Codi anfoneb dyledwr

Diweddarwyd y dudalen: 11/05/2023

Os oes arnoch angen codi anfoneb (anfonebau mân ddyledwyr) i’w hanfon at gwsmer am wasanaethau a ddarparwyd gan neu daliadau sy’n ddyledus i Gyngor Sir Caerfyrddin yna cwblhewch ein ffurflen ar-lein os gwelwch yn dda. Mae’r ffurflen hon ar gyfer defnydd allanol yn unig. Os ydych yn bilio yn fewnol, cysylltwch â'ch adain gyfrifeg.

Mae’n rhaid cwblhau pob adran o’r ffurflen yn llawn neu ni fydd eich anfoneb yn cael ei chynhyrchu. Bydd peth o’r wybodaeth y byddwch chi’n ei darparu’n cael ei chynnwys ar yr anfoneb.

Bydd angen ichi ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

  • Eich adran a’ch enw
  • Eich Rheolwr Cyllideb
  • Enw a chyfeiriad y cwsmer gan gynnwys y côd post
  • Enw a rhif cyswllt i’w cynnwys ar yr anfoneb
  • Rhif archeb gan y cwsmer a chyfeirnod eich adran (os ydynt ar gael)
  • Y rheswm dros bob eitem ar yr anfoneb. Rhowch ddigon o fanylion i wneud y rheswm dros yr anfoneb yn glir i’r cwsmer.
  • Codau ariannol. Côd cyfrif = 4 rhif, Canolfan Gost = 4 rhif, Côd gwaith (dim ond os yw’n angenrheidiol) = 6 rhif, Côd y gwasanaeth = 3 rhif
  • Côd TAW (gweler yr wybodaeth isod)
  • Y dyddiad y darparwyd y gwasanaeth.
  • Cyfanswm gwerth yr holl eitemau. Peidiwch â chynnwys TAW.
  • Cyfanswm gwerth TAW yn unig
  • Cyfanswm gwerth yr anfoneb gan gynnwys TAW

Gallwch ofyn am gopi o’r anfoneb ar gyfer eich cofnodion, a gallwch hefyd ofyn am ddychwelyd yr anfoneb atoch chi cyn ei phostio at y cwsmer.

Cyn cwblhau’r ffurflen byddwch yn cael neges gadarnhau awtomatig trwy’r e-bost a fydd yn datgan bod y cais wedi cael ei anfon i’r adain Mân Ddyledwyr i gael ei brosesu. Pan fydd eich cais wedi cael ei brosesu byddwch yn cael cadarnhad trwy’r e-bost o’r manylion a anfonwyd gennych gan gynnwys pryd y cafodd y rhain eu prosesu.

Dangosyddion TAW

Dylid defnyddio Dangosyddion TAW ar bob cais am anfoneb. Mae’n rhaid ichi gynnwys un dangosydd TAW am bob eitem yr anfonebir amdani 

Côd Math o Ddangosydd TAW
S TAW yn ôl y Gyfradd Safonol o 20%
N TAW yn ôl cyfradd o 0%, Gweithgareddau Heblaw Busnes
X Wedi’i Eithrio Rhag TAW
IR Yn cynnwys TAW yn ôl cyfradd o 5% ar Danwydd
IS Yn cynnwys TAW yn ôl y Gyfradd Safonol
RE Taliadau Trydan Nad Ydynt yn Cynnwys TAW
Z Cyfradd Sero

Pethau y Dylech ac Na Ddylech Eu Gwneud

  • Dylech gydymffurfio â pholisi’r Awdurdod trwy wneud yn siŵr bod y ffurflen yn cael ei chwblhau a’i chyflwyno i’r adain Mân Ddyledwyr o fewn 7 diwrnod gwaith i ddarparu’r gwasanaeth ar gyfer y cwsmer / i ysgwyddo’r tâl a.y.b.
  • Dylech ddarparu naratif sy’n eglur ac yn ddigon manwl i hysbysu’r cwsmer ynghylch y rheswm dros yr anfoneb
  • Dylech gynnwys côd incwm dilys er mwyn codi’r anfoneb.
  • Dylech wneud yn siŵr bod yr holl anfonebau’n cael eu hategu gan gofnodion swyddogol a gedwir o fewn eich adran ac y gellir eu profi os bydd anghydfod neu os na fydd yr Awdurdod yn cael taliad ac yn cymryd camau cyfreithiol.
  • Ni ddylech ddefnyddio’r ffurflen cais am anfoneb i adhawlio arian neu daliadau gan adrannau eraill yng Nghyngor Sir Caerfyrddin.
  • Ni ddylech gyflwyno ffurflenni sy’n anghyflawn neu’n anghywir gan y byddant yn cael eu dychwelyd a chan na fydd anfoneb yn cael ei chodi.
  • Ni ddylech ddangos prisiau sy’n cynnwys TAW. Mae’n rhaid i’r holl brisiau a thaliadau gael eu dangos heb gynnwys TAW. Ond DYLECH sicrhau bod y dangosydd TAW cywir yn cael ei gynnwys a bod swm y TAW yn cael ei ddangos ar wahân. 

Canslo cais i godi anfoneb dyledwyr

Os oes arnoch angen canslo eich cais cwblhewch ffurflen i ofyn am ganslo (.doc) yn llawn a’i dychwelyd trwy’r e-bost i FI Sundry Debtors. Sicrhewch fod copi o’r neges e-bost yn cael ei hanfon at eich Rheolwr Cyllideb er mwyn i’r cais gael ei awdurdodi.  

Ni fyddir yn gweithredu ar unrhyw geisiadau os nad oes copïau ohonynt yn cael eu hanfon at eich Rheolwr Cyllideb. Nid yw’n ofynnol i Reolwyr Cyllidebau ymateb oni bai fod unrhyw ymholiadau neu faterion.