Rheolau Gweithdrefnau Ariannol

Diweddarwyd y dudalen: 07/03/2023

Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol yn esbonio'r gweithdrefnau y mae'n rhaid i swyddogion eu dilyn i sicrhau safonau uchel o reolaeth ariannol. Maent yn dweud wrthym y pethau na allwn eu gwneud, ond hefyd yn dweud wrthym y pethau y gallwn eu gwneud wrth gadw o fewn y rheolau.

Mae'r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol yn darparu fframwaith ar gyfer dyrannu cyfrifoldebau. Mae cydymffurfio â'r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol yn amddiffyn unigolion sy'n ymgymryd â rheolaeth ariannol a thrafodion.

Tra bo'r Prif Swyddogion yn atebol am ddefnyddio'r adnoddau y rhoddwyd cyfrifoldeb iddynt, byddant yn dirprwyo swyddogaethau o natur ariannol i swyddogion unigol, e.e. rheolaeth gyllidebol, archebu nwyddau a gwasanaethau, talu cyfrifon ac ardystio taflenni amser.

Os yw swyddogion yn ymgymryd â gweithgaredd sy'n effeithio ar gyllid y Cyngor, dylent sicrhau eu bod yn deall gofynion y Rheolau Gweithdrefnau Ariannol fel y gallant gydymffurfio â'r trefniadau cymeradwy.