Canllaw Cam wrth Gam
Gwirio a yw ystafell ar gael ai peidio
Os ydych eisiau gwybod pryd mae ystafell cyfarfodydd ar gael cyn trefnu cyfarfod, mae'n hawdd agor calendr yr ystafell honno o Outlook.
Cam 1
Yn gyntaf, ewch i'ch calendr eich hun. Y peth gorau yw agor y calendr mewn ffenestr newydd.
Cam 2
Cliciwch ar Hafan - Dewiswch "Agor Calendr" > O Restr Ystafelloedd.
Cam 3
Torrwch a gludwch enw Outlook yr ystafell cyfarfodydd (mae'r wybodaeth hon wedi'i darparu ym manylion yr ystafell) neu chwiliwch am yr ystafell gyfarfodydd. Mae ystafelloedd cyfarfodydd wedi'u nodi o dan "Meeting room" er mwyn ei gwneud hi'n haws dod o hyd iddyn nhw. Ar ôl i chi ddod o hyd i'r ystafell gywir, cliciwch ddwywaith i'w gadarnhau a chliciwch Iawn.
Cam 4
Bydd hyn yn agor y calendr ochr yn ochr â'ch calendr eich hunain. O'r man hwn, gallwch weld a yw'r ystafell ar gael ar y dyddiad a'r amser o'ch dewis.
Ar y chwith, fe welwch yr ystafell cyfarfodydd bellach yn eich rhestr o galendrau a rennir. Trwy roi tic/dileu'r tic o'r bocs, gallwch weld/guddio'r calendr ar gyfer yr ystafell. Felly gallwch gadw'r ystafelloedd rydych chi'n edrych arnyn nhw'n aml yn eich rhestr o galendrau a rennir.
Mae'r cyfarwyddiadau hyn wedi cael eu llunio er mwyn ychwanegu/cael golwg ar ystafelloedd cyfarfodydd ond gallwch ddefnyddio'r un dull ar gyfer unrhyw galendr y mae hawl gennych i gael golwg arnynt e.e. cydweithwyr / ceir adrannol. Os oes UNRHYW ystafell ar y rhestr rydych yn ceisio ei hagor ond methu cael golwg arni, dylech gofnodi galwad gyda'r ddesg gymorth oherwydd dylai'r holl staff allu cael golwg ar BOB ystafell.
Diweddarwyd y dudalen: 11/10/2017 12:52:24