanol a restrir yn ein hadran Cymorth a Chefnogaeth a chynnwys yr Heddlu.  Os nad yw aelod o staff yn dymuno i chi eu cyfeirio ar gymorth, neu roi eu caniatâd i chi gysylltu ag asiantaethau eraill, dylech barchu eu dymuniadau.

 

 

 

Dylech fod yn ymwybodol o'r posibilrwydd o gam-drin domestig a thrais rhywiol wrth weithredu'r Polisi a gweithdrefnau Absenoldeb Salwch. Os ydych yn amau y gallai cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol fod yn gyfrifol am absenoldeb, ceisiwch greu amgylchedd cefnogol lle gall y gweithiwr ddatgelu’r gamdriniaeth os yw’n dymuno gwneud hynny.  Dylech ystyried a yw'n briodol rhoi rhybuddion absenoldeb salwch pan rydych yn gwybod mai cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol sydd wrth wraidd hyn a dylech ofyn i'r Ymgynghorydd Adnoddau Dynol am gyngor.

Yn yr un modd, wrth adolygu perfformiad drwy'r broses arfarnu a fabwysiadwyd gan y Cyngor a chyn cymhwyso'r Polisi Galluogrwydd a gweithdrefnau dylech ystyried y posibilrwydd y gallai cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol fod yn rheswm dros danberfformiad.

Dylid canolbwyntio ar gefnogi yn hytrach na chosbi neu roi pwysau ychwanegol ar y gweithwyr yr effeithir arnynt. Dylai rheolwyr fabwysiadu agwedd gydymdeimladol wrth ymdrin â gweithwyr sy’n cael trafferth canolbwyntio a rheoli amser ac yn cymryd absenoldeb heb ei gynllunio a allai ddeillio o’r ffaith eu bod yn cael eu cam-drin.

Gall beichiogrwydd fod yn sbardun i gam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol, ond mewn perthnasoedd lle mae hyn yn bodoli eisoes, gall y cam-drin a thrais waethygu. Pan fyddwch yn amau neu'n ymwybodol o gam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol, dylid cadw hyn mewn cof wrth lenwi'r asesiad risg beichiogrwydd ac ystyried mesurau diogelu priodol, gan ddefnyddio'r asesiad risg Mamau Newydd a Menywod Beichiog sydd ar gael ar y Tudalennau Iechyd a Diogelwch ar y fewnrwyd.

Dylech hefyd ystyried diwrnodau ‘Cadw mewn Cysylltiad’ yn ystod absenoldeb mamolaeth a chytuno ar fecanwaith diogel i gynnal cyfathrebu yn y gweithle yn ystod absenoldeb mamolaeth. Mae gwybodaeth am ddiwrnodau Cadw mewn Cysylltiad a'r Pecyn Mamolaeth ar gael ar y tudalennau Adnoddau Dynol ar y fewnrwyd.

 

Mae sawl peth y gallwch chi ei wneud i greu amgylchedd diogel i weithiwr ddatgelu cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol a theimlo bod cymorth ar gael iddynt os ydynt yn gwneud hynny. Bydd gweithwyr yn teimlo’n fwy parod i ddatgelu eu bod yn dioddef os ydynt yn gwybod eich bod yn deall ac yn empathig yn eich agwedd at faterion cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol.

Gall trafod y polisi hwn mewn cyfarfodydd tîm a gosod posteri a thaflenni yn eich man gwaith helpu i gyfleu hyn.

Fel rheolwr efallai y byddwch yn amau bod problem ond yn ofni gofyn. Dengys ymchwil fod dioddefwyr cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol yn dymuno y byddai rhywun wedi gofyn iddynt amdano. Os ydych yn amau bod gweithiwr yn cael eu cam-drin, trafodwch y mater gyda nhw mewn lleoliad preifat mewn modd sensitif, gan osgoi gwrthdaro. Os yw'n briodol, cynigiwch yr opsiwn o siarad â rheolwr arall o'r un rhyw neu ethnigrwydd â'r gweithiwr sy'n dioddef cam-drin neu drais domestig.

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i ofyn i weithiwr am gam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol i'w gweld yn ein tudalen Gofyn Cwestiynau Anodd.

Adnoddau Dynol