Mae ein gwerthoedd wrth wraidd popeth a wnawn. Maent yn ein helpu i wneud y penderfyniad iawn ac yn sail i sut rydym yn gweithio.

Mae ein hymddygiad y tu mewn i’n gwerthoedd craidd, mae’n esbonio’r hyn y mae ein gwerthoedd craidd yn ei olygu yn ymarferol. Mae ein hymddygiad yn ymwneud â SUT rydym yn gwneud ein gwaith, mae hyn yn bwysig oherwydd mae sut rydym yn gweithio a sut rydym yn trin eraill yn effeithio ar sut rydym yn darparu gwasanaethau.

Mae Ein Hymddygiad yn:

  • golygu sut rydym yn ymddwyn yn bersonol ('sut’)
  • disgrifio ein hymddygiadau’n glir (gallwn eu deall)
  • yn amlwg (gallwn eu gweld neu eu clywed)

Bydd Ein Hymddygiad yn llywio sut rydym yn gweithio a sut rydym yn trin eraill; mae hyn yr un fath ym mha bynnag swydd rydych yn ei gwneud, ym mha bynnag wasanaeth rydych yn gweithio ynddo.

Mae sut rydym yn gweithio yn gwneud gwahaniaeth - i'w gilydd, i'n gwasanaethau, i Ddatblygu Sir Gaerfyrddin gyda'n gilydd

 

6 Gwerthoedd Craidd – 20 Ymddygiad – 3 Lefelau

Ein 6 gwerthoedd craidd yw'r egwyddorion arweiniol ar gyfer sut rydym yn gweithio (beth sy'n bwysig i ni).

 

Mae ein 20 hymddygiad yn disgrifio camau gweithredu a dulliau unigol ar gyfer sut rydym yn gweithio ac yn trin eraill (mae'n esbonio'r hyn y mae ein gwerthoedd craidd yn ei olygu yn ymarferol)

  • Un Tîm - Cydnabyddiaeth a chefnogaeth, Datblygu a hyfforddi, Addasu i newid
  • Cwsmeriaid yn Gyntaf - Ffocws Cwsmeriaid, Datblygu cysylltiadau a gwasanaethau dwyieithog, Parchu ein hamgylchedd
  • Uniondeb - Arwain a Dirprwyo, Gwneud penderfyniadau, Mynd i'r afael â risg, Cynhwysiant a Gwerthoedd
  • Rhagori - Dysgu a datblygu, Arloesi, Dadansoddi
  • Cymryd Cyfrifoldeb - Cymryd camau, Rheoli perfformiad, Canlyniadau o safon, Dangos cyfrifoldeb
  • Gwrando - Cyfathrebu ag eraill, Deall eraill, Gwrando ar eraill

 

3 lefelau: Gall yr hyn y mae pob ymddygiad yn ei olygu o ran eich rôl fod ychydig yn wahanol, yn dibynnu ar y gwaith rydych yn ei wneud a lefel eich cyfrifoldeb.

  • Cyflawni - Yn cyflawni gwasanaeth yn uniongyrchol: Mae ein holl rolau yn cynnwys darparu gwasanaeth, felly mae'r ymddygiadau hyn yn berthnasol i bob un ohonom.
  • Llywio - Llunio gwasanaeth drwy gyngor, cymorth a/neu reoli adnoddau neu bobl: Gall pob un ohonom weithio tuag at yr ymddygiadau hyn.
  • Arwain - Yn arwain gwasanaeth mewn swyddi uwch neu swyddi arwain: Mae'r ymddygiadau hyn yn rhoi arweiniad a chyfeiriad i eraill, ac yn dylanwadu arnynt o ran sut y dylem weithio a darparu ein gwasanaethau.

Mae'r ymddygiadau hyn yn berthnasol i bob un ohonom, ond gan ddibynnu ar eich rôl, gallwch ddefnyddio'r ymddygiadau mewn un ffordd, dwy ffordd neu ym mhob un o'r tair ffordd a ddangosir yma.

  • Fel unigolion - Bydd Ein Gwerthoedd Craidd a'n Hymddygiad yn rhoi arweiniad o ran sut rydym yn gweithio gan ein helpu i ddeall 'beth yw ystyr da' yn ein rolau a sut y gallwn ddatblygu ymhellach. Bydd hefyd yn ein helpu i adnabod a theimlo'n gyfforddus i herio ymddygiadau nad ydynt o gymorth i'r ffordd rydym yn gweithio.
  • Fel rheolwyr - Bydd Ein Gwerthoedd Craidd a'n Hymddygiad yn arwain y sgyrsiau rydym yn eu cael ag aelodau ein tîm am yr hyn sy'n ddisgwyliedig ohonynt. Byddwn yn defnyddio ein hymddygiad i gefnogi ein pobl i gyrraedd eu potensial a datrys unrhyw broblemau sy'n codi.
  • Fel arweinwyr - Rydym yn dylanwadu ar eraill ac yn gosod esiampl drwy ddangos Ein Gwerthoedd Craidd a'n Hymddygiad yn glir ac annog eraill i wneud yr un peth, a hynny ym mhopeth a wnawn. Bydd Ein Gwerthoedd Craidd a'n Hymddygiad hefyd yn cefnogi'r gwaith o gynllunio, dylunio a chyflawni ein cyfeiriad strategol.

Bydd Ein Gwerthoedd Craidd a'n Hymddygiad yno ar bob cam i'n helpu i wneud gwahaniaeth:

  • denu a recriwtio pobl sy'n rhannu ein gwerthoedd
  • datblygu ein hunain a'n gwasanaethau i'w llawn botensial
  • adnabod cryfderau a dathlu cyflawniadau
  • herio a datrys ymddygiad di-fudd
  • cynllunio ar gyfer y dyfodol
  • helpwch ni i wneud gwahaniaeth - i'w gilydd, i'n gwasanaethau, i Ddatblygu Sir Gaerfyrddin gyda'n gilydd