Does dim llawer o amser ar ôl i gwblhau ein harolwg ymgysylltu â staff a fydd yn dod i ben ddydd Gwener, 18 Gorffennaf.
Mae nifer y bobl sydd wedi cymryd rhan hyd yma yn fwy nag unrhyw arolwg ymgysylltu â staff arall, sy'n wych – diolch i'r rhai sydd eisoes wedi treulio amser yn cymryd rhan.
Rydym ni'n gwerthfawrogi eich adborth, felly os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny, cymerwch 10 munud yn unig i rannu eich sylwadau a sicrhau bod eich llais wedi'i gynnwys. Mae pob ymateb yn ddienw ac yn cael ei gadw'n gyfrinachol, gan roi'r rhyddid i chi fod yn agored ac yn onest.
>Dweud eich dweud