Ebr
23
2024
Clwb Clebran mis Ebrill gydag Adam yn yr Ardd
Rydym yn croesawu'r garddwr 'Adam yn yr Ardd' i Glwb Clebran mis Ebrill.
Mae gan Adam, sy'n dod o Ddyffryn Aman, dros 20 mlynedd o brofiad garddio.
Wedi'i ysbrydoli yn ifanc gan ei dad-cu, ers hynny mae Adam wedi mynd ymlaen i dyfu a dysgu mwy am lysiau, ffrwythau a blodau bob blwyddyn.
Nod Adam yw ceisio byw mor gynaliadwy â phosibl, tra'n parchu a diogelu natur ar yr un pryd.
Ochr yn ochr â'i arddio, efallai eich bod wedi gweld Adam ar y teledu neu ar Instagram yn hyrwyddo garddio drwy'r Gymraeg. Mae hefyd yn mynd allan i ysgolion i hyrwyddo pwysigrwydd garddio.
Dewch i'r sesiwn ar-lein ddydd Mawrth, 23 Ebrill rhwng 12.30 ac 1.30pm ar Microsoft Teams.
Mae'r Clwb Clebran yn gyfle i chi glywed a siarad Cymraeg mewn awyrgylch anffurfiol.
- Pryd: 12:30pm
- Ble: Microsoft Teams