Clwb Clebran gyda Fin a Sioned o raglen Race Across the World y BBC

I ddathlu diwrnod Shwmae Su'mae eleni rydyn ni'n cynnal Clwb Clebran arbennig gyda Fin Gough a Sioned Cray – y pâr ieuengaf hyd yma sydd wedi cymryd rhan yn rhaglen Race Around the World y BBC.
Roedd Fin a Sioned, sy'n dod o Nantgaredig, wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y gyfres ddiweddaraf, gan ennill calonnau'r genedl gyda'u penderfyniadau, eu hiwmor a'u perthynas agos.
Bydd hwn yn gyfle gwych i gwrdd â nhw a chlywed am eu profiadau, yr hyn a ddysgon nhw ar hyd y ffordd a beth fydd nesaf i'r pâr!
Dewch i'r Clwb Clebran ddydd Mawrth, 21 Hydref rhwng 12.30 a 1.30pm ar Teams.
Os oes gennych gwestiwn, defnyddiwch y swyddogaeth 'sgwrsio' yn ystod y sesiwn neu e-bostiwch iaithgymraeg@sirgar.gov.uk cyn 20 Hydref.
Mae'r Clwb Clebran yn gyfle i chi glywed a siarad Cymraeg mewn awyrgylch anffurfiol.
- Pryd: 12.30-1.30
- Ble: Microsoft Teams