Systemau
Mae'r adran Systemau yn ymdrin â gweinyddu a chynnal a chadw'r system yn gyffredinol.
Mae'r cyfrifoldebau'n cynnwys;
- Lanlwytho trosglwyddiadau, cyfnodolion a chyllidebau
- Ymholiadau ynghylch enw defnyddiwr a chyfrinair
- Gosod defnyddwyr newydd
- Creu a gweinyddu llif gwaith ar gais
- Man cyswllt cyntaf ar gyfer materion yn ymwneud â mynediad
- Cynnal y Siart Cyfrifon
- Creu a chynnal adroddiadau/templedi adroddiadau
- Datganiadau cadw'n ddiogel
- Unrhyw ymholiadau cyffredinol eraill


Adnoddau
Dyma gyfres o ddolenni i adnoddau a fydd yn cynorthwyo defnyddwyr U4BW. Os na allwch ddod o hyd i'r adnoddau sydd eu hangen arnoch, cysylltwch â'r adran berthnasol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Hyfforddiant
Gellir darparu hyfforddiant ynghylch system Unit 4 Business World On! ar gais.
Gallwch wneud cais drwy anfon e-bost at U4BWTrainingRequest@sirgar.gov.uk, a chofiwch nodi'r meysydd yr hoffech gael hyfforddiant yn eu cylch.
Mae cyfres o fideos hyfforddiant wedi cael ei pharatoi, ac mae modd gweld y rhain pan fydd yn gyfleus gennych. Mae'r fideos canlynol bellach ar gael ar y Learning Curve:
- Cyflwyniad i'r system
- Adroddiadau - Cyflwyniad
- Adroddiadau - Copïo canlyniadau i Excel
- Adroddiadau ynghylch ymrwymiadau sydd angen sylw
Efallai y bydd y canllaw ynghylch cyrchu fideos hyfforddiant U4BW yn ddefnyddiol wrth gyrchu'r fideos am y tro cyntaf. Os ydych yn cael trafferth mewngofnodi i'r Learning Curve, cysylltwch â'r tîm Dysgu a Datblygu'n uniongyrchol.
Rydym yn edrych ar y rhaglen hyfforddiant ar hyn o bryd a'r gwahanol ddulliau darparu sydd ar gael. Byddem yn gwerthfawrogi cael unrhyw awgrymiadau a allai fod gennych.
Diweddarwyd y dudalen: 17/09/2019 18:28:56