Twyll a Llygredd

Diweddarwyd y dudalen: 05/11/2020

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin agwedd dim goddefgarwch at bob math o dwyll, arferion llwgr a dwyn, oddi mewn i’r cyngor ac o ffynonellau allanol. Rydym yn cydnabod y gall twyll:

  • Danseilio’r safonau gwasanaeth cyhoeddus mae’r Cyngor yn ceisio eu cyrraedd;
  • Lleihau’r adnoddau a gwasanaethau sydd ar gael i breswylwyr Sir Gaerfyrddin; ac
  • Arwain at ganlyniadau o bwys sy’n lleihau hyder y cyhoedd yn y Cyngor.

Nid yw twyll yn drosedd lle nad oes neb yn dioddef, a gall effeithio arnom ni i gyd:

  • Y gost ariannol – Mewn termau ariannol, mae twyll yn costio biliynau o bunnoedd i’r wlad bob blwyddyn. Mae hefyd yn effeithio ar faint o arian sydd gennym i’w wario ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
  • Y gost ddynol – Mae yna gostau eraill nad ydynt mor amlwg o ganlyniad i rai mathau o dwyll. e.e, un canlyniad i Dwyll Tenantiaethau Tai Cyngor yw bod llai o leoedd ar gael gan amddifadu teuluoedd a phobl agored i niwed sydd ar y rhestr aros.

Os ydych yn amau bod twyll yn digwydd yn erbyn Cyngor Sir Caerfyrddin, riportiwch eich amheuon ar unwaith i'r Swyddogion perthnasol:

Math o Dwyll: Cysylltwch â:
Budd Tal Tai, Treth Gyngor neu Fathodynnau Glas: SWYDDOG YMCHWILIO TWYLL
fraud@carmarthenshire.gov.uk
01554 742129
Pob Twyll arall: PENNAETH REFENIW A CHYDYMFFURFIAETH ARIANNOL
HLPugh@carmarthenshire.gov.uk
01267 246223